Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Adroddiad Cyfarwyddwr Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru - mis Chwefror 2022

Penodol i Gymru

Adroddiad Cyfarwyddwr Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru - mis Chwefror 2022

Papur FSAW 22/02/03
I’w drafod
Diweddariad gan y Cyfarwyddwr

Crynodeb Gweithredol

  1. Mae'r papur atodedig yn cyfeirio at faterion a nodwyd gan y Prif Weithredwr yng nghyfarfod diwethaf y Bwrdd a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr 2021. Mae cofnodion llawn y cyfarfod hwnnw ar gael ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) (Saesneg yn unig). Mae’r papur hwn hefyd yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am faterion sy’n berthnasol i Gymru ac yn sail i'r diweddariad i Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru.
     
  2. Bydd Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru yn ategu’r wybodaeth yn yr adroddiad hwn gyda diweddariad ar lafar, lle bo’n briodol.
     
  3. Gwahoddir aelodau i:
  • nodi'r diweddariad
  • gwahodd y Cyfarwyddwr i ymhelaethu ar unrhyw faterion i'w trafod ymhellach.
     

Cyswllt yr ASB yng Nghymru: Lucy Edwards
Lucy.edwards@food.gov.uk

 

Papur FSAW 22/02/03
I’w drafod
Diweddariad gan y Cyfarwyddwr

1.    Crynodeb o Adroddiad y Prif Weithredwr i Gyfarfod Agored y Bwrdd ar 8 Rhagfyr 2021

1.1.    Cafodd y Bwrdd adroddiad ysgrifenedig y Prif Weithredwr (FSA 21/12/03)

2.    Adroddiad Cyfarwyddwr Cymru ar Faterion yn ymwneud â Chymru

Ymgysylltu’n allanol

2.1.    Rwyf wedi bod yn rhan o’r cyfleoedd ymgysylltu canlynol ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru ar 21 Hydref 2021. Sylwch fod yr ymgysylltiad wedi lleihau yn ystod y cyfnod hwn er mwyn canolbwyntio ar gynllunio ar gyfer effaith yr amrywiad Omicron:

  • 10 Tachwedd – Cyfarfod ag Awdurdodau Lleol Rhanbarth De Ddwyrain Cymru 
  • 25 Tachwedd – Cyfarfod Cynllunio Busnes Safonau Masnach Cymru
  • 9 Rhagfyr – Ymweliad Theatr mewn Addysg yr ASB yng Nghymru ag ysgol gynradd Ton-yr-Ywen gydag Emily Miles, y Prif Weithredwr
  • 16 Rhagfyr – Cyfarfod Cyswllt Chwarterol yr ASB yng Nghymru a Llywodraeth Cymru 
  • 24 Ionawr – Cyfarfod Grŵp Bwyd Diogel, Cynaliadwy a Dilys Cymru 
  • 25 Ionawr – Cyfarfod rhagarweiniol gyda Dirprwy Gyfarwyddwr Gwella, Atal a Hybu Iechyd y Cyhoedd Llywodraeth Cymru

Diweddariad COVID-19

2.2     Mae’r ASB wedi parhau i adolygu’r cyngor a’r canllawiau i awdurdodau lleol o ran gweithredu’r cynllun adfer. Ym mis Rhagfyr 2021 gwnaethom ysgrifennu at awdurdodau lleol gan fod nifer yr achosion o COVID-19 yn cynyddu a chyfyngiadau yng Nghymru yn cael eu tynhau. Cynghorwyd awdurdodau lleol i barhau i ddilyn y cynllun adfer lle y gallent wrth i adnoddau gael eu dargyfeirio ac i ystyried cyngor Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ogystal ag asesiadau risg lleol. Rydym ni wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol ar 02 Chwefror 2022 nawr bod cyfyngiadau wedi dychwelyd i lefel 0 ac wedi dweud y dylai awdurdodau lleol, wrth i adnoddau ddychwelyd i reolaethau swyddogol ar fwyd, fod yn ailddechrau ymyriadau a raglennir yn unol â cherrig milltir cam 2 a osodwyd yn y Cynllun Adfer, yn ogystal ag ymgymryd â’r rheolaethau a’r gweithgareddau eraill a nodir.

Adroddiad Blynyddol ar Safonau Bwyd

2.3     Mae’r ASB yng Nghymru yn parhau i gyfrannu at yr Adroddiad Blynyddol. Mae disgwyl i’r adroddiad gael ei osod yn yr haf.

Rheolaethau mewnforio

2.4     Ar 19 Ionawr 2022, cyhoeddodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, ddatganiad ysgrifenedig yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Seilwaith Rheoli Ffiniau. Mae’r ASB yn parhau i weithio gyda swyddogion Llywodraeth Cymru.

