Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Crynodeb o’r trafodaethau yng nghyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar 26 Medi 2022

Gwnaeth Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) gwrdd yr wythnos hon. Trafodwyd cynnydd diweddaraf y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl), datblygiadau parhaus yn y ffordd y caiff busnesau eu rheoleiddio, a’r heriau a’r cyfleoedd y mae’r ASB yn eu rhagweld o ganlyniad i Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 November 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 November 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau
Ymateb i gynnydd y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl) 

Rhoddwyd diweddariad i aelodau’r Bwrdd ar waith yr ASB ar Fil Technoleg Enetig (Bridio Manwl) Llywodraeth y DU, sy’n cynnig newidiadau i’r gyfraith sy’n rheoleiddio bwyd a chynhyrchion bwyd anifeiliaid a gynhyrchir gan ddefnyddio technegau fel bridio manwl. Gan mai dim ond yn Lloegr y byddai’r gyfraith yn gymwys, nododd aelodau’r Bwrdd bwysigrwydd lleihau anghysondebau ym Mhrydain Fawr ac roeddent yn awyddus i glywed am hynt gwaith rheoleiddio’r Undeb Ewropeaidd mewn perthynas â chnydau sydd wedi’u bridio’n fanwl.         

Cydnabuwyd hefyd fod gwybodaeth i ddefnyddwyr yn rhan bwysig o ddatblygiad y Bil, a chroesawodd y Bwrdd ymchwil ac ymgysylltiad parhaus yr ASB â rhanddeiliaid wrth bennu pa wybodaeth i ddefnyddwyr sydd ei hangen a pham. Cytunodd y Bwrdd ar fanteision creu cofrestr gyhoeddus o gynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid sydd wedi’u bridio’n fanwl wedi’u hawdurdodi, er mwyn hybu gwybodaeth a hyder defnyddwyr.  

Meddai’r Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr ASB: 

"Mae datblygu cofrestr gyhoeddus yn rhan hanfodol er mwyn rhoi gwybodaeth angenrheidiol i bobl am fwyd a gynhyrchir gan ddefnyddio’r dechnoleg hon. Rhaid i’r ASB barhau i gasglu tystiolaeth sy’n cynrychioli buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bridio manwl wrth i’r Bil fynd rhagddo."

Cytunodd y Bwrdd y dylai’r ASB barhau i ddatblygu fframwaith rheoleiddio newydd ar gyfer cynhyrchion wedi’u bridio’n fanwl – a hwnnw’n fframwaith cymesur, tryloyw, sydd wedi’i seilio’n drylwyr ar wyddoniaeth a thystiolaeth i sicrhau nad yw unrhyw gynhyrchion sy’n cael eu rhoi ar y farchnad yn peryglu diogelwch bwyd na hyder defnyddwyr.  Trafodwyd proses awdurdodi ddwy haen bosib, sy’n neilltuo cynhyrchion i’r haen berthnasol yn dibynnu ar lefel y risg. Byddai’r cynhyrchion hynny nad yw sgrinio cychwynnol yn rhoi dealltwriaeth lawn o'r risg sy’n gysylltiedig â nhw yn cael eu neilltuo i haen uwch ac yn destun cam ychwanegol yn y broses awdurdodi.   

Bydd y Bwrdd yn cael ei ddiweddaru ar unrhyw gynnydd yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd ym mis Rhagfyr.  

Y Rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau   

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am waith y rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnes (ABC), sy’n moderneiddio’r modd y mae awdurdodau lleol yn gwirio ac yn arolygu busnesau bwyd. 

Cymeradwyodd y Bwrdd y penderfyniad i ymgynghori ar newidiadau a fyddai’n cyflwyno model mwy cymesur, wedi’i lywio gan wybodaeth, i awdurdodau lleol allu gwirio bod busnesau’n dilyn rheolau fel bod bwyd yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Clywsant hefyd am brosiect i ddiwygio’r ffordd y mae awdurdodau lleol yn gwirio safonau hylendid bwyd busnesau. 

