Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad Preifatrwydd – Data arolwg glanweithdra pysgod cregyn

Gwybodaeth am bolisi preifatrwydd data arolwg glanweithdra pysgod cregyn, pam fod angen y data arnom ni, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud â'r data a'ch hawliau.

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yw 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni.

Pa wybodaeth sydd gennym ni?

Mae'r wybodaeth bersonol yr ydym ni'n ei chadw amdanoch chi yn cynnwys enw a chyfeiriad eich busnes.

O ble'r ydym ni'n cael yr wybodaeth hon?

TMae'r ASB yn cael yr wybodaeth hon gan eich awdurdod lleol.

Pam fod angen yr wybodaeth hon arnom ni?

Rydym ni'n derbyn y data hwn gan yr awdurdodau lleol ar ffurf cais am arolwg glanweithdra / pwynt monitro cynrychiadol dros dro i'w gomisiynu ar gyfer ardal gynhyrchu pysgod cregyn posibl. Gwnawn hyn yn unol â'r awdurdod swyddogol sydd gan yr ASB. Ni fyddwn ni'n casglu unrhyw ddata personol gennych chi nad ydym ni ei angen.

Beth fyddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth? 

Dim ond am y cyfnod sydd ei angen i gyflawni'r swyddogaethau hyn rydym ni'n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â'n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y byddwn ni'n cadw'r wybodaeth am 7 mlynedd wedi iddi ddod i law.

Mae'r holl ddata personol rydym ni'n ei brosesu yn byw ar weinyddion o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein gwasanaethau cwmwl wedi’u caffael drwy Gytundebau Fframwaith y Llywodraeth a’u hasesu yn erbyn egwyddorion cwmwl y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

Nid oes gan drydydd partïon fynediad at eich data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny. Yn unol â'r ymrwymiad hwn, dim ond i'r contractwr sy'n gyfrifol am gynnal yr asesiad ac asiantaethau eraill y Llywodraeth sy'n rhan o'r asesiad y caiff eich gwybodaeth ei throsglwyddo.  

Eich hawliau 

Mae gennych chi'r hawl i weld yr wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi drwy wneud cais ysgrifenedig i'r cyfeiriad e-bost isod. Os ydych chi ar unrhyw adeg o'r farn bod yr wybodaeth rydym ni'n ei phrosesu amdanoch chi yn anghywir, gallwch chi wneud cais i'w chywiro. Os hoffech chi wneud cwyn am y ffordd rydym ni wedi trin eich data personol, gallwch chi gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i'r mater.

Os nad ydych chi'n fodlon â'n hymateb neu os ydych chi o'r farn nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â'r gyfraith, fe allwch chi gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).