Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Os oes gennych unrhyw bryderon neu wybodaeth yn ymwneud â thwyll neu droseddoldeb mewn cadwyni cyflenwi bwyd, neu os ydych yn dymuno chwythu’r chwiban ynghylch busnes bwyd yr ydych yn gweithio iddo, ffoniwch linell gymorth Trechu Trosedd Bwyd yn Gyfrinachol ar 0207 276 8787 (9am i 4pm, dydd Llun i ddydd Gwener) neu rhowch wybod drwy ein gwasanaeth ar-lein.

Gweithio ar draws y pedair gwlad

Canllawiau ar gyfrifoldebau datganoledig a chydweithio ledled y Deyrnas Unedig (DU)

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Awst 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Awst 2022

Mae gweithio ar draws y pedair gwlad yn ddull cydweithredol, ledled y DU, gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) tuag at lunio polisïau. Mae'n cynnwys gweision sifil o Gymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni canlyniadau a ddymunir ar draws y DU.

Rydym ni’n gweithio fel hyn oherwydd:

  • Mae cylch gwaith yr ASB yn cynnwys tair gwlad. Rydym ni’n gweithredu yn Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ac mae gennym gyfrifoldebau polisi gwahanol yn y gwledydd hyn.
  • Mae Safonau Bwyd yr Alban (FSS), sy’n gorff cyhoeddus annibynnol, yn gyfrifol am bolisi bwyd yn yr Alban.
  • Mae datganoli wedi arwain at wahanol ofynion polisi, atebolrwydd a blaenoriaethau ar draws y pedair gwlad. 

Mae ymrwymiad i weithio ar draws y pedair gwlad yn sicrhau y gallwn ni ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau defnyddwyr yn effeithiol ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Ar lefel ymarferol, mae gweithio ar draws y pedair gwlad yn cynnwys arferion gweithio cydweithredol ar bob lefel o'n sefydliad.

Cyfrifoldebau polisi datganoledig

Mae cyfrifoldebau yn y meysydd polisi canlynol wedi'u datganoli:

  • diogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid
  • honiadau, safonau a labelu maeth ac iechyd
  • safonau ynghylch cyfansoddiad a labelu bwyd

Mae hyn yn golygu bod pwerau i ddatblygu polisi ar gyfer Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru wedi'u trosglwyddo o lywodraeth y DU i'r gwledydd hyn. Mae datganoli hefyd yn golygu bod yr ASB yn atebol i weinyddiaeth pob gwlad am ei gweithgareddau yn y gwledydd hynny. 

Mae datganoli pŵer wedi arwain at wahanol fodelau llywodraethu, atebolrwydd a chyflenwi ar gyfer yr ASB ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac ar gyfer Safonau Bwyd yr Alban.

Mae'r gwahaniaethau hyn yn cynnwys:

  • creu pwyllgorau cynghori ar fwyd annibynnol ar gyfer materion diogelwch a safonau bwyd yng Nghymru a Gogledd Iwerddon
  • cyrff cyflenwi eraill ar gyfer rheolaethau swyddogol yng Ngogledd Iwerddon
  • alinio â gwahanol ofynion polisi, fel y rhai sydd wedi’u pennu yn Neddf yr Iaith Gymraeg

Mae cyfrifoldebau polisi ym mhob gwlad hefyd yn wahanol. Mae'r ASB yn gyfrifol am wahanol feysydd polisi ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. 

Crynodeb o’r maes polisi a’r adran gyfrifol yn ôl gwlad

Safonau Bwyd yr Alban

Mae Safonau Bwyd yr Alban yn gorff cyhoeddus annibynnol sy'n gweithio i ddefnyddwyr yn yr Alban. Ar 1 Ebrill 2015, fe gymerodd y swyddogaethau yr oedd yr ASB (yr Alban) yn gyfrifol amdanynt cyn hynny.

Sefydlodd Deddf Bwyd (Yr Alban) 2015 Safonau Bwyd yr Alban fel swyddfa an-weinidogol. Mae'n rhan o Weinyddiaeth yr Alban, ac mae’n gweithredu ochr yn ochr â Llywodraeth yr Alban, ond yn annibynnol ohoni. Fe'i hariennir yn bennaf gan lywodraeth yr Alban, ond mae’n codi ffioedd i adennill costau ar gyfer swyddogaethau rheoleiddio. 

Mae rôl Safonau Bwyd yr Alban yn debyg i rôl yr ASB. Mae'n datblygu polisïau, yn darparu canllawiau i ddefnyddwyr a busnesau, yn cynghori rhanddeiliaid, ac yn gorfodi rheoliadau bwyd. Mae'r ASB yn gweithio'n agos ochr yn ochr â Safonau Bwyd yr Alban  i sicrhau canlyniadau a rennir.

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban wedi sefydlu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth

Ysgrifennwyd a llofnodwyd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn wreiddiol yn 2015, pan drosglwyddwyd y cyfrifoldeb am feysydd polisi'r ASB yn yr Alban i Safonau Bwyd yr Alban. Mae wedi cael ei adolygu a'i ddiweddaru ar y cyd gan arbenigwyr yn y ddau sefydliad i sicrhau ei fod yn addas at y diben yn y drefn reoleiddio newydd ar ôl ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE).

Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn nodi'r egwyddorion a fydd yn sail i'r berthynas rhwng y ddau sefydliad. Mae'n grynodeb lefel uchel o'r ymrwymiadau a wnaed gan yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban ar sut y byddwn yn gweithio gyda'n gilydd, ac yn diffinio ein perthynas waith yn fanwl ar draws meysydd gwaith allweddol.

Llofnodwyd y Memorandwm newydd gan Brif Swyddogion Gweithredol yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban ym mis Rhagfyr 2020. 

England, Northern Ireland, Scotland and Wales