Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Gwaith y Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol

Gwybodaeth am gylch gwaith pob un o’r pwyllgorau a rôl aelod o’r pwyllgor.

Mae’r isod yn rhoi disgrifiad byr o gylch gwaith y pwyllgorau, a’r gwaith a’r meysydd y gallech chi gymryd rhan ynddynt fel rhan o bwyllgor. Saesneg yw iaith waith yr holl bwyllgorau a’r grwpiau arbenigol.

Pwyllgor ar Wenwyndra

Cylch gwaith 

Ei nod yw asesu a chynghori ar y risg wenwynig i’r cyhoedd o sylweddau sydd:  

  • yn cael eu defnyddio neu y bwriedir eu defnyddio fel ychwanegion bwyd    
  • yn cael eu defnyddio yn y fath fodd fel y gallent halogi bwyd trwy eu defnyddio neu wrth iddynt fod yn bresennol yn naturiol mewn amaethyddiaeth (gan gynnwys garddwriaeth ac ymarfer milfeddygol), neu wrth ddosbarthu, storio, paratoi, prosesu neu becynnu bwyd  
  • yn cael eu defnyddio neu y bwriedir eu defnyddio, eu gweithgynhyrchu neu eu cynhyrchu mewn diwydiant, amaethyddiaeth, wrth storio bwyd neu mewn unrhyw weithle arall  
  • yn cael eu defnyddio neu y bwriedir eu defnyddio fel nwyddau cartref neu nwyddau toiled a pharatoadau  
  • yn cael eu defnyddio neu y bwriedir eu defnyddio fel cyffuriau, pan ofynnir am gyngor gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd  
  • yn cael eu defnyddio neu y bwriedir eu defnyddio neu eu gwaredu mewn ffordd sy’n arwain at lygru’r amgylchedd  

Mae'r pwyllgor hefyd yn cynghori ar egwyddorion cyffredinol pwysig neu ddarganfyddiadau gwyddonol newydd mewn cysylltiad â risgiau gwenwynig, i gydlynu â chyrff eraill sy’n ymwneud ag asesu risgiau gwenwynig a chyflwyno argymhellion ar gyfer profi gwenwyndra.

Eich rôl 

Fel arbenigwr ar y Pwyllgor ar Wenwyndra (COT), byddwch chi’n helpu i asesu a chynghori ar y risgiau sy’n deillio o ystod eang o gemegion mewn bwyd a chynhyrchion eraill ac o amlygiad amgylcheddol. Mae’r rhain yn amrywio o halogion organig ac anorganig yn neiet y DU, tocsinau naturiol mewn atchwanegiadau, i systemau dyfeisiau nicotin (neu heb fod yn nicotin) a chynhyrchion masnachol ‘cynhesu nid llosgi’ newydd. Efallai y byddwch hefyd yn ystyried y lefelau uchaf priodol ar gyfer maethynnau a byddwch hefyd yn mynd ati i sganio’r gorwel.   

Efallai y byddwch yn gweithio gyda Phwyllgorau Cynghori Gwyddonol eraill i ystyried croestoriad o bynciau unigol yn fwy helaeth. Mae gweithgorau diweddar yn cynnwys syntheseiddio tystiolaeth epidemiolegol a dadansoddiad o'r risgiau a'r manteision o amnewid potasiwm ar gyfer halwynau sodiwm. Byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr sydd ag ystod o gefndiroedd gwenwynegol a rhai o ddisgyblaethau gwyddonol eraill yn ogystal ag aelodau lleyg, a chewch gefnogaeth lawn gan ysgrifenyddiaeth weinyddol a gwyddonol.  

Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch Microbiolegol Bwyd 

Cylch gwaith

Ei nod yw asesu’r risg i bobl o ficro-organebau sy’n cael eu defnyddio neu sy’n codi mewn neu ar fwyd, a chynghori’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ar unrhyw faterion sy’n ymwneud ag agweddau microbiolegol ar ddiogelwch bwyd.  

Eich rôl 

Fel arbenigwr ar y Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch Microbiolegol Bwyd (ACMSF), gallech fod yn asesu ac yn cynghori ar risgiau microbiolegol a gludir gan fwyd gan gynnwys y rhai sy’n deillio o ddigwyddiadau a brigiadau o achosion, pathogenau newydd sy’n dod i’r amlwg a thueddiadau mewn clefydau a gludir gan fwyd, neu ddatblygiadau yn y diwydiant sy’n ymwneud â diogelwch microbiolegol bwyd. Byddwch hefyd yn sganio’r gorwel ac o bosib yn gweithio ar grwpiau arbenigol sy’n ymdrin â phynciau fel Campylobacter, ymwrthedd gwrthficrobaidd neu wyliadwriaeth bwyd microbiolegol. Byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr gydag ystod o arbenigedd microbiolegol yn ogystal â rhai o ddisgyblaethau eraill ac aelodau lleyg. Byddwch yn cael eich cefnogi’n llawn gan ysgrifenyddiaeth weinyddol a gwyddonol.

Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd a Phrosesau Newydd 

Cylch gwaith

Ei nod yw cynghori’r awdurdodau canolog cyfrifol, yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ar unrhyw faterion sy’n ymwneud â bwydydd newydd (gan gynnwys cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid sy’n dod o dechnolegau genetig) a phrosesau bwyd newydd, gan gynnwys arbelydru (irradiation) bwyd, gan roi sylw, lle bo hynny’n briodol, i farn cyrff arbenigol perthnasol.  

