Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Georgia Taylor – Aelod o Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru

Penodol i Gymru

Yn amlinellu hanes proffesiynol a chymwysterau aelodau Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru.

Ymunodd Georgia â'r Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASA) yn 2010 fel Swyddog Gweithredol Ymchwiliadau, gan reoli achosion amrywiol o ymchwiliadau i gwynion hysbysebu. Wedi hynny, symudodd i Leatherhead Food Research i ddarparu ymgynghoriaeth i'r diwydiant bwyd ar bob mater cyfraith bwyd, gan gydweithio'n aml â chydweithwyr gwyddonol yn yr adrannau Maeth a Defnyddwyr a Synhwyraidd.

Tra'n astudio’r gyfraith yn 2016, ymunodd â Grŵp DWF lle mae’n gweithio fel Ymgynghorydd Rheoleiddio o fewn y tîm Rheoleiddio, Cydymffurfiaeth ac Ymchwiliadau, gan roi cyngor cyfreithiol i gleientiaid ar gynnyrch defnyddwyr a hysbysebu, gan ganolbwyntio’n benodol ar fwyd.

Dros y 10 mlynedd diwethaf mae hi wedi cyfrannu at amryw ddigwyddiadau yn ymwneud â bwyd, gan gynnwys cyflwyno yn Vitafoods Europe a Symposiwm Diwydiant Bwyd Prifysgol Reading. 

Mae gan Georgia radd dosbarth cyntaf mewn Astudiaethau Cyfunol a gradd Meistr mewn Hanes Celf o Brifysgol Manceinion yn ogystal â Diploma Graddedig yn y gyfraith o Brifysgol BPP. 

Mae Georgia yn byw gyda'i theulu ym Mryste ond mae gwreiddiau ei theulu yng Nghymru. Treuliodd lawer o wyliau plentyndod yn crwydro bae Rhosili ac yn dringo'r Ysgyryd Fawr.

Buddiannau personol

Ymgyngoriaethau a/neu gyflogaeth uniongyrchol

  • Ymgynghorydd Rheoleiddio yng Ngrŵp DWF

Gwaith am ffi

  • Dim

Cyfranddaliadau

  • Dim

Clybiau a sefydliadau eraill

  • Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol

Buddiannau personol eraill

  • Dim

Buddiannau nad ydynt yn rhai personol

Cymrodoriaethau

  • Dim

Cymorth anuniongyrchol

  • Dim

Ymddiriedolaethau

  • Dim

Tir ac eiddo

  • Dim

Penodiadau cyhoeddus eraill

  • Dim

Buddiannau eraill nad ydynt yn rhai personol

  • Dim