Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
page

Clare Evans – Aelod o Fwrdd ASB

Yn amlinellu hanes proffesiynol Aelodau ein Bwrdd ac yn rhoi manylion am unrhyw fuddiannau busnes a allai fod ganddynt er mwyn sicrhau tryloywder.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Mai 2026
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Mai 2026
Clare Evans - Aelod o Fwrdd ASB

Clare Evans - Aelod o Fwrdd ASB

Proffil

Mae gan Clare Evans brofiad helaeth yn y sector gweithgynhyrchu bwyd, gan gynnwys bwydydd cyflym, wedi’u hoeri, amgylchynol a bwydydd wedi’u rhewi, a hynny mewn rolau masnachol a gweithredol.

Bu’n gweithio i Greencore Foods am fwy na 26 mlynedd, a hynny mewn nifer o rolau gweithredol, gan gynnwys Prif Swyddog Gweithredu, Rheolwr Gyfarwyddwr a Chyfarwyddwr Masnachol. Fel Prif Swyddog Gweithredu, roedd Clare yn gyfrifol am 16 o safleoedd gweithgynhyrchu, y gadwyn gyflenwi, iechyd a diogelwch, diogelwch bwyd, a’r elfennau technegol a chynaliadwyedd.  

Ers gadael Greencore yn 2022, mae Clare wedi bod yn gweithio fel ymgynghorydd, cynghorydd a hyfforddwr ar draws y sector bwyd ac amaethyddiaeth, yn ogystal â bod yn ymddiriedolwr gyda FareShare Yorkshire. 

Cofrestr

Gofynnir i Aelodau Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ddatgan unrhyw fuddiannau neu fuddiannau partïon cysylltiedig sy’n berthnasol i waith yr ASB yn ogystal â phob cyflogaeth, gwaith a phenodiad allanol y ceir tâl amdanynt (p’un a ydynt yn berthnasol ai peidio).

Gall unigolyn fod â buddiannau eraill ac, er bod yr ASB yn ymwybodol o’r rhain, bernir nad ydynt yn berthnasol i rôl yr Aelodau ac felly nid ydynt o fewn y cwmpas ar gyfer cyhoeddi.

Mae’r adran yn rheoli’r holl fuddiannau perthnasol i atal y risg o wrthdaro buddiannau canfyddedig, posib neu wirioneddol.

  • Rheolwr Gyfarwyddwr – CSEvans Consults
  • Ymddiriedolwr – Fareshare Yorkshire