Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Helen Taylor – aelod Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru

Penodol i Gymru

Yn amlinellu hanes proffesiynol a chymwysterau aelodau Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru.

Mae Helen yn Gyfarwyddwr Technegol profiadol sy'n gweithio o fewn cadwyni cyflenwi bwyd, diod a deunydd pecynnu gan wasanaethu dros 30 mlynedd yn y sector. Rôl Helen yn ZERO2FIVE, Prifysgol Metropolitan Caerdydd yw arwain y tîm technegol i weithio gyda busnesau bach a chanolig ar draws pob categori cynnyrch yn y Deyrnas Unedig (DU). Mae hi'n arwain tîm o dechnolegwyr ym mhob agwedd ar drosglwyddo gwybodaeth, rheoleiddio, diogelwch bwyd, effeithlonrwydd, gweithgynhyrchu, lleihau gwastraff, datblygu cynnyrch newydd, maeth, ailfformiwleiddio cynnyrch a chydymffurfiaeth. Yn ei rôl mae Helen yn cydweithredu â chyrff diwydiant, aelodau clwstwr a rhanddeiliaid ledled Cymru, y DU a thu hwnt.

Cyn ei rôl bresennol yn y byd academaidd roedd Helen yn rheolwr Technegol profiadol gyda chwmnïau bwyd byd-eang mawr fel Cargill am dros 15 mlynedd. Mae gan Helen BSc mewn Gwyddorau Biolegol Cymhwysol a Diploma mewn Technoleg Pecynnu, mae'n Wyddonydd Siartredig, yn Rheolwr Diogelwch Bwyd cofrestredig, yn Gymrawd yr IFST, yn Llysgennad STEM ac yn archwilydd trydydd parti ar gyfer SALSA a Diogelwch Bwyd BRCGS.

Buddiannau personol

Ymgyngoriaethau a/neu gyflogaeth uniongyrchol

  • Cyfarwyddwr Technegol ZERO2FIVE, Canolfan y Diwydiant Bwyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Gwaith am ffi

  • Dim

Cyfranddaliadau

  • Dim

Clybiau a sefydliadau eraill

  • Cymdeithas Ryngwladol Diogelu Bwyd (IAFP, UDA)
  • IAFP, Cadeirydd Pwyllgor Gwyddonol Symposiwm Ewrop 

  • Sefydliad Gwyddor a Thechnoleg Bwyd (IFST) – Ymddiriedolwr Bwrdd

  • IFST – Cadeirydd y Pwyllgor Datblygiad Proffesiynol

  • Cynrychiolydd IFST ar Weithgor Trawsbleidiol Llywodraethau Cymru ar STEM

  • SALSA – Cymeradwyaeth Cyflenwyr Diogel a Lleol (DU), Archwilydd a Mentor

  • SALSA – Cymeradwyaeth Cyflenwyr Diogel a Lleol (DU), Pwyllgor Cynghori Technegol

Buddiannau personol eraill

  • Dim

Buddiannau nad ydynt yn rhai personol

Cymrodoriaethau

  • Dim

Cymorth anuniongyrchol

  • Dim

Ymddiriedolaethau

  • Dim

Tir ac eiddo

  • Dim

Penodiadau cyhoeddus eraill

  • Dim

Buddiannau eraill nad ydynt yn rhai personol

  • Dim