Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
page

Frank Atherton – Aelod o Fwrdd yr ASB

Yn amlinellu hanes proffesiynol Aelodau ein Bwrdd ac yn rhoi manylion am unrhyw fuddiannau busnes a allai fod ganddynt er mwyn sicrhau tryloywder.

Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Gorffennaf 2025
Frank Atherton - Aelod o Fwrdd yr ASB

Frank Atherton - Aelod o Fwrdd yr ASB

Graddiodd yr Athro Syr Frank Atherton mewn meddygaeth o Brifysgol Leeds a gweithiodd mewn ysbytai a swyddi gofal sylfaenol ledled Gogledd Lloegr am sawl blwyddyn cyn ymgymryd â gwaith gwirfoddol fel Swyddog Meddygol Ardal ym Malawi.

Ar ôl dychwelyd i’r DU, cwblhaodd hyfforddiant arbenigol mewn Meddygaeth Iechyd Cyhoeddus yn ardal Swydd Efrog, ac yna gweithiodd ar raglenni iechyd a datblygu rhyngwladol i Sefydliad Iechyd y Byd ac Adran Datblygu Rhyngwladol y DU mewn amrywiol leoliadau, gan gynnwys yr Hen Iwgoslafia, Tanzania, a Bangladesh. 

Rhwng 2002 a 2012, bu Frank yn gweithio fel Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus yn Swydd Gaerhirfryn, a rhwng 2008 a 2012, ef oedd Llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Iechyd Cyhoeddus y DU (ADPH). Yn 2012, symudodd Frank i Ganada i fod yn Ddirprwy Brif Swyddog Meddygol Iechyd yn Adran Iechyd a Llesiant Nova Scotia. Rhwng 2016 a 2025, Frank oedd Prif Swyddog Meddygol a Chyfarwyddwr Meddygol Cenedlaethol Cymru. Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu’n cynghori Gweinidogion Cymru ac yn arwain y system iechyd mewn ymateb i bandemig COVID-19.

Cafodd Frank ei urddo’n farchog yn rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2022 am ei wasanaethau i iechyd y cyhoedd, a chafodd ei benodi’n Athro gwadd ym Mhrifysgol Leeds yn 2023.

Buddiannau personol

Ymgynghoriaethau a/neu gyflogaeth uniongyrchol:

  • Wedi'i gyflogu gan Lywodraeth Cymru ar gontract rhan-amser (diwrnod yr wythnos) i gwblhau ei fewnbwn i'r Ymchwiliad i COVID-19

Rolau di-dâl:

  • Dim.

Gwaith â thâl:

  • Dim.

Rhanddaliadau:

  • Dim.

Clybiau a sefydliadau eraill:

  • Dim.

Buddiannau personol eraill:

  • Dim.

Cymrodoriaethau:

  • Dim.

Cymorth anuniongyrchol:

  • Dim.

Ymddiriedolaethau:

  • Elusen “Freedom from Torture”, sy'n darparu cymorth i'r rhai sydd wedi cael eu harteithio ac sy'n ymgyrchu dros roi diwedd ar arteithio.  Penodiad tair blynedd (y gellir ei adnewyddu o fis Chwefror 2025)

Tir ac eiddo:

  • Dim.

Penodiadau cyhoeddus eraill:

  • Dim.

Buddiannau eraill nad ydynt yn bersonol

  • Dim.