Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Os oes gennych unrhyw bryderon neu wybodaeth yn ymwneud â thwyll neu droseddoldeb mewn cadwyni cyflenwi bwyd, neu os ydych yn dymuno chwythu’r chwiban ynghylch busnes bwyd yr ydych yn gweithio iddo, ffoniwch linell gymorth Trechu Trosedd Bwyd yn Gyfrinachol ar 0207 276 8787 (9am i 4pm, dydd Llun i ddydd Gwener) neu rhowch wybod drwy ein gwasanaeth ar-lein.

Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer tendrau caffael

Gwybodaeth am y polisi preifatrwydd mewn perthynas â thendrau caffael, pam fod angen y data arnom ni, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud â'r data a'ch hawliau.

Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Rhagfyr 2020
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Rhagfyr 2020
Gweld yr holl ddiweddariadau

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yw 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni.

Pa wybodaeth sydd gennym ni?


Gall yr wybodaeth bersonol sydd gennym ni amdanoch chi gynnwys:  

  • enw
  • cyfeiriad e-bost 
  • CV (gan gynnwys cymwysterau, sgiliau/arbenigedd, hanes cyflogaeth, rôl cwmni)  
  • lleoliad
  • gradd/teitl swydd  

O ble'r ydym ni'n cael yr wybodaeth hon?

Mae'r ASB yn cael yr wybodaeth hon gan eich cyflogwr.

Pam mae angen yr wybodaeth hon arnom ni?

Mae angen i ni gasglu'r wybodaeth hon er mwyn gallu gwerthuso cynigion tendro, a gyflwynir gan eich cyflogwr sy'n cynnig cyflenwi ein gofynion ar gyfer nwyddau a gwasanaethau. Gwnawn hyn yn unol â'n rhwymedigaeth gyfreithiol i wneud hynny ac mae’n angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg wrth arfer awdurdod swyddogol a freiniwyd ynom ni neu er budd y cyhoedd. Ni fyddwn ni'n casglu unrhyw ddata personol gennych chi nad ydym ni ei angen.

Sut a ble rydym ni'n storio'ch data a gyda phwy y gallwn ni ei rannu

Dim ond cyhyd ag y bo hynny’n angenrheidiol i gyflawni’r swyddogaethau hyn y byddwn ni’n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â’n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y byddwn ni'n cadw'r wybodaeth am 6 mlynedd wedi iddi ddod i law.

At ddibenion ymrwymiad tryloywder y Llywodraeth, efallai y bydd gofyn i ni gyhoeddi data (yn amodol ar olygiadau (redactions) y gofynnwyd amdanynt dan eithriadau Deddf Rhyddid Gwybodaeth). 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i adran Sut a ble rydym ni’n storio'ch data a gyda phwy y gallwn ei rannu ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Trosglwyddiadau rhyngwladol  

I gael rhagor o wybodaeth am drosglwyddiadau rhyngwladol, ewch i adran Trosglwyddiadau Rhyngwladol ein Siarter Gwybodaeth Bersonol. 

Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE) 

I gael rhagor o wybodaeth am Hysbysiad Preifatrwydd Dinasyddion yr UE, ewch i adran Dinasyddion yr UE ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Eich hawliau 

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, ewch i adran Eich hawliau ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Cysylltu â ni 

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, eich gwybodaeth bersonol neu unrhyw gwestiynau ar ein defnydd o'r wybodaeth, anfonwch e-bost at ein Swyddog Diogelu Data yn yr ASB, sef Arweinydd y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch gan ddefnyddio'r cyfeiriad isod.