Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
page

Clare Evans – Aelod o Fwrdd ASB

Yn amlinellu hanes proffesiynol Aelodau ein Bwrdd ac yn rhoi manylion am unrhyw fuddiannau busnes a allai fod ganddynt er mwyn sicrhau tryloywder.

Diweddarwyd ddiwethaf: 16 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 16 Medi 2025
Clare Evans - Aelod o Fwrdd ASB

Clare Evans - Aelod o Fwrdd ASB

Mae gan Clare Evans brofiad helaeth yn y sector gweithgynhyrchu bwyd, gan gynnwys bwydydd cyflym, wedi’u hoeri, amgylchynol a bwydydd wedi’u rhewi, a hynny mewn rolau masnachol a gweithredol.

Bu’n gweithio i Greencore Foods am fwy na 26 mlynedd, a hynny mewn nifer o rolau gweithredol, gan gynnwys Prif Swyddog Gweithredu, Rheolwr Gyfarwyddwr a Chyfarwyddwr Masnachol. Fel Prif Swyddog Gweithredu, roedd Clare yn gyfrifol am 16 o safleoedd gweithgynhyrchu, y gadwyn gyflenwi, iechyd a diogelwch, diogelwch bwyd, a’r elfennau technegol a chynaliadwyedd.  

Ers gadael Greencore yn 2022, mae Clare wedi bod yn gweithio fel ymgynghorydd, cynghorydd a hyfforddwr ar draws y sector bwyd ac amaethyddiaeth, yn ogystal â bod yn ymddiriedolwr gyda FareShare Yorkshire. 

Buddiannau personol

Ymgynghoriaethau a/neu gyflogaeth uniongyrchol:

  • Ymgynghorydd, cynghorydd a hyfforddwr ar draws y sector bwyd ac amaethyddol

Rolau di-dâl:

  • Dim.

Gwaith â thâl:

  • Dim.

Rhanddaliadau:

  • Dim

Clybiau a sefydliadau eraill:

  • Dim.

Buddiannau personol eraill:

  • Dim.

Cymrodoriaethau:

  • Dim.

Cymorth anuniongyrchol:

  • Dim.

Ymddiriedolaethau:

  • Fareshare Yorkshire

Tir ac eiddo:

  • Dim.

Penodiadau cyhoeddus eraill:

  • Dim.

Buddiannau eraill nad ydynt yn bersonol

  • Rhanddaliadau Greencore Group PLC a ddelir gan ei gŵr