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gynllun peilot newydd a oedd yn cynnwys pum manwerthwr mawr a’u prif awdurdodau i dreialu dull newydd o reoleiddio ar lefel menter.  

Nododd y Bwrdd hefyd y gwaith sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd gyda thri busnes dosbarthu ar-lein mawr (Uber Eats, Deliveroo a Just Eat) i ddatblygu Siarter Diogelwch Bwyd.

Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir

Yn ystod ei hadroddiad i’r Bwrdd, myfyriodd Prif Weithredwr yr ASB, Emily Miles, ar effaith bosib Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio), a gyflwynwyd i San Steffan yr wythnos diwethaf. Nod y Bil yw dod â statws arbennig yr holl ddeddfwriaeth sy’n deillio o’r UE i ben erbyn diwedd mis Rhagfyr 2023, gan y bydd unrhyw ddeddfau a ddargedwir sy’n weddill ar yr adeg hon naill ai’n cael eu diddymu neu eu cymathu yng nghyfraith ddomestig y DU.  

Amcangyfrifodd Emily fod yr ASB yn gyfrifol am fwy na 100 o ddarnau o ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â hylendid a diogelwch bwyd, yn ogystal â mwy na 30 darn o ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â chyfansoddiad a labelu bwyd y mae’r ASB yn gyfrifol amdanynt yng Nghymru. Ychwanegodd fod pwysau sylweddol i wneud y gwaith hwnnw cyn gynted â phosib, ond nododd y byddai’n her i daro cydbwysedd rhwng sicrhau diwygiadau a gweithio’n gyflym.   

Wrth ymateb i hyn, dywedodd Cadeirydd yr ASB Susan Jebb:

Mae’r agenda a’r papurau ar gyfer Cyfarfod Bwrdd yr ASB mis Medi 2022 ar gael i’w darllen a gallwch wylio Cyfarfod Bwrdd yr ASB mis Medi 2022 ar YouTube. Gallwch hefyd glywed rhagor gan ein Cadeirydd, Susan Jebb, yn ei darn ar y Y Bil Rhyddid yn sgil Brexit.

Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd yn Llundain ar 7 Rhagfyr 2022.

 

Mae’n amlwg na allwn ddod â’r deddfau yr ydym yn gyfrifol amdanynt i ben heb beryglu iechyd y cyhoedd a’n gallu i fasnachu’n rhyngwladol, ac rwy’n siŵr nad dyma yw bwriad y llywodraeth gyda’r cynlluniau hyn. Mae hefyd yn bwysig i ni gofio bod deddfau unigol wedi’u cydblethu â system gymhleth sy’n cysylltu â deddfwriaeth a gedwir gan adrannau eraill y llywodraeth. 

Rwy’n awyddus i ystyried p’un a allwn greu Bil Bwyd a Bwyd Anifeiliaid newydd i ddisodli llawer o Gyfraith yr UE. Byddaf yn blaenoriaethu ymgysylltu â Gweinidogion i drafod y cynlluniau diwygio rydym eisoes wedi’u creu a sut y gellir ymgorffori’r rhain fel rhan o’r broses hon. Bydd llawer o hyn yn dibynnu ar p’un a ydynt am flaenoriaethu diwygio neu gyflymder. Rwyf hefyd yn ymwybodol iawn o’n cyfrifoldebau i’r llywodraethau datganoledig, a byddaf yn trefnu i gwrdd â nhw hefyd. 

Rwy’n gobeithio y bydd y tîm Gweithredol yn gweithio gyda rhanddeiliaid yn y diwydiant a grwpiau defnyddwyr i ddeall eu blaenoriaethau fel y byddwn mewn gwell sefyllfa erbyn cyfarfod y Bwrdd ym mis Rhagfyr i drafod y ffordd y byddwn yn mynd i’r afael â’r newid enfawr hwn mewn deddfwriaeth, gan barhau i sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.