Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Crynodeb o’n Polisi Amgylcheddol

Crynodeb o Bolisi Amgylcheddol yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cydnabod bod ganddi gyfrifoldeb tuag at yr amgylchedd, ac mae wedi ymrwymo i leihau effaith ei gweithgareddau ar yr amgylchedd. Gallwn wneud gwahaniaeth a hyrwyddo’r agenda werdd drwy ein polisïau a’n harferion busnes. Rydym wedi bod yn gweithio’n galed i roi’r rhain ar waith, ac mae hyn wedi golygu ein bod wedi llwyddo i gadw achrediad ISO 14001 am ail flwyddyn.

Heb weithredu, bydd effeithiau newid yn yr hinsawdd yn ddinistriol yn fyd-eang. Drwy hyrwyddo mwy o gynaliadwyedd amgylcheddol, gallwn gyfrannu at aer glanach, twf adnoddau y gellir dibynnu arnynt, gwell ansawdd a glendid dŵr ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae’r Strategaeth Cynaliadwyedd Amgylcheddol a gyhoeddwyd gennym yn nodi ein hymrwymiad i gefnogi llywodraeth y DU i gyrraedd ei tharged o leihau allyriadau 78% erbyn 2035 o gymharu â lefelau 1990, ac i helpu i gyflawni allyriadau carbon sero net erbyn 2050. Gwnaethom nodi tri maes blaenoriaeth lle credwn y gallwn wneud enillion cadarnhaol, mesuradwy a pharhaol tuag at gyflawni sero net:

  • lleihau ein hôl troed carbon – trwy leihau’n raddol ein hallyriadau CO2 sy’n gysylltiedig â’n hystadau a theithiau ein staff ar awyrennau, trenau ac ar y ffyrdd
  • gwarchod adnoddau naturiol – trwy leihau gwastraff ar draws ein hystadau, a thrwy ddilyn a hyrwyddo mesurau i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu
  • blaenoriaethu caffael cynaliadwy – trwy ddylanwadu’n gadarnhaol ar berfformiad cynaliadwyedd cyflenwyr, a thrwy werthuso cymwysterau cynaliadwyedd y nwyddau a’r gwasanaethau rydym yn eu prynu

Mae’r polisi hwn hefyd yn cyd-fynd â strategaeth gyffredinol yr ASB, sy’n cynnwys ein cenhadaeth, sef bwyd y gallwch ymddiried ynddo a bwyd sy’n fwy cynaliadwy. Mae ein timau’n gweithio i ddeall yn well sut beth yw hyn a nodi lle y gallwn ddylanwadu ar eraill yn y system fwyd ac ar draws y llywodraeth ehangach i weithredu.

Mae’r ASB wedi ymrwymo i wella perfformiad amgylcheddol yn barhaus. Er mwyn helpu i sicrhau ein bod yn cyflawni, byddwn yn olrhain ein cynnydd wrth i ni fynd ymlaen, gan fonitro’r cynnydd hwnnw bob chwarter yn erbyn y targedau. Adroddir yn ganolog ar y targedau sy’n cyd-fynd â thargedau Ymrwymiadau Gwyrddu’r Llywodraeth (GGC) fel rhan o’r datganiad GGC chwarterol. Bydd crynodeb cyffredinol o’r cynnydd a wnaed yn erbyn targedau allweddol a sut rydym yn datblygu ac yn gweithredu ein Strategaeth Cynaliadwyedd Amgylcheddol yn cael ei nodi’n flynyddol yn ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon.

Bydd y Polisi hwn yn cael ei rannu gyda’r holl staff, contractwyr a chyflenwyr, a bydd ar gael i’r cyhoedd.

Gellir cael hyd i gopi o’r ddogfen bolisi hon ar ein mewnrwyd sydd ar gael i holl staff yr ASB.

Wedi’i gymeradwyo gan: Ruth Nolan, Cyfarwyddwr Pobl ac Adnoddau’r ASB