Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Cyfarfod Bwrdd a Phwyllgor Busnes yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) – Rhagfyr 2021

Cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd – Rhagfyr 2021: Fideo a Chofnodion

Cofnodion a recordiad fideo Cyfarfod Bwrdd a Phwyllgor Busnes yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ddydd Mercher 8 Rhagfyr 2021.

 

Yng nghyfarfod Bwrdd yr ASB ar 8 Rhagfyr 2021, nododd ein Prif Weithredwr, Emily Miles, ddull cymesur yr ASB tuag at reoleiddio CBD. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod y diwydiant yn cydymffurfio â’r gofyniad i gynhyrchion CBD fod yn destun asesiad diogelwch yr ASB, a’r camau nesaf yn y broses honno, gan gynnwys diweddaru’r rhestr gyhoeddus CBD.

Bu’r Bwrdd hefyd yn trafod papur ar ddeall safbwyntiau defnyddwyr ac yn clywed diweddariad ar gyfnod pontio’r Undeb Ewropeaidd. Cyflwynwyd yr adroddiad Gwyddoniaeth blynyddol ar gyfer 2021 yn y cyfarfod hefyd.

Mae agendâu a phapurau llawn y cyfarfod ar gael, a gallwch chi wylio Cyfarfod Bwrdd a Phwyllgor Busnes yr ASB – 08 Rhagfyr 2021 ar YouTube.

Fideo o gyfarfod Bwrdd a Phwyllgor Busnes yr ASB – Rhagfyr 2021

{"preview_thumbnail":"/sites/default/files/styles/video_embed_wysiwyg_preview/public/video_thumbnails/IFh2w8GCyEQ.jpg?itok=L83LAAkW","video_url":"https://www.youtube.com/watch?v=IFh2w8GCyEQ","settings":{"responsive":1,"width":"854","height":"480","autoplay":0},"settings_summary":["Embedded Video (Responsive)."]}

Cofnodion cyfarfod Bwrdd yr ASB – Rhagfyr 2021

Cyhoeddir cofnodion cyfarfodydd y Bwrdd a’r Pwyllgor Busnes ym mis Rhagfyr 2021 yn dilyn eu cadarnhad cyhoeddus ym mis Mawrth 2022.