Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Cyfarfod Bwrdd a Phwyllgor Busnes yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) – Rhagfyr 2021

Cyfarfod Pwyllgor Busnes yr ASB – Rhagfyr 2021: Agenda a phapurau

Agenda a phapurau ar gyfer cyfarfod Pwyllgor Busnes yr ASB ar 8 Rhagfyr 2021 yng ngwesty’r Gyfnewidfa Lo, Caerdydd.

Yn dilyn cyfarfod Bwrdd yr ASB, bydd cyfarfod y Pwyllgor Busnes hwn, sydd hefyd wedi’i gadeirio gan yr Athro Susan Jebb, yn ymdrin â’r adroddiad Perfformiad ac Adnoddau, Diweddariad Blynyddol yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd, Diweddariad ar Gynllun Adfer Awdurdodau Lleol, a Diweddariad ar Gyfathrebu.

Sylwch fod yr adroddiadau canlynol ar gael yn Saesneg yn unig.

13:45 – Cyflwyniad gan y Cadeirydd

Mae’r Athro Susan Jebb yn cyflwyno cofnodion a chamau gweithredu cyfarfod blaenorol Pwyllgor Busnes yr ASB ym mis Medi 2021.

13:50 – Adroddiad y Prif Weithredwr i’r Pwyllgor Busnes

Mae Emily Miles yn cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr i’r Pwyllgor Busnes.

14:10 – Adroddiad ar Berfformiad ac Adnoddau Chwarter 2 2021-22

Mae Pam Beadman yn cyflwyno diweddariad ar berfformiad ac adnoddau Chwarter 2 2021-22 gan gynnwys safonau hylendid cig, cyflawni ein blaenoriaethau corfforaethol, ac amrywiaeth a chynhwysiant.

14:30 – Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (yr Uned) – Diweddariad Blynyddol

Mae Colin Sullivan a Darren Davies yn cyflwyno papur sy’n amlinellu cyd-destun gweithredu cyfredol yr Uned, ac sy’n tynnu sylw at y prif heriau y mae'r Uned yn parhau i'w hwynebu.

15:00 – Diweddariad ar Gynllun Adfer Awdurdodau Lleol

Mae Maria Jennings a Michael Jackson yn cyflwyno papur sy’n darparu crynodeb o weithgareddau rheolaethau bwyd swyddogol awdurdodau lleol, a gweithgareddau sicrwydd yr ASB ar gyfer 2020/21 a ddefnyddiwyd i lywio datblygiad Cynllun Adfer Awdurdodau Lleol.

15:20 – Diweddariad Cyfathrebu

Mae Steven Pollock, Justin Everard a Sarah Gibbons yn cyflwyno papur sy’n rhoi diweddariad blynyddol ar gyfathrebu ac ymgysylltu.

15:40 – Unrhyw faterion eraill