Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Strategaeth Cynaliadwyedd Amgylcheddol yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Mae ein Strategaeth Cynaliadwyedd Amgylcheddol yn nodi ein hymrwymiad i gefnogi llywodraeth y Deyrnas Unedig (DU) i gyrraedd ei tharged i leihau allyriadau erbyn 2035, gan helpu’r DU i fod yn sero net erbyn 2050.

Crynodeb Gweithredol

Heb ymrwymiad gwirioneddol gan lywodraethau, sefydliadau ac unigolion i weithredu, bydd effeithiau newid hinsawdd yn ddinistriol yn fyd-eang. Yn y strategaeth hon, rydym wedi nodi meysydd lle credwn y gall yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wneud gwahaniaeth a hyrwyddo'r agenda werdd trwy gymryd camau i wella ein cynaliadwyedd amgylcheddol trwy ein polisïau a'n harferion busnes, a lle gallwn geisio dylanwadu ar ein rhanddeiliaid a'n partneriaid i wneud yr un peth.

Rydym eisoes wedi cymryd camau cadarnhaol i leihau ein heffaith amgylcheddol. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi lleihau maint ein hystâd, sydd wedi ein galluogi i gwtogi ar ein defnydd o ddŵr ac ynni; rydym yn gweithredu cynllun beicio i'r gwaith ac yn defnyddio cynllun ceir fflyd sy'n blaenoriaethu cerbydau allyriadau isel; rydym yn darparu biniau ar wahân yn ein swyddfeydd ar gyfer gwastraff bwyd a deunyddiau ailgylchadwy eraill; ac rydym yn gwneud defnydd cynyddol o dechnoleg glyfar ar gyfer busnes, gan ddarparu ystod o offer ar gyfer cydweithredu digidol a lleihau’r angen i deithio at ddibenion swyddogol. Ond rydym am fynd ymhellach.

Yn y strategaeth hon, rydym yn nodi ein hymrwymiad i leihau ein hôl troed carbon ymhellach, hyrwyddo arferion gorau cynaliadwyedd, cadw adnoddau naturiol, a meithrin ymwybyddiaeth o'r amgylchedd trwy ein polisïau a'n harferion.

Yn ystod pandemig COVID-19, cafodd y newid i weithio o bell a chwtogi ar deithio effaith gadarnhaol ar ein hallyriadau carbon. Wrth i ni ymaddasu yn y cyfnod ar ôl y pandemig, mae gennym gyfle i wreiddio cynaliadwyedd amgylcheddol yn y ffordd yr ydym yn meddwl ac yn gweithio, yn enwedig drwy fanteisio i’r eithaf ar hyblygrwydd Ein Ffyrdd o Weithio (OWOW), a’n gwasanaethau Digidol a Thechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, i gyrraedd ein targedau.

Mae’r elfennau hyn wrth wraidd ein gwaith yn yr ASB. Bydd newid hinsawdd yn cael effaith negyddol ar systemau bwyd a chadwyni cyflenwi os na chaiff ei reoli, a bydd hyn, yn ei dro, yn ei gwneud yn fwyfwy heriol i ni gyflawni ein cenhadaeth, sef bwyd y gallwn ymddiried ynddo. Mae’r ASB wedi ymrwymo i sicrhau bod ein strategaeth yn cael ei chyflawni yn unol â thargedau cenedlaethol sy’n gyfreithiol rwymol, yn ogystal â’n bod yn cyflawni ein rhwymedigaethau o dan Ymrwymiadau Gwyrddu’r Llywodraeth. Bydd y strategaeth ond yn llwyddo os bydd pob un ohonom yn ei mabwysiadu a’i rhoi ar waith.

Mae’r ASB wedi sefydlu Grŵp Gweithredu ar yr Hinsawdd a’r Amgylchedd (CEAG) – sef rhwydwaith staff o wirfoddolwyr – i gefnogi cydweithwyr ym mhob maes busnes i sefydlu diwylliant gweithio mwy gwyrdd. Mae'r grŵp hwn eisoes wedi helpu i godi ymwybyddiaeth ar draws yr ASB, ac ar hyn o bryd maent yn gweithio'n galed i ennill Achrediad Rheoli Amgylcheddol ISO 14001 – safon a gydnabyddir yn fyd-eang – ar ran yr ASB.

