Dr Sue Paterson – Aelod o Fwrdd yr ASB
Yn amlinellu hanes proffesiynol Aelodau ein Bwrdd ac yn rhoi manylion am unrhyw fuddiannau busnes a allai fod ganddynt er mwyn sicrhau tryloywder.
Dr Sue Paterson - Aelod o Fwrdd yr ASB
Proffil
Dermatolegydd milfeddygol yw Dr Sue Paterson sydd wedi’i hardystio gan yr RCVS a’r Bwrdd Ewropeaidd. Mae hi’n gymrawd etholedig o’r RCVS am ei chyfraniadau at ymarfer clinigol ym maes dermatoleg filfeddygol. Hi yw Cyfarwyddwr milfeddygol cwmni telefeddygaeth dermatoleg filfeddygol, Virtual Vet Derms Ltd., sy’n cynnig cyngor dermatoleg i’r cyhoedd a llawfeddygon milfeddygol.
Mae Sue wedi ysgrifennu 7 gwerslyfr a mwy na 90 o gyhoeddiadau a adolygwyd gan gymheiriaid mewn cyfnodolion Seisnig, Ewropeaidd ac Americanaidd. Mae hi wedi darlithio’n helaeth ac wedi bod yn siaradwr gwadd mewn cyfarfodydd rhyngwladol mewn mwy na 50 o wledydd.
Mae hi’n aelod etholedig o Gyngor RCVS, a hi oedd llywydd yr RCVS rhwng 2023 a 2024. Mae Sue yn gyn-lywydd y BSAVA ac ESVD. Hi yw llywydd presennol Cymdeithas Dermatoleg Filfeddygol y Byd. Mae Sue yn Ymddiriedolwr Cartref Cŵn a Chathod Battersea ac yn Sylfaenydd a Chadeirydd yr Animal Charity Pharmacy. Mae hi’n briod â Richard ac mae ganddi ddau o blant, Samantha a Matthew. Yn ei hamser hamdden, mae hi’n arddwr organig brwd a chanddi ardd dwy erw, yn cadw ieir a gwenyn, ac yn mwynhau teithiau cerdded hir gyda’i chŵn ar draws mynyddoedd Cumbria, lle mae hi’n byw.
Cofrestr
Gofynnir i Aelodau Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ddatgan unrhyw fuddiannau neu fuddiannau partïon cysylltiedig sy’n berthnasol i waith yr ASB yn ogystal â phob cyflogaeth, gwaith a phenodiad allanol y ceir tâl amdanynt (p’un a ydynt yn berthnasol ai peidio).
Gall unigolyn fod â buddiannau eraill ac, er bod yr ASB yn ymwybodol o’r rhain, bernir nad ydynt yn berthnasol i rôl yr Aelodau ac felly nid ydynt o fewn y cwmpas ar gyfer cyhoeddi.
Mae’r adran yn rheoli’r holl fuddiannau perthnasol i atal y risg o wrthdaro buddiannau canfyddedig, posib neu wirioneddol.
- Aelod o Gyngor Coleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS), sef y corff rheoleiddiol ar gyfer y proffesiynau milfeddygol (tan fis Gorffennaf 2026)
- Cadeirydd Ymddiriedolwyr ar gyfer Sefydliad Dermatoleg Filfeddygol y Byd
- Ymddiriedolwr RCVS Knowledge, sef partner elusennol yr RCVS
- Dirprwy Gadeirydd Ymddiriedolwyr Cartref Cŵn a Chathod Battersea
- Cadeirydd Ymddiriedolwyr yr elusen Animal Charity Pharmacy