Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer contractau caffael

Gwybodaeth am y polisi preifatrwydd mewn perthynas â chontractau caffael, pam fod angen y data arnom ni, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud â'r data a'ch hawliau.

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yw 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni.

Pa wybodaeth sydd gennym ni

Gall yr wybodaeth bersonol sydd gennym ni amdanoch chi gynnwys: 

  • enw
  • cyfeiriad e-bost 
  • CV (gan gynnwys cymwysterau, sgiliau/arbenigedd, hanes cyflogaeth, rôl cwmni) 
  • lleoliad
  • gradd/teitl swydd 

O ble'r ydym ni'n cael yr wybodaeth hon

Mae'r ASB yn cael yr wybodaeth hon gan eich cyflogwr.

Pam mae angen yr wybodaeth hon arnom ni

Mae angen i ni gasglu'r wybodaeth hon at ddiben drafftio, cytuno, cyfnewid a chyhoeddi contract gyda'ch cyflogwr am gyflenwi ein gofynion ar gyfer nwyddau a gwasanaethau. Gwnawn hyn yn unol â'n rhwymedigaeth gyfreithiol i wneud hynny ac mae angen hynny er mwyn cyflawni tasg wrth arfer awdurdod swyddogol a freiniwyd ynom ni neu er budd y cyhoedd. Ni fyddwn ni'n casglu unrhyw ddata personol gennych chi nad ydym ni ei angen. 

Sut a ble rydym ni'n storio'ch data a gyda phwy y gallwn ni ei rannu

Dim ond cyhyd ag y bo hynny’n angenrheidiol i gyflawni’r swyddogaethau hyn y byddwn ni’n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â’n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y byddwn ni'n cadw'r wybodaeth am 6 mlynedd wedi iddi ddod i law.

At ddibenion ymrwymiad tryloywder y Llywodraeth, efallai y bydd gofyn i ni gyhoeddi data (yn amodol ar olygiadau (redactions) y gofynnwyd amdanynt dan eithriadau Deddf Rhyddid Gwybodaeth).

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r adran Sut a ble rydym ni’n storio'ch data a gyda phwy y gallwn ei rannu yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.   

Trosglwyddiadau rhyngwladol 

I gael rhagor o wybodaeth am drosglwyddiadau rhyngwladol, gweler adran Trosglwyddiadau Rhyngwladol ein Siarter Gwybodaeth Bersonol. 

Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE) 

I gael rhagor o wybodaeth am Hysbysiad Preifatrwydd Dinasyddion yr UE, gweler adran dinasyddion yr UE ein Siarter Gwybodaeth Bersonol. 

Eich hawliau 

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gweler adran Eich hawliau yn Siarter Gwybodaeth Bersonol. 

Cysylltu â ni 

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, eich gwybodaeth bersonol neu unrhyw gwestiynau ar ein defnydd o'r wybodaeth, anfonwch e-bost at ein Swyddog Diogelu Data yn yr ASB, sef Arweinydd y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch gan ddefnyddio'r cyfeiriad isod.