Er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni, byddwn yn olrhain ein cynnydd wrth i ni fynd ymlaen, gan fonitro’r cynnydd a wneir yn erbyn y targedau bob chwarter. Adroddir yn ganolog ar y targedau sy'n cyd-fynd â thargedau Ymrwymiadau Gwyrddu'r Llywodraeth (GGC) fel rhan o'r datganiad GGC chwarterol. Bydd crynodeb cyffredinol o’r cynnydd a wnaed yn erbyn targedau allweddol a sut rydym yn datblygu ac yn gweithredu ein Strategaeth Cynaliadwyedd Amgylcheddol yn cael ei nodi’n flynyddol yn ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon.

Cyflwyniad

Mae'r byd yn wynebu argyfyngau digynsail o ran newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Mae disgwyl i dymheredd byd-eang godi mwy na 3°C y ganrif hon, ac wrth i fioamrywiaeth ddirywio’n gynt nag ar unrhyw adeg yn hanes dyn, mae tua miliwn o rywogaethau’n wynebu difodiant oni bai bod camau brys yn cael eu cymryd i leihau effeithiau newid hinsawdd.

Yn 2019, y DU oedd yr economi fawr gyntaf yn y byd i gyflwyno deddfau i roi diwedd ar ei chyfraniad i gynhesu byd-eang erbyn 2050. Ymhellach, ym mis Tachwedd 2021, croesawodd y DU COP26, gan ddod â mwy na 190 o arweinwyr y byd ynghyd, mewn eiliad hollbwysig yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.

Er mwyn helpu i ysgogi a chyflawni carbon sero net erbyn 2050, fe wnaeth Llywodraeth y DU drosi un o dargedau newid hinsawdd mwyaf uchelgeisiol y byd yn gyfraith ym mis Ebrill 2021, sef i leihau allyriadau 78% erbyn 2035 o gymharu â lefelau 1990. Mae hyn yn adeiladu ar ymrwymiad holl adrannau Llywodraeth y DU a’u hasiantaethau i gymryd camau er mwyn lleihau eu heffeithiau ar yr amgylchedd yn Ymrwymiadau Gwyrddu’r Llywodraeth.

Wrth ddatblygu'r strategaeth hon rydym wedi nodi tri maes lle credwn y gall yr ASB gymryd camau cadarnhaol, mesuradwy a pharhaol tuag at gyflawni sero net. Nid yw'n rhestr hollgynhwysfawr, ond mae’n nodi’r meysydd lle y credwn y gallwn gael yr effaith fwyaf. Dyma’r tri maes:

  • lleihau ein hôl troed carbon
  • gwarchod adnoddau naturiol
  • blaenoriaethu caffael cynaliadwy

Mae ein strategaeth wedi’i datblygu dan arweiniad Grŵp Gweithredu Hinsawdd ac Amgylchedd (CEAG) yr ASB, gan gweithio ar y cyd â ffrydiau busnes allweddol, gan gynnwys ystadau a masnachol.

1. Lleihau ein hôl troed carbon

Trafnidiaeth yw’r sector gwaethaf yn y DU o ran rhyddhau allyriadau nwyon tŷ gwydr, gan gyfrannu 27% o holl allyriadau domestig y DU yn 2019. Er bod yr ASB eisoes wedi gwneud newidiadau sylweddol i gontractau staff i gefnogi ac annog arferion gweithio rhithwir o bell, mae mwy y gellir ei wneud o hyd i adeiladu ar y newid diwylliannol a grëwyd gan y pandemig COVID-19, er mwyn lleihau effaith amgylcheddol teithio busnes ymhellach.

Rydym yn addo lleihau ein hôl troed carbon 78%

Nod trosfwaol

Cyfrannu at dargedau’r llywodraeth ar gyfer gostyngiad o 78% erbyn 2035 drwy leihau’n raddol ein hallyriadau CO2 sy’n gysylltiedig â theithio awyr, rheilffyrdd a ffyrdd gan staff.

Prif darged

Lleihau ein hallyriadau CO2 26% o waelodlin 2017/18 (cyn y camystumiad a grëwyd gan y pandemig COVID-19) erbyn 2025, gan symud yr ASB draean o’r ffordd tuag at gyflawni targedau’r llywodraeth gyfan ar gyfer 2035.

Targedau ategol

  • lleihau 50% ar nifer y milltiroedd busnes a gaiff eu teithio o waelodlin 2017/18 (cyn y camystumiad a grëwyd gan y pandemig COVID-19)
  • lleihau’r pellter a deithir gan hediadau domestig 20% o waelodlin 2017/2018  
  • ymrwymiad i adrodd ar y pellter a deithiwyd ar hediadau rhyngwladol
  • bodloni Ymrwymiad Fflyd y Llywodraeth ar gyfer sicrhau bod 25% o geir brydles yr ASB yn Gerbydau Allyriadau Isel Iawn (ULEV) erbyn 2022 a 100% erbyn 2027.

