Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Os oes gennych unrhyw bryderon neu wybodaeth yn ymwneud â thwyll neu droseddoldeb mewn cadwyni cyflenwi bwyd, neu os ydych yn dymuno chwythu’r chwiban ynghylch busnes bwyd yr ydych yn gweithio iddo, ffoniwch linell gymorth Trechu Trosedd Bwyd yn Gyfrinachol ar 0207 276 8787 (9am i 4pm, dydd Llun i ddydd Gwener) neu rhowch wybod drwy ein gwasanaeth ar-lein.

Cynllun Iaith Gymraeg

Mae ein Cynllun Iaith Gymraeg yn disgrifio pa wasanaethau rydym ni’n eu darparu yn Gymraeg a sut a phryd y caiff y gwasanaethau hynny eu darparu.

Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Awst 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Awst 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae ein polisi iaith yn diwallu gofynion Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 a Mesur yr Iaith Gymraeg 2011. Mae gennym ni Uned Iaith Gymraeg fewnol sy'n gyfrifol am weithredu a goruchwylio'r cynllun, yn ogystal â darparu gwasanaethau dwyieithog yng Nghymru. 

Cafodd ein Cynllun ei ddiweddaru a’i gymeradwyo gan Gomisiynydd y Gymraeg ym mis Mawrth 2019.

O dan Mesur y Gymraeg 2011, bydd y Cynllun hwn yn cael ei ddisodli gan Safonau’r Gymraeg yn y pen draw sy’n gweithredu ar yr un egwyddor, i gynnig dewis iaith rhagweithiol i ddefnyddwyr yng Nghymru. Mae rhagor o wybodaeth am y Safonau hyn i’w gweld ar wefan Comisiynydd y Gymraeg yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y Safonau. Hyd nes y daw’r Safonau hyn i rym, byddwn yn parhau i weithredu yn unol â’r Cynllun Iaith hwn.