Dr Sue Paterson – Aelod o Fwrdd yr ASB
Yn amlinellu hanes proffesiynol Aelodau ein Bwrdd ac yn rhoi manylion am unrhyw fuddiannau busnes a allai fod ganddynt er mwyn sicrhau tryloywder.
Dr Sue Paterson - Aelod o Fwrdd yr ASB
Dermatolegydd milfeddygol yw Dr Sue Paterson sydd wedi’i hardystio gan yr RCVS a’r Bwrdd Ewropeaidd. Mae hi’n gymrawd etholedig o’r RCVS am ei chyfraniadau at ymarfer clinigol ym maes dermatoleg filfeddygol. Hi yw Cyfarwyddwr milfeddygol cwmni telefeddygaeth dermatoleg filfeddygol, Virtual Vet Derms Ltd., sy’n cynnig cyngor dermatoleg i’r cyhoedd a llawfeddygon milfeddygol.
Mae Sue wedi ysgrifennu 7 gwerslyfr a mwy na 90 o gyhoeddiadau a adolygwyd gan gymheiriaid mewn cyfnodolion Seisnig, Ewropeaidd ac Americanaidd. Mae hi wedi darlithio’n helaeth ac wedi bod yn siaradwr gwadd mewn cyfarfodydd rhyngwladol mewn mwy na 50 o wledydd.
Mae hi’n aelod etholedig o Gyngor RCVS, a hi oedd llywydd yr RCVS rhwng 2023 a 2024. Mae Sue yn gyn-lywydd y BSAVA ac ESVD. Hi yw llywydd presennol Cymdeithas Dermatoleg Filfeddygol y Byd. Mae Sue yn Ymddiriedolwr Cartref Cŵn a Chathod Battersea ac yn Sylfaenydd a Chadeirydd yr Animal Charity Pharmacy. Mae hi’n briod â Richard ac mae ganddi ddau o blant, Samantha a Matthew. Yn ei hamser hamdden, mae hi’n arddwr organig brwd a chanddi ardd dwy erw, yn cadw ieir a gwenyn, ac yn mwynhau teithiau cerdded hir gyda’i chŵn ar draws mynyddoedd Cumbria, lle mae hi’n byw.
Buddiannau personol
Ymgynghoriaethau a/neu gyflogaeth uniongyrchol:
- Aelod o Gyngor y Coleg Brenhinol Llawfeddygon Milfeddygon, sef y corff rheoleiddio ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol ym maes Milfeddygaeth.
- Ymgynghorydd ar gyfer Iechyd Anifeiliaid BOVA.
- Gwaith ymgynghori ad hoc drwy fy nghwmni, Veterinary Dermatologicals Ltd.
- Darparu gwasanaeth cyngor telefeddygol proffesiynol i'r cyhoedd a'r proffesiwn milfeddygol drwy is-gwmni Veterinary Dermatologicals, Virtual Vet Derms Ltd.
Rolau di-dâl:
- Dim
Gwaith â thâl:
- Dim
Rhanddaliadau:
- Portffolio buddsoddi wedi'i reoli gan drydydd parti – Fidelity.
Clybiau a sefydliadau eraill:
- Dim
Buddiannau personol eraill:
- Dim
Cymrodoriaethau:
- Dim
Cymorth anuniongyrchol:
- Dim
Ymddiriedolaethau:
- Carrtef Cŵn a Chathod Battersea.
- Gwybodaeth RCVS.
- Cadeirydd Ymddiriedolaethwyr yr Animal Charity Pharmacy.
- Cadeirydd Ymddiriedolaethwyr Cymdeithas Dermatoleg Filfeddygol y Byd
Tir ac eiddo:
- Dim
Penodiadau cyhoeddus eraill:
- Dim
Buddiannau eraill nad ydynt yn bersonol
- Dim