Dangosyddion perfformiad allweddol

  • gostyngiad cyffredinol mewn allyriadau CO2 o ddata teithio swyddogol (tunelli/CALl)
  • gostyngiad mewn archebion teithio i fynychu cyfarfodydd mewnol – sy’n arwydd o newid i fwy o gydweithio digidol gan arwain at lai o deithiau rhwng swyddfeydd (%).
  • gostyngiad mewn hediadau domestig (%)
  • cynnydd yn y defnydd o fflyd drydan; cerbydau ar gyfer teithio swyddogol (%)

Mecanweithiau gweithredu allweddol

  • diweddaru ein polisi teithio i adlewyrchu manteision amgylcheddol osgoi teithio lle bo modd a, lle bo teithiau’n hanfodol, defnyddio dulliau teithio llai dwys o ran carbon, fel rheilffyrdd
  • cynnwys cwotâu allyriadau CO2 penodol i’r gyfarwyddiaeth yn ein polisi Teithio a Chynhaliaeth i adlewyrchu ein huchelgais i leihau ein hôl troed carbon
  • defnyddio technoleg/digidol yn gyntaf fel sbardun polisi allweddol i leihau teithio/ynni a gwastraff
  • gwneud mwy i hyrwyddo offer digidol a hyblygrwydd Ein Ffyrdd o Weithio i annog dewisiadau amgen i gyfarfodydd wyneb yn wyneb, a lleihau teithio diangen
  • cadarnhad/gwiriad cynaliadwyedd wrth archebu trafnidiaeth er mwyn annog pobl i ddewis y dull mwyaf gwyrdd o deithio
  • ymrwymiad i ddefnyddio Cerbydau Allyriadau Isel Iawn (ULEVs) fel ceir prydles a diweddaru ein polisi i adlewyrchu hyn 
  • ymgyrch gyfathrebu i godi ymwybyddiaeth o deithio cynaliadwy.

Astudiaeth achos: Ein Ffyrdd o Weithio: Gweithio hyblyg 

Mae’r ASB wedi bod ar flaen y gad o ran gweithio hyblyg ac o bell ar draws y llywodraeth ers cyflwyno Ein Ffyrdd o Weithio yn 2017. Mae manteision galluogi ac annog staff i ystyried gweithio o fannau heblaw swyddfeydd traddodiadol yn esgor ar lawer o effeithiau amgylcheddol cadarnhaol: Lleihau’r allyriadau nwyon tŷ gwydr a achosir gan gymudwyr yn teithio yn ôl ac ymlaen i swyddfeydd. Mae staff sy'n cael eu galluogi i weithio gartref yn gweithio yno y rhan fwyaf o'r amser, ac os bydd awydd newid arnynt, maent yn debygol o fynd i rywle o fewn pellter cerdded neu feicio yn hytrach na gyrru, hedfan neu ddal trên. Mae eu teithiau busnes a chymudo yn lleihau’n sylweddol ac mae ein hethos o 'wneud pethau'n ddigidol' yn golygu ein bod bob amser yn ystyried sut i gynnwys gweithwyr o bell cyn trefnu cyfarfodydd wyneb yn wyneb. Mae pobl sy'n gweithio gartref 50% o'r amser neu fwy yn defnyddio llai o bapur gan fod gweithwyr o bell neu weithwyr hybrid yn fwy tebygol o rannu dogfennau’n ddigodol neu weithio ar ddogfennau yn ddigidol er mwyn arbed lle yn y cartref a hwyluso cydweithio o bell mewn amser real. Mae pobl yn gallu defnyddio eu llestri bwrdd, eu cyfleusterau storio a choginio eu hunain wrth weithio gartref, gan arwain at lai o ddefnydd o blastigau untro fel cwpanau tecawê, pecynnau bwyd a mwy. Mae pobl hefyd yn tueddu i fod yn fwy gofalus i beidio â gadael goleuadau a dyfeisiau ymlaen pan fyddan nhw’n talu'r bil, gan arwain at ddefnyddio llai o ynni! Mae pobl yn rhydd i symud allan o ddinasoedd (a hynny o ddewis neu er mwyn ymrwymiadau teuluol), gan leddfu'r straen amgylcheddol a achosir gan boblogaethau dwys mewn ardaloedd trefol ac ysgogi datblygiad trefi bach. Mae cyflwyno Ein Ffyrdd o Weithio wedi galluogi llawer o staff yr ASB i symud i ffwrdd o’r trefi lle mae ein swyddfeydd wedi’u lleoli, gan gadw eu swyddi a'u gyrfaoedd.