Eich rôl

Fel arbenigwr ar y Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd a Phrosesau Newydd (ACNFP), byddwch yn asesu ac yn cynghori ar y risgiau posibl i’r defnyddiwr o fwydydd a phrosesau bwyd newydd, gan gynnwys defnyddio cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid sy’n dod o dechnolegau genetig. Byddwch yn cynghori ar risgiau diogelwch posibl bwydydd a phrosesau bwyd newydd i sicrhau bod bwydydd newydd sy’n cyrraedd y farchnad yn ddiogel i ddefnyddwyr eu mwynhau. Gall cynhwysion newydd ddeillio o ffrwythau, planhigion neu bryfed; prosesau fel arbelydru ac eplesu microbaidd, yn ogystal â bwydydd sy’n cael eu bwyta’n draddodiadol y tu allan i Ewrop sy’n newydd i’r DU. Mae pynciau diweddar ACNFP wedi cynnwys hadau chia ac olewau a dynnwyd o ficroalgae. Byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr o ystod o ddisgyblaethau gwyddonol yn ogystal ag arbenigwyr anwyddonol ac aelodau lleyg.  Byddwch yn cael eich cefnogi’n llawn gan ysgrifenyddiaeth weinyddol a gwyddonol.

Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd Anifeiliaid

Cylch gwaith 

Mae’r Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd Anifeiliaid (ACAF) yn cynghori ar ddiogelwch bwydydd anifeiliaid ac arferion bwydo a’u defnydd, gyda phwyslais arbennig ar ddiogelu iechyd pobl, gan gyfeirio hefyd at ddatblygiadau technegol newydd.  Mae’r grŵp yn cydgysylltu â chyrff perthnasol eraill sy’n ymwneud ag asesu ychwanegion bwyd anifeiliaid ac yn ystyried eu barn, ac yn darparu cyngor ar egwyddorion cyffredinol neu ddarganfyddiadau gwyddonol newydd mewn cysylltiad ag awdurdodi ychwanegion a sylweddau bwyd anifeiliaid.    

Eich rôl

Fel arbenigwr yn yr ACAF, byddwch yn asesu ac yn cynghori ar risgiau posib ychwanegion bwyd anifeiliaid i anifeiliaid, defnyddwyr, a’r amgylchedd, ynghyd â deunyddiau bwyd anifeiliaid a bwyd a ddefnyddir at ddibenion maethol penodol. Byddwch hefyd yn darparu cyngor arbenigol targededig ar asesiadau risg ar ychwanegion bwyd anifeiliaid a gynhelir gan yr ASB, fel arbenigwr yn eich maes. Mae ychwanegion bwyd anifeiliaid yn cynnwys amrywiaeth eang o sylweddau ac organebau organig ac anorganig, gan gyflwyno gwahanol heriau i’w hasesu. Byddwch hefyd yn darparu cyngor arbenigol ar effeithiolrwydd yr ychwanegion hyn o dan eu hamodau defnyddio arfaethedig, a allai anelu at, er enghraifft, wella cynnyrch llaeth, lleihau cynhyrchu methan, gwella blasusrwydd, neu helpu i reoleiddio microbiota’r perfedd, ymhlith eraill. Byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr o ystod o ddisgyblaethau gwyddonol a chewch gefnogaeth lawn gan ysgrifenyddiaeth weinyddol a gwyddonol.

Grŵp Arbenigol ar y Cyd ar Ychwanegion, Ensymau a chynhyrchion rheoleiddiedig eraill

Cylch gwaith 

Ffurfiwyd y Grŵp Arbenigol ar y Cyd ar Ychwanegion, Ensymau a chynhyrchion rheoleiddiedig eraill (AERJEG) i asesu a chynghori ar y risg i bobl o sylweddau gwella bwyd. Mae hwn yn Grŵp Arbenigol ar y Cyd sy’n cynnwys y COT ac ACMSF. 

Mae’n asesu ac yn rhoi cyngor i’r ASB neu adrannau eraill y llywodraeth ar geisiadau am awdurdodi ychwanegion neu gynhwysion bwyd newydd (gan gynnwys lliwiau, cyffeithyddion, cyflasynnau), ensymau a chymhorthion prosesu ac ar bynciau eraill sy’n berthnasol i asesu ceisiadau o’r fath yn ôl y gofyn. Mae’r grŵp yn cydgysylltu â chyrff perthnasol eraill sy’n ymwneud ag asesu ychwanegion bwyd ac yn ystyried eu barn, ac yn darparu cyngor ar egwyddorion cyffredinol neu ddarganfyddiadau gwyddonol newydd mewn cysylltiad ag awdurdodi ychwanegion bwyd. 

Eich rôl 

Fel arbenigwr yn yr AERJEG, byddwch yn asesu ac yn cynghori ar y risgiau posibl i ddefnyddwyr o gynhyrchion sy’n ceisio awdurdodiad fel ychwanegion bwyd, cyflasynnau, cyflasynnau mwg ac ensymau. Byddwch yn cynghori ar risgiau diogelwch posibl sylweddau gwella bwyd newydd i sicrhau bod cynhwysion swyddogaethol newydd sy’n dod i mewn i’r farchnad yn ddiogel i’w mwynhau gan ddefnyddwyr. Yn gyffredinol, byddai’r grŵp yn canolbwyntio ar geisiadau cyfansoddion cemegol neu gymysgeddau neu sylweddau eraill. Mae ein harbenigwyr yn sicrhau y gallwn adolygu cymesuredd y ceisiadau, gan sicrhau diogelwch defnyddwyr. Byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr o ystod o ddisgyblaethau gwyddonol a chewch gefnogaeth lawn gan ysgrifenyddiaeth weinyddol a gwyddonol.