Fiona Gately – Aelod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Yma ceir amlinelliad o hanes proffesiynol Aelodau ein Bwrdd a manylion am unrhyw fuddiannau busnes a allai fod ganddynt er mwyn sicrhau tryloywder.
Proffil
Mae gan Fiona Gately brofiad helaeth yn y diwydiant bwyd, gan weithio ar draws y sector i sefydliadau’r llywodraeth, busnesau, dyngarwch a chyrff eiriolaeth.
Mae wedi gwasanaethu fel cynghorydd arbenigol ar fwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ac roedd yn aelod o’i Phwyllgor Cynghori ar Safonau Organig rhwng 2003 a 2005. Rhwng 2004 a 2011, bu’n cyfarwyddo ymgyrchoedd Jamie Oliver ar ginio ysgol, sgiliau coginio a gordewdra yn y DU a’r UDA, gan arwain gwaith ymgysylltu â defnyddwyr, rhanddeiliaid a’r llywodraeth. Yn 2005, sefydlodd School Food Trust ar gyfer yr Adran Addysg i gyflwyno safonau a chanllawiau newydd ar gyfer prydau ysgol. Gwasanaethodd ar y Bwrdd rhwng 2009 a 2011.
Sefydlodd Fiona ystod o gynnyrch arobryn ar gyfer Duchy Originals, brand bwyd organig y Brenin Charles, gan sefydlu cadwyni cyflenwi a phartneriaethau gweithgynhyrchu a chodi ymwybyddiaeth defnyddwyr o fwyd organig. Mae ei phrofiad yn y diwydiant yn cynnwys gwasanaethu fel pennaeth marchnata gyda chwmni llaeth organig cydweithredol y DU, Omsco, a sefydlu busnes newydd sy’n arbenigo ar iechyd y perfedd.
Mae hi bellach yn gweithio fel ymgynghorydd systemau bwyd cynaliadwy.
Cofrestr
Gofynnir i Aelodau Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ddatgan unrhyw fuddiannau neu fuddiannau partïon cysylltiedig sy’n berthnasol i waith yr ASB yn ogystal â phob cyflogaeth, gwaith a phenodiad allanol y ceir tâl amdanynt (p’un a ydynt yn berthnasol ai peidio).
Gall unigolyn fod â buddiannau eraill ac, er bod yr ASB yn ymwybodol o’r rhain, bernir nad ydynt yn berthnasol i rôl yr Aelodau ac felly nid ydynt o fewn y cwmpas ar gyfer cyhoeddi.
Mae’r adran yn rheoli’r holl fuddiannau perthnasol i atal y risg o wrthdaro buddiannau canfyddedig, posib neu wirioneddol.
- Perchennog ymgynghoriaeth fusnes, Nourish Communication Ltd
Hanes diwygio
Published: 15 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Mai 2026