Dr Ifan Lloyd BSc, MA, VetMB, MRCVS – aelod o Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru
Yn amlinellu hanes proffesiynol a chymwysterau aelodau ein Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru.
Llawfeddyg milfeddygol yw Ifan Lloyd, a chanddo fwy na 35 mlynedd o brofiad mewn ymarfer clinigol, gan gynnwys 17 mlynedd fel Partner mewn milfeddygfa gymysg, aml-ganolfan yn Abertawe, lle bu’n arbenigo mewn meddygaeth anifeiliaid cynhyrchu (cig eidion a defaid). Wedi’i eni a’i fagu ar fferm laeth a stablau Cob Cymreig ger Aberystwyth, mae gan Ifan raddau anrhydedd mewn Amaethyddiaeth o Brifysgol Bangor a Meddygaeth Filfeddygol o Brifysgol Caergrawnt. Gwnaeth ymddeol o ymarfer clinigol yn 2023, ac erbyn hyn mae’n canolbwyntio ar waith ymgynghori a rolau sy’n cefnogi iechyd anifeiliaid yng Nghymru.
Mae Ifan yn un o gyfarwyddwyr Iechyd Da (gwledig) Cyf, y partner cyflawni milfeddygol sy’n gyfrifol am wasanaethau profi TB yn ne Cymru, a Cefn Gwlad Solutions Cyf, sy’n cyflawni mentrau rheoli risg clefydau sy’n gysylltiedig â TB ledled Cymru. Mae’n aelod o Bwyllgor Polisi Cenedlaethol a Chyngor Cangen Cymru o Gymdeithas Filfeddygol Prydain (BVA) a chyn hynny, rhwng 2019 a 2021, roedd yn llywydd ar Gangen Cymru o’r BVA, wrth gyflawni sawl rôl bolisi yn ystod y pandemig COVID-19. Roedd yn aelod o Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru rhwng 2014 a 2021. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd yn aelod o Ford Gron Llywodraeth Cymru ar yr Ymadawiad â’r UE, gan helpu i ragweld senarios ar gyfer y sector da byw a threfniadau masnachu diweddarach ar ôl yr ymadawiad.
Ac yntau’n eiriolwr dros Iechyd Cyfunol, mae wedi bod yn rhan o sawl rhaglen genedlaethol gan gynnwys ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR), sy’n cefnogi nodau Cymru ar gyfer cynhyrchu bwyd diogel a chynaliadwy.
Mae Ifan yn byw ar fferm fach lle mae ef a’i deulu’n bridio defaid Ryeland pedigri ac yn eu harddangos, gan gynnal cysylltiadau cryf â chymunedau ffermio gwledig. Mae Ifan hefyd yn rhedwr dygnwch cystadleuol ac yn hyfforddwr cymwys. Mae wedi ennill nifer o deitlau grŵp oedran cenedlaethol, gan gynnwys pencampwriaethau marathon Meistri’r Byd yn 2024, gan amlygu at ei ymrwymiad i iechyd a lles.