2. Gwarchod adnoddau naturiol

Mae'r defnydd o adnoddau naturiol yn cynyddu. Er mwyn cynnal yr amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, mae angen i ni gymryd camau i leihau gwastraff.

Rydym yn hyrwyddo mesurau i leihau ailddefnyddio ac ailgylchu

Nod trosfwaol

  • diogelu adnoddau naturiol a lleihau gwastraff ar draws ein hystâd drwy fynd ati i hyrwyddo mesurau i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu.
  • targedau i helpu i gyflawni Ymrwymiadau Gwyrddu'r Llywodraeth
  • lleihau cyfanswm y gwastraff a gynhyrchir 20% o waelodlin 2017/18
  • lleihau’r gwastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi i lai na 5% o’r holl wastraff 
  • cynyddu cyfran y gwastraff sy’n cael ei ailgylchu i o leiaf 70% o’r holl wastraff
  • lleihau faint o wastraff Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) sy’n mynd i safleoedd tirlenwi i 0%
  • cynnydd blynyddol yn yr offer TGCh sy’n cael ei ailddefnyddio a deunyddiau sy’n cael eu hailgylchu  
  • gallu i olrhain 100% o offer TGCh ar ddiwedd ei oes (mapio) erbyn 2025
  • gweithio gyda landlordiaid ein hadeiladau i gynyddu’r defnydd o ynni adnewyddadwy ar draws ein hystâd
  • lleihau’r defnydd o ddŵr o leiaf 8% o waelodlin 2017/18.

Dangosyddion perfformiad allweddol

  • gwastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi (tunelli)
  • offer TG a gaiff ei ailgylchu, ei ailddefnyddio neu ei adnewyddu (%)
  • canran y gwastraff a gynhyrchir sy'n cael ei ailgylchu (%)
  • defnydd o ynni adnewyddadwy (%)
  • gostyngiad blynyddol yn y defnydd o ddŵr fel newid mewn defnydd o gymharu â'r flwyddyn flaenorol (%).

Mecanweithiau gweithredu allweddol

  • darparu seilwaith ailgylchu priodol
  • defnyddio gwasanaethau ailgylchu/adnewyddu TG gwyrdd
  • adolygu contractau a pholisïau ynni
  • monitro a dadansoddi data defnydd ynni
  • gweithio gyda landlordiaid y llywodraeth i sicrhau eu bod yn gweithio tuag at gyrraedd targedau GGC.

3. Cadwyn Gyflenwi Gynaliadwy

Mae caffael cynaliadwy yn helpu i leihau gwastraff, allyriadau carbon, y defnydd o ynni a dŵr a diogelu bioamrywiaeth, gan gyfrannu at fuddion cymdeithasol ac ariannol ar yr un pryd.

Cadwyn gyflenwi gynaliadwy wrth ein craidd

Nod trosfwaol

Dylanwadu'n gadarnhaol ar berfformiad cyflenwyr o ran cynaliadwyedd a gwerthuso cymwysterau cynaliadwyedd y nwyddau a'r gwasanaethau rydym ni'n eu prynu.

Targed

  • mabwysiadu’r Model Gwerth Cymdeithasol ar gyfer pob caffaeliad cymwys ac ymgorffori’r model wrth reoli contractau, gan ddechrau o 2021
  • bydd adrannau'r llywodraeth yn defnyddio'r Model Gwerth Cymdeithasol i asesu a sgorio cyflenwyr ar y buddion cadarnhaol ehangach a ddaw yn sgil cyflawni'r contract. Bydd hyn yn golygu y gellir sicrhau'r gwerth gorau am arian i'r trethdalwr, gan adeiladu sylfaen cyflenwyr mwy gwydn ac amrywiol ar yr un pryd.
  • datblygu polisi caffael cynaliadwy sy’n cwmpasu pob agwedd ar gynaliadwyedd (amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd) erbyn Rhagfyr 2021
  • caffael cynhyrchion a gwasanaethau gan gydymffurfio 100% â'r Fframwaith Gwerth Cymdeithasol ar gyfer contractau dros £213,477 (yn cynnwys TAW) erbyn 2025.

