Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Strategaeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer 2022 i 2027

Gweithredu’r strategaeth a mesur cynnydd

Sut y bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn gweithredu ei strategaeth bum mlynedd ac yn mesur cynnydd mewn meysydd blaenoriaeth.

Mae’r strategaeth hon yn pennu ein cyfeiriad ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Disgwyliwn i’n sefydliad a’n gwaith esblygu i gyflawni’r uchelgeisiau a nodwyd gennym.

Bydd angen i ni fod yn hyblyg yn ein dull o weithio, yn enwedig wrth i ni archwilio meysydd newydd o’n strategaeth, fel ein gweledigaeth ar gyfer bwyd sy’n iachach ac yn fwy cynaliadwy.

Rydym ni’n gosod ein hamcanion corfforaethol a chynllun gwaith ar gyfer y flwyddyn gyntaf ochr yn ochr â’r strategaeth hon a byddwn yn gosod cynlluniau gwaith ar gyfer y blynyddoedd dilynol drwy ein proses cynllunio corfforaethol. Byddwn yn trafod y rhain mewn cyfarfodydd cyhoeddus y Bwrdd. Byddwn hefyd yn gweithio gyda rhanddeiliaid allanol i lywio cynlluniau gwaith, fel rhan o’n hymrwymiad i weithio gydag eraill a thrwy eraill.

Mae’r pum mlynedd diwethaf, gyda’r DU yn ymadael â’r UE a’r pandemig COVID-19 wedi dangos y gall ein cyd-destun newid yn sylweddol. Ond disgwyliwn i’r strategaeth hon ddarparu’r fframwaith ar gyfer wynebu’r newidiadau hynny: eglurder o ran ein gweledigaeth, ein hamcanion, a sut yr ydym am weithio. 

Ar ôl llunio ein strategaeth, bydd angen i ni wneud yn siŵr bod gan yr ASB y capasiti a’r gallu i’w chyflawni. Yn ein cynlluniau gwaith, byddwn yn cynnwys rhai darnau o waith mewnol sy’n ein helpu i feithrin yr adnoddau hynny, ac i sicrhau bod y prif egwyddorion wedi’u hymgorffori’n llawn o fewn yr ASB.

Ein cynllun pobl

Rydym ni’n datblygu cynllun pobl newydd i’n galluogi i gyflawni ein strategaeth. Bydd yn canolbwyntio ar fanteisio i’r eithaf ar allu sefydliadol, gwireddu ein gwerthoedd a sicrhau profiad rhagorol i weithwyr a datblygu ein pobl.

Dull gwasanaethau

Rydym ni’n credu ei bod yn bwysig gweld rhywfaint o’n gwaith fel ‘gwasanaeth’ i’r cyhoedd, y diwydiant, awdurdodau lleol neu rannau eraill o lywodraeth. Rydym ni wedi defnyddio dull dylunio gwasanaeth i’n gwasanaethau digidol ers peth amser ond rydym ni bellach yn ehangu hyn i feysydd eraill o’n sefydliad. Bydd hyn yn cynnwys cynyddu’r adborth a gawn ar ein gwaith, sefydlu a monitro metrigau perfformiad ac ailgynllunio rhai o’n prosesau fel eu bod yn rhedeg yn llyfnach. Trwy'r broses hon, rydym ni'n gobeithio ei gwneud yn haws i fusnesau gyflawni eu rhwymedigaethau a gwneud y peth iawn.

Mesur cynnydd

Mesurau presennol

Mae’r system fwyd yn hynod gymhleth. Er mwyn mesur ein llwyddiant wrth weithredu’r strategaeth, bydd angen i ni ystyried ystod o fetrigau sy’n cydnabod y cymhlethdod sydd ynghlwm wrth fesur cynnydd yn y system fwyd.

Mae hefyd llawer o weithredwyr, gan gynnwys yr ASB, bob un â’u rolau a’u cyfrifoldebau gwahanol i sicrhau bod bwyd yn ddiogel, yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label ac yn iach a chynaliadwy. Mae hyn yn golygu y bydd angen i ni edrych ar gynnydd o sawl ongl.

Mae gan yr ASB system adrodd ar berfformiad gyda nifer o fetrigau a thargedau, o’n hamcanion strategol lefel uchaf i weithgareddau dyddiol ein gwaith rheng flaen. Rydym ni’n cyhoeddi data perfformiad yn rheolaidd, er enghraifft mewn adroddiadau Perfformiad ac Adnoddau i Bwyllgor Busnes Bwrdd yr ASB.

Rydym ni’n bwriadu datblygu’r system adrodd perfformiad hon a’i defnyddio i fesur cynnydd yn erbyn ein strategaeth newydd. 

Mae llawer o’r mesurau presennol eisoes yn cyd-fynd â’n strategaeth newydd gan gynnwys ar a yw bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. 

