Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Cynllun Corfforaethol 3 Blynedd yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Cynllun Corfforaethol 3 Blynedd yr ASB: Crynodeb Gweithredol

Mae’r cynllun corfforaethol 3 blynedd hwn (y cynllun) yn disgrifio sut y byddwn yn troi uchelgeisiau ein strategaeth yn gamau gweithredu cadarn.

Yn 2022, gwnaethom gyhoeddi ein strategaeth bum mlynedd ar gyfer yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB). Mae ein strategaeth yn cadarnhau mai “bwyd y gallwch ymddiried ynddo” yw ein cenhadaeth o hyd, a’n gweledigaeth ar gyfer y system fwyd yw un lle mae bwyd yn ddiogel, lle mae bwyd yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, a lle mae bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy. Mae hefyd yn nodi ein rolau a’n hegwyddorion arweiniol.

Mae’r cynllun corfforaethol 3 blynedd hwn (y cynllun) yn disgrifio sut y byddwn yn troi uchelgeisiau ein strategaeth yn gamau gweithredu cadarn.

Mae’r cynllun yn dechrau drwy ddatgan ein huchelgais ar gyfer ein cenhadaeth a phob rhan o’r weledigaeth. Yn ystod y 3 blynedd nesaf rydym yn dymuno:

  • cynnal y lefelau uchel o ymddiriedaeth a hyder sydd yn y system fwyd a’r ASB ar hyn o bryd 
  • cynnal safonau bwyd, fel bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, ac fel bod defnyddwyr yn gallu parhau i fod â hyder yn eu bwyd 
  • cynyddu ein cyfraniad at – a’n dylanwad ar – fwyd sy’n iachach ac yn fwy cynaliadwy, gan adeiladu ar y gwaith rydym wedi’i ddechrau ers i ni gyhoeddi ein strategaeth

Mae’r cynllun hefyd yn manylu ar sut y byddwn yn gwneud hyn – drwy naw amcan sy’n cyd-fynd â’n rolau, gan gynnwys gwaith craidd a gwaith newid. Mae’r rhain wedi’u rhannu’n weithgareddau manylach yn yr atodiad, gan roi cyfeiriad i’n cynlluniau busnes blynyddol.

Cynhyrchydd tystiolaeth (craidd): Sicrhau bod ein penderfyniadau’n seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth, a rhannu’r dystiolaeth hon i hysbysu a dylanwadu ar eraill (defnyddwyr, busnesau a llunwyr polisi).

Cynhyrchydd tystiolaeth (newid): Adeiladu tystiolaeth, gan gynnwys trwy wyddoniaeth ac ymchwil, fel y gallwn ragweld cyfleoedd a risgiau ar draws system fwyd y DU.

Lluniwr polisi (craidd): Gwneud argymhellion cadarn a chefnogi’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau i wneud rhai gwybodus ar reolau yn ymwneud â bwyd a bwyd anifeiliaid, a hynny’n seiliedig ar dystiolaeth ac asesiadau annibynnol.

Lluniwr polisi (newid): Creu dull rheoleiddio cymesur, effeithiol ac effeithlon sy’n canolbwyntio ar y dyfodol drwy’r broses dadansoddi risg a gwasanaeth cynhyrchion rheoleiddiedig, sy’n diogelu defnyddwyr ac yn dileu rhwystrau i arloesi.

Rheoleiddiwr (craidd): Cyflawni ein cyfrifoldebau rheoleiddio i sicrhau bod busnesau bwyd a bwyd anifeiliaid yn cydymffurfio â’r rheolau fel bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.

Rheoleiddiwr (newid): Diwygio’r fframwaith rheoleiddio diogelwch bwyd i roi sicrwydd mwy cymesur sy’n seiliedig ar risg, nawr ac yn y dyfodol. 

Corff gwarchod: Siarad yn gyhoeddus am feysydd o ddiddordeb i ddefnyddwyr er mwyn annog safonau bwyd uchel yn y DU. 

Cynullydd a chydweithredwr: Gweithio mewn partneriaethau ar draws y system fwyd i ddatblygu a darparu atebion gwell i ddefnyddwyr a busnesau.

Galluogwr: Darparu’r bobl, yr adnoddau a’r prosesau sydd eu hangen i gyflawni ein hamcanion a’n blaenoriaethau corfforaethol.