Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil

Beth yw Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil a'n canlyniadau diweddaraf.

Arolwg a gynhelir ar draws sefydliadau'r Gwasanaeth Sifil yw Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil. Mae'n ystyried agweddau Gweision Sifil tuag at weithio mewn adrannau o'r llywodraeth a'u profiad nhw o weithio o fewn yr adrannau hynny.

Elfen allweddol o'r Arolwg Pobl yw'r 'Mynegai Ymgysylltu â Chyflogeion'. Mae hyn wedi'i seilio ar dystiolaeth bod cysylltiad rhwng staff hynod gyfrannog, lefelau uchel o ran iechyd a lles, a pherfformiad sefydliadol.

Caiff ymgysylltu â chyflogeion ei fesur gan naw thema (sbardunau ymgysylltu):

  1. fy ngwaith
  2. amcanion a phwrpas sefydliadol 
  3. fy rheolwr
  4. fy nhîm
  5. dysgu a datblygu
  6. cynhwysiant a thriniaeth deg
  7. adnoddau a llwyth gwaith
  8. tâl a buddion
  9. arweinyddiaeth a rheoli newid

Arolwg Pobl yr ASB 2019

Y gyfradd ymateb i Arolwg Pobl yr ASB 2019 oedd 87%, a’r gyfradd ymateb i’r Mynegai Ymgysylltu â Chyflogeion oedd 67%.  Am y tro cyntaf, mae’r ASB wedi sgorio yn y 25% uchaf o’r adrannau sy’n cymryd rhan, sy’n golygu ein bod ni’n Adran y Gwasanaeth Sifil sy’n Perfformio’n Uchel.

Mae hyn yn cyd-fynd â’r nod sydd yn ein Strategaeth Pobl 2017-2020, sef gwella o fod yn lle da i fod yn lle gwych i weithio, wedi’i fesur trwy gyflawni statws Perfformio’n Dda.

Mae ein canlyniadau cyffredinol yn dangos gwelliannau ym mhob un o’r naw thema, gan gyflawni ein sgôr uchaf neu’n hafal i’r sgôr uchaf ar gyfer pob thema.

Rydym ni wedi ymrwymo i weithredu ar ganlyniadau’r Arolwg Pobl trwy ein cynllun gweithredu corfforaethol sy’n ategu’r broses cynllun gweithredu leol.