Ymgynghoriadau

Byrgyrs heb eu coginio'n drylwyr

2.5    Mae’r canllawiau byrgyrs cig eidion heb eu coginio’n drylwyr wedi'u hadolygu a’u diweddaru a lansiwyd ymgynghoriad 12 wythnos ar 27 Ionawr 2022. Mae’r newidiadau i’r canllawiau wedi’u cynllunio i’w gwneud yn gliriach ac yn haws i’w deall a bydd y canllawiau o fudd i fusnesau a swyddogion awdurdodau lleol. Rydym ni hefyd wedi gofyn i randdeiliaid ystyried a ddylai’r term ‘heb eu coginio’n drylwyr’ gael ei ddisodli gan derm symlach fel amrwd, pinc neu wedi’u coginio’n ysgafn. Ein nod yw cyhoeddi ein hymatebion i’r adborth o fewn tri mis i ddiwedd yr ymgynghoriad.

Cynhyrchion wedi’u Rheoleiddio (GMO) 

2.6     Mae naw GMO wedi’u cyflwyno i’w hawdurdodi yng Nghymru, Lloegr a’r Alban lle caiff y penderfyniad o ran awdurdodi ei wneud gan y Gweinidogion priodol ar gyfer pob un o wledydd Prydain Fawr. Dyma swyddogaeth a gyflawnid yn flaenorol ar lefel yr Undeb Ewropeaidd (UE). Ers diwedd y cyfnod pontio, cyfrifoldeb yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban yw asesu diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid yn y Deyrnas Unedig (DU), a chyfrifoldeb yr awdurdod priodol perthnasol yw awdurdodi cynhyrchion wedi’u rheoleiddio ym mhob gwlad. Lansiwyd yr ymgynghoriad ar 25 Tachwedd 2021 a daeth i ben ar 25 Ionawr 2022. Bydd safbwyntiau terfynol yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban, ynghyd â’r safbwyntiau a gesglir trwy’r ymgynghoriad hwn, yn cael eu hystyried ochr yn ochr â barn Swyddogion y Llywodraethau Datganoledig yng Nghymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon, ac adrannau eraill Llywodraeth y DU heblaw’r ASB er mwyn llywio penderfyniadau Gweinidogion o ran a ddylid awdurdodi’r GMOs unigol i’w defnyddio yng Nghymru, yr Alban, a Lloegr.

2.7     Mae chwe Bwyd Newydd wedi’u cyflwyno i’w hawdurdodi ym mhob un o wledydd Prydain Fawr, lle caiff y penderfyniad o ran awdurdodi ei wneud gan y Gweinidogion priodol yng Nghymru, yr Alban a Lloegr. Dyma swyddogaeth a gyflawnid yn flaenorol ar lefel yr Undeb Ewropeaidd (UE). Ers diwedd y cyfnod pontio, cyfrifoldeb yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban yw asesu diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid yn y DU, a chyfrifoldeb yr awdurdod priodol perthnasol yw awdurdodi bwydydd newydd ym mhob un o wledydd Prydain Fawr. Mae’r ymgynghoriad ar agor rhwng 17 Rhagfyr 2021 a 11 Chwefror 2022. Bydd safbwyntiau terfynol yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban, ynghyd â’r safbwyntiau a gesglir trwy’r ymgynghoriad hwn, yn cael eu hystyried ochr yn ochr â barn Swyddogion y Llywodraethau Datganoledig yng Nghymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon, ac adrannau eraill Llywodraeth y DU heblaw’r ASB er mwyn llywio penderfyniadau Gweinidogion o ran a ddylid awdurdodi’r bwydydd newydd unigol i’w defnyddio yng Nghymru, yr Alban, a Lloegr.

Labelu Alergenau Rhagofalus (PAL): Ymgynghoriad ‘gallai gynnwys’

2.8     Diben yr ymgynghoriad hwn, sy’n cael ei gynnal rhwng 6 Rhagfyr 2021 a 14 Mawrth 2022 yw cael gwybodaeth a safbwyntiau mewn perthynas â darparu labelu alergenau rhagofalus a gwybodaeth ragofalus am alergenau. Mae'r ddeddfwriaeth labelu gyfredol yn ei gwneud yn ofynnol i gynhyrchion bwyd nodi presenoldeb unrhyw un o'r 14 prif alergen a ddefnyddir fel cynhwysyn neu gymhorthyn prosesu. Fodd bynnag, mewn achosion lle bo risg o groeshalogi alergenau yn anfwriadol (er enghraifft, lle mae llawer o fwydydd yn cael eu paratoi yn yr un gegin), ac mae’r busnes bwyd wedi pennu na ellir rheoli'r risg yn ddigonol, yr arfer gorau yw defnyddio datganiad labelu alergenau rhagofalus i gyfleu'r risg hon. Bydd adborth yn helpu’r ASB i ystyried dulliau posibl ar gyfer labelu alergenau rhagofalus ar gyfer bwydydd wedi’u pecynnu ymlaen llaw a gwybodaeth ragofalus am alergenau ar gyfer bwydydd heb eu pecynnu ymlaen llaw, fel bod yr wybodaeth:

  • yn cael ei chyfathrebu i ddefnyddwyr yn gliriach ac yn fwy cyson, mewn ffordd ddealladwy ac ystyrlon o ran ffurf a chynnwys yr wybodaeth
  • yn seiliedig ar brosesau cymesur a safonol ar gyfer asesu, rheoli a chyfathrebu'r risg o groeshalogi alergenau gan fusnesau bwyd