Er enghraifft, ar gyfer sicrhau bod bwyd yn ddiogel, rydym ni’n cyhoeddi ffigurau ar gyfer nifer yr achosion a gadarnhawyd gan labordai o’r ‘pedwar prif’ bathogen bwyd. Dyma nifer yr achosion, a gadarnhawyd gan brofion labordai, o bedair o'r prif ffynonellau o salwch a gludir gan fwyd – E. Coli, Salmonela, Campylobacter a Listeria.  Mae hyn yn ein galluogi ni i fesur canlyniad yr ydym am ei weld yn y system fwyd, sef mae achosion yn parhau i fod yn isel.

Achosion o’r ‘pedwar prif’ bathogen bwyd wedi’u cadarnhau gan mewn labordai (000au)

4.	Lab confirmed cases of Big 4 Food Pathogens – Confirmed cases of the Big 4 pathogens increased in 2018 to 80.97 but has since decreased a little to 78.85 in line with previous years.

Rydym ni’n mesur barn defnyddwyr ar y system fwyd a’r ASB yn rheolaidd:

Canran y defnyddwyr sydd â hyder mewn diogelwch a dilysrwydd bwyd

Canran y defnyddwyr sydd â hyder mewn diogelwch a dilysrwydd bwyd

Rydym ni hefyd yn cyhoeddi mesurau sy’n dangos cyfraniad yr ASB ac eraill yn y system fwyd at gyflawni’r canlyniadau hyn.

Er enghraifft, rydym ni’n adrodd ar ganran y gweithredwyr busnesau bwyd a gafodd sgôr Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd o bump (sy’n golygu da iawn) a’r rhai sy’n cael sgôr is na thri (sy’n golygu is na boddhaol). Rydym ni hefyd yn adrodd ar ganran y gweithredwyr busnesau bwyd cig sy’n cael sgôr foddhaol neu’n uwch ar gyfer gweithgarwch cydymffurfio ac archwilio.

Canran y busnesau a gafodd sgôr o bump (da iawn)

Canran y busnesau a gafodd sgôr o bump (da iawn)

Canran y busnesau cig a archwiliwyd a gafodd sgôr ‘dda’

Canran y busnesau cig a archwiliwyd a gafodd sgôr ‘dda’

Mae’r mesurau hyn yn parhau i gynrychioli darlun o berfformiad yr ASB a’r system fwyd yn ei chyfanrwydd ac yn darparu llinell sylfaen ddefnyddiol i fesur cynnydd yn ei herbyn.

Mesurau newydd a diweddar

Byddwn hefyd yn datblygu metrigau newydd ac yn adolygu ein hadroddiadau perfformiad i gyd-fynd â’r strategaeth newydd hon.

Er mwyn gwerthuso ein strategaeth yn effeithiol, bydd ein metrig yn ystyried y darlun llawn, fel bod gennym y ffigurau ar gyfer ein gweithgareddau a’n hallbynnau, ac ar gyfer sut mae’r system fwyd yn dod yn ei blaen yn gyffredinol, a sut mae’r rheiny’n cydblerthu fel y gallwn asesu ein cyfraniad ni’n benodol:

  • Datblygu a gwella mesurau sy’n cwmpasu ein rôl graidd sef sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.
  • Ymgorffori’r set gywir o fesurau i ddeall cynnydd ym maes bwyd sy’n iachach ac yn fwy cynaliadwy (gan adeiladu ar y mesurau maeth presennol sydd ar waith yng Ngogledd Iwerddon).
  • Ymgorffori mesurau sy’n berthnasol i ddiogelu buddiannau ehangach defnyddwyr o ran bwyd, fel ansicrwydd bwyd a fforddiadwyedd.
  • Ehangu’r mesurau sy’n ymwneud â sut rydym yn gwreiddio ein hegwyddorion, er enghraifft mesurau o’r gwasanaeth a ddarperir gan yr ASB, fel adborth gan ddefnyddwyr, neu faint o amser y mae’n ei gymryd i ni gymryd camau penodol.
  • Olrhain y buddion yr ydym wedi’u cyflawni mewn meysydd a gwmpesir gan ein strategaeth, er enghraifft pa gerrig milltir yn y cynllun corfforaethol yr ydym wedi’u cyrraedd a pha effaith ar ddefnyddwyr y gallwn ei dangos (naill ai fel rhagolygon neu werthusiadau ôl-weithredol).


Yn y pen draw mae’r strategaeth hon yn ymwneud â darparu bwyd y gall defnyddwyr ymddiried ynddo. Gan ddefnyddio set gadarn ac amrywiol o fesurau i fesur cyflawniad ac effaith dros y pum mlynedd nesaf, byddwn yn gallu addasu ein dull gweithredu lle bo angen, ymdrin â newid, ac yn y pen draw sicrhau bod gan bawb fwyd sy’n ddiogel, yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, yn iachach ac yn fwy cynaliadwy.