Dangosyddion perfformiad allweddol

  • polisi caffael cynaliadwy yn cael ei gyfleu ar draws yr ASB a hyfforddiant yn cael ei ddarparu lle bo angen
  • dyfeisio, gweithredu, ac adrodd yn erbyn metrigau i fesur cyflawniad o gymharu â’r polisi
  • bydd Dangosydd Perfformiad Allweddol yn ymwneud â gwerthoedd cymdeithasol yn gymwys i bob contract a ddyfernir uwchlaw'r trothwy, a bydd y Dangosyddion Perfformiad Allweddol hyn yn cael eu cyhoeddi bob chwarter.

Mecanweithiau gweithredu allweddol

  • Cydymffurfio â Safonau Prynu’r Llywodraeth wrth brynu nwyddau a gwasanaethau
  • sefydlu polisïau a gweithdrefnau ar draws y busnes yn hyrwyddo caffael cynaliadwy ac annog pobl i’w defnyddio 
  • mesuriadau cynaliadwyedd gan gynnwys effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol a chostau gydol oes nwyddau a gwasanaethau a brynwyd
  • rhaglenni hyfforddi ar gyfer staff sy'n ymwneud â phenderfyniadau prynu a rheoli contractau
  • rhaglen ymgysylltu â chyflenwyr wedi’i thargedu i hyrwyddo gwelliannau parhaus gan gyflenwyr a’r ASB gan ganolbwyntio ar elfennau a nodir yn y contract.

Ymwreiddio cynaliadwyedd amgylcheddol yn ein penderfyniadau

Mae'r targedau a nodir yn y Strategaeth hon yn canolbwyntio'n bennaf ar ein pobl, ein hadeiladau a'n polisïau mewnol. Fodd bynnag, rydym hefyd wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar yr elw cymdeithasol ehangach ar fuddsoddiad wrth wneud penderfyniadau allweddol ynghylch ein strategaeth, wrth ddatblygu polisïau yn y dyfodol ac wrth ddiwygio'r ddarpariaeth.

Rydym mewn sefyllfa unigryw lle gallwn helpu i ddylanwadu ar yr ecosystem fwyd ehangach, er mwyn sicrhau ei bod yn gwella ar ôl y pandemig COVID-19, a byddwn yn ehangu ar ein targedau i adlewyrchu ein gweithredoedd a'n dylanwad yn hyn o beth. Mae ystyriaethau amgylcheddol eisoes yn flaenoriaeth mewn llawer o brosiectau allweddol sy'n cael eu cyflawni drwy ein rhaglenni strategol.

Mae ein Rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau yn chwilio am gyfleoedd i gefnogi awdurdodau lleol gydag asesiadau ac archwiliadau o bell. Ac mae ein Rhaglen Trawsnewid Gweithrediadau yn asesu’r cyfleoedd ar gyfer diwygio, yn moderneiddio’r Rheolaethau Swyddogol a gynhelir ac yn lleihau gwastraff.

Rydym eisoes yn cefnogi mentrau eraill sy'n effeithio ar faterion amgylcheddol megis cynllun lleihau gwastraff bwyd yr elusen cynaliadwyedd amgylcheddol, WRAP ac roeddem gyda’r cyntaf i gefnogi  Ymrwymiad Courtauld. Rydym hefyd yn gweithio gydag elusennau bwyd ar ganllawiau diogelwch mewn perthynas ag ailddosbarthu bwyd. Mae technolegau newydd megis cig wedi’i feithrin a golygu genynnau hefyd yn cynnig manteision posib o safbwynt cynaliadwyedd, wrth leihau mewnbynnau i’r broses gynhyrchu. Bydd buddiannau amgylcheddol yn cael eu hystyried pan fydd y technolegau hyn yn barod ar gyfer cymeradwyaeth reoleiddiol. 

Mae amodau amgylcheddol cenedlaethol hefyd yn effeithio ar ein polisïau diogelwch bwyd. Mae’r rhain yn cynnwys materion fel ansawdd dŵr a’r effaith ar welyau pysgod cregyn y mae’r ASB yn eu dosbarthu, dŵr ffo amaethyddol a da byw sy’n effeithio ar bysgod cregyn eraill ac, o bosib, ar lefelau e.coli mewn cnydau. Bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r ASB ddylanwadu ar Adrannau eraill er mwyn gwella'r effeithiau amgylcheddol i fyny'r gadwyn, er mwyn gwella diogelwch bwyd cyffredinol mewn cynnyrch cynradd er budd y defnyddiwr. Wrth i'r ffrydiau gwaith newydd hyn ddod yn fwy clir, byddwn yn datblygu ein harferion adrodd i fonitro sut y maent yn cyfrannu at gyflawni ein blaenoriaethau trosfwaol.