Adolygiad o Reoliad a Ddargedwir 2016/6 ar fewnforio bwyd o Japan yn dilyn damwain niwclear Fukushima

2.9    Fe gafodd Rheoliad 2016/6 ei ddargadw ym Mhrydain Fawr yn dilyn ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd (UE) ac mae'n cymhwyso rheolaethau manylach ar rai bwydydd wedi’u mewnforio o Japan o ganlyniad i ddamwain niwclear Fukushima ym mis Mawrth 2011. Mesur brys oedd hwn i ddiogelu defnyddwyr rhag bwyd wedi'i fewnforio a allai fod wedi ei halogi â deunydd ymbelydrol a ryddhawyd yn dilyn y ddamwain niwclear. Mae Rheoliad a ddargedwir 2016/6 yn pennu'r lefelau uchaf o gesiwm ymbelydrol ar fwyd a bwyd anifeiliaid o Japan. Fodd bynnag, gellir mewnforio mwyafrif y bwydydd o Japan eisoes i'r DU heb unrhyw reolaethau manylach gan fod lefelau ymbelydredd yn isel iawn ac ymhell islaw'r lefelau uchaf hyn. Mae'r rheolaethau manylach yn berthnasol i nifer gyfyngedig o fwydydd gan gynnwys rhai rhywogaethau o bysgod, madarch gwyllt a llysiau Japaneaidd wedi'u fforio y mae rheolaethau manylach yn parhau i fod ar waith ar eu cyfer. Dim ond mewn symiau bach y mae'r cynhyrchion hyn yn cael eu mewnforio i'r DU, yn bennaf ar gyfer bwytai sy'n arbenigo mewn bwyd Japaneaidd a defnyddwyr bwydydd traddodiadol Japaneaidd. Lansiwyd yr ymgynghoriad ar 10 Rhagfyr 2021 a daw i ben ar 11 Chwefror 2022.
 

Bil Bwyd (Cymru)

2.10     Cafodd cynigion gan yr Aelod Seneddol Peter Fox i gyflwyno Bil Bwyd (Cymru) newydd ei gefnogi gan bleidlais yn y Senedd ar 17 Tachwedd 2021. Byddai’r Bil yn sefydlu system fwyd fwy cynaliadwy yng Nghymru i gryfhau diogelwch bwyd, gwella llesiant economaidd-gymdeithasol Cymru, a gwella dewis i ddefnyddwyr. Bellach mae gan Peter Fox AS 13 mis (yn dechrau o fis Tachwedd 2021) i baratoi’r manylion a chyflwyno’r Bil yn ffurfiol i’r Senedd. Bydd Aelodau’r Senedd yn pleidleisio ar y cynigion, ac os bydd yn llwyddiannus, bydd Bil Bwyd (Cymru) yn symud drwy’r camau craffu gan y Senedd.

Diweddariad ar Bwerau’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd

2.3    Ers cryn amser, mae’r ASB wedi bod yn ceisio rhoi’r pwerau cyfreithiol priodol i’w Huned Genedlaethol Troseddau Bwyd (yr Uned) i arwain ymchwiliadau’n effeithiol ac i ddod ag achosion o droseddau bwyd difrifol, cyfundrefnol a chymhleth i erlynwyr yn annibynnol. Mae’r mater wedi’i ystyried yn ddiweddar yn Nhŷ’r Arglwyddi gyda diwygiad llwyddiannus (a gyflwynwyd gan yr Arglwydd Rooker) i Fesur yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd a fyddai’n galluogi’r Uned i gael pwerau. Bydd y Bil yn cael ei drafod ymhellach wrth iddo fynd drwy’r Senedd. 

Cyllid

2.5    Rydym ni’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar y broses sy’n cadarnhau ein cyllid ar gyfer 2022/23 ynghyd ag unrhyw feysydd ffocws y bydd y Dirprwy Weinidog yn gofyn amdanynt. Dylai’r broses hon ddod i ben erbyn diwedd mis Mawrth 2022, er bod hyn yn amodol ar broses pennu cyllideb Llywodraeth Cymru drwy Senedd Cymru.

3.    Cyfarwyddwr Cymru yn Bwrw Golwg Ymlaen

3.1     Rhwng nawr a chyfarfod agored nesaf â thema Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru ar 21 Ebrill 2022, rydw i wedi ymrwymo i'r pethau hyn sy'n berthnasol i'r ASB yng Nghymru: 

  • 17 Chwefror – Cyfarfod cyswllt yr ASB/Llywodraeth Cymru
  • 10 Mawrth – Diwrnod Cwrdd i Ffwrdd i Staff yr ASB yng Nghymru
  • 5 Ebrill – Cyfarfod y Grŵp Cynghori ar Ddiogelu Iechyd
  • Dyddiad i'w gadarnhau – Cyfarfod ag aelodau Cyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd, Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i drafod sut y gallwn barhau i gryfhau gweithio ar y cyd.  
     


Nathan Barnhouse
Cyfarwyddwr, yr ASB yng Nghymru
Chwefror 2022