Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Galw cynhyrchion yn ôl a rhybuddion

Gwybodaeth am ein gwasanaeth tanysgrifio i gael negeseuon a rhybuddion am alw cynhyrchion yn ôl.

Beth yw galw cynhyrchion yn ôl?

 

Gellir galw bwyd yn ôl am nifer o resymau, er enghraifft halogiad â phathogenau fel listeria neu salmonela a allai roi gwenwyn bwyd i chi, neu oherwydd namau gweithgynhyrchu, fel dod o hyd i blastig neu fetel yn y cynnyrch. Gall rhoi gwybodaeth anghywir am alergenau neu hepgor gwybodaeth am alergenau hefyd arwain at alw’r cynnyrch yn ôl oherwydd alergen.  

Busnesau bwyd sy’n gyfrifol am alw cynhyrchion anniogel yn ôl. Rydym yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol a’r diwydiant bwyd i gyhoeddi rhybuddion i ddefnyddwyr pan fydd cynhyrchion bwyd yn cael eu galw’n ôl.  

Gallwch gofrestru ar gyfer gwahanol fathau o rybuddion yma.  

Galw bwyd yn ôl

Pan fyddwch wedi cofrestru, byddwn yn cysylltu â chi bob tro y byddwn yn cyhoeddi rhybudd galw cynnyrch yn ôl. Gall hyn eich helpu i osgoi bwyta bwydydd y canfuwyd eu bod yn anniogel. 

Mae hysbysiadau galw’n ôl yn cynnwys gwybodaeth am y risg a chyngor am yr hyn y dylech ei wneud os ydych wedi prynu’r cynnyrch sy’n cael ei alw’n ôl.  

Dyma restr o gynhyrchion sy'n cael eu galw'n ôl

Rhybuddion alergeddau

Mae cofrestru ar gyfer rhybuddion alergeddau yn golygu y byddwch yn cael gwybodaeth am unrhyw rybuddion galw cynnyrch yn ôl sy’n gysylltiedig ag alergeddau.  Mae’r rhybuddion hyn hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y risg a chyngor am yr hyn y dylech ei wneud os ydych wedi prynu’r cynnyrch.  

Dyma restr o rybuddion alergeddau diweddar.

Newyddion ac ymgynghoriadau

Drwy gofrestru ar gyfer straeon newyddion neu ymgynghoriadau, byddwn yn cysylltu â chi bob tro y byddwn yn cyhoeddi stori newyddion neu ymgynghoriad.  

Gall straeon newyddion hefyd gynnwys manylion am fwydydd a allai achosi risgiau i chi pan nad oes cynnyrch yn cael ei alw’n ôl, er enghraifft pan fydd achos o haint a gludir gan fwyd neu frigiad o achosion (outbreak) y gallai fod o ddiddordeb i chi. Gall straeon newyddion hefyd roi diweddariadau ar weithgareddau eraill yr Asiantaeth Safonau Bwyd.  

Dyma restr o straeon newyddion ac ymgynghoriadau sydd wedi'u cyhoeddi.