Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer sefydliadau cig cymeradwy a cheisiadau am gymeradwyaeth

Gwybodaeth am ein hysbysiad preifatrwydd ar gyfer sefydliadau cig cymeradwy a sefydliadau sy’n gwneud cais i weithredu fel sefydliadau cig cymeradwy yn y Deyrnas Unedig (DU), pam mae angen gwybodaeth bersonol arnom, beth rydym yn ei wneud â’r wybodaeth hon a’ch hawliau.

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd ‘Rheolydd’ yr wybodaeth bersonol a ddarperir i ni.

Pwrpas a sail gyfreithiol dros brosesu

Mae’r wybodaeth bersonol a allai fod gennym yn cynnwys:

  • Enw a chyfeiriad eich busnes a’ch manylion cyswllt
  • Enw a chyfeiriad cyflenwyr/cludwyr a'u manylion cyswllt
  • Troseddau perthnasol a ddatganwyd

Rydym ni’n cael yr wybodaeth hon o nifer o ffynonellau, gan gynnwys yn uniongyrchol o’ch ceisiadau am gymeradwyaeth, cyrff y diwydiant, awdurdodau lleol ac adrannau eraill o’r llywodraeth.

Mae angen i ni gasglu’r wybodaeth at y dibenion canlynol yn bennaf:

  • Creu cyfrifon ar gyfer gwneud cais 
  • Cyfathrebu ag ymgeiswyr a busnesau am y broses gymeradwyo 
  • Prosesu a gweinyddu ceisiadau am gymeradwyaeth

Rydym yn prosesu’r wybodaeth bersonol hon er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau statudol o dan Reoliad (EU) Rhif 2017/625 yng Ngogledd Iwerddon, neu o dan gyfraith a ddargedwir (retained) y DU ar gyfer Cymru a Lloegr mewn perthynas â rheolaethau swyddogol ar fwyd anifeiliaid a bwyd, a rheolau iechyd a lles anifeiliaid. Rydym yn prosesu data ar droseddau datganedig er mwyn bodloni gofynion rheoleiddiol mewn perthynas â gweithredoedd anghyfreithlon. 

Efallai y byddwn ni hefyd yn dadansoddi'r wybodaeth hon ynghyd â gwybodaeth arall sydd gennym amdanoch chi a gwybodaeth rydym ni wedi’i chael o ffynonellau cyhoeddus a/neu breifat er mwyn ein helpu i werthuso risg, gan gynnwys gwybodaeth o ffynonellau sydd ar gael i’r cyhoedd fel gwefannau a defnyddio meddalwedd tynnu data oddi ar y we (web scraping). 

Gwnawn hyn wrth arfer awdurdod swyddogol a roddwyd i ni o dan y Ddeddf Safonau Bwyd ac wrth gyflawni tasg er budd y cyhoedd.

Ni fyddwn ni’n casglu unrhyw ddata personol gennych chi nad oes ei angen arnom ni. 

Sut a ble rydym ni’n storio eich data a gyda phwy y gallwn ni ei rannu

Dim ond cyhyd ag y bo hynny’n angenrheidiol i gyflawni’r swyddogaethau hyn y byddwn ni’n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â’n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chadw am gyfnod y gymeradwyaeth, ac am 10 mlynedd ar ôl cau sefydliad.

Mae enw a chyfeiriad unrhyw sefydliadau cig cymeradwy yn cael eu cyhoeddi ar y wefan Dod o hyd i ddata agored.

I gael rhagor o wybodaeth am Sut a ble rydym ni’n storio’ch data a gyda phwy y gallwn ei rannu, darllenwch ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Trosglwyddiadau rhyngwladol  

I gael rhagor o wybodaeth am drosglwyddiadau rhyngwladol, ewch i’r adran Trosglwyddiadau Rhyngwladol yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.  

Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE)  

I gael rhagor o wybodaeth am Hysbysiad Preifatrwydd Dinasyddion yr UE, ewch i adran dinasyddion yr UE ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.  

Eich hawliau

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, ewch i adran Eich Hawliau ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Cysylltu â ni 

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, eich gwybodaeth bersonol neu unrhyw gwestiynau am ein defnydd o’r wybodaeth, anfonwch e-bost at ein Swyddog Diogelu Data yn yr ASB, sef Arweinydd y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch, gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost isod.