Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Diweddariad y Cadeirydd i randdeiliaid - Rhaid ystyried diogelwch bwyd yn ofalus yn Y Bil Rhyddid yn sgil Brexit

Yr Athro Susan Jebb

Mae Bil Rhyddid yn sgil Brexit yn ddarn o ddeddfwriaeth a allai gael goblygiadau dwys i iechyd y cyhoedd a busnesau fel ei gilydd.

Mae’r bil hwn, a elwir hefyd yn Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygio a Dirymu), wedi’i gyflwyno i ganiatáu i weinidogion ddisodli rheoliadau a chyfarwyddebau’r UE â deddfwriaeth ddomestig newydd. Bydd yn dirwyn i ben unrhyw ddeddfau sy’n weddill ar ddiwedd 2023, sy’n golygu y cânt eu diddymu’n awtomatig oni bai y penderfynir eu hestyn, eu cadw, neu eu disodli ymlaen llaw.

Yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd, rydym yn glir na allwn ddirwyn i ben y deddfau ar ddiogelwch a dilysrwydd bwyd heb beri dirywiad yn safonau bwyd y DU a risg sylweddol i iechyd y cyhoedd. Er fy mod yn siŵr nad dyma yw bwriad y Llywodraeth gyda’r cynlluniau hyn, mae’r amserlen bresennol yn peri peth pryder i mi. Bydd angen i ni weithio drwy fwy na 150 o ddarnau o gyfraith yr UE a ddargedwir yn gyflym iawn a chynghori gweinidogion ar y ffordd orau o ymgorffori rheolau pwysig sy’n diogelu diogelwch bwyd ac iechyd y cyhoedd yn ein deddfwriaeth ddomestig. Mae hon yn dasg heriol iawn, ac mae’n anochel yn golygu y bydd yn rhaid i ni ddad-flaenoriaethu gwaith pwysig arall.

Ein prif flaenoriaeth o hyd yw sicrhau bod gan bobl fwyd y gallant ymddiried ynddo.  Rydym hefyd yn cydnabod bod hwn yn gyfle i adolygu a diwygio’r cyfreithiau hyn fel bod busnesau’n cael eu rheoleiddio yn y ffordd gywir i’w galluogi i ddarparu bwyd diogel y gellir ymddiried ynddo, i fasnachu’n rhyngwladol, ac i dyfu.

Maes o law credwn mai Bil Bwyd a Bwyd Anifeiliaid newydd y DU fyddai’r cyfle gorau i ailfeddwl yn gynhwysfawr, gan deilwra i anghenion y DU. Mae ein profiad yn dweud wrthym fod datblygu polisi mewn ffordd agored a thryloyw sydd wedi’i seilio ar dystiolaeth yn well i ddefnyddwyr ac i fusnesau, ond mae hyn yn cymryd amser i’w gael yn iawn.

Os oes gennych unrhyw syniadau am Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygio a Dirymu) a’i effeithiau posib ar gyfraith bwyd, cysylltwch â ni.