Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
page

Hysbysiad preifatrwydd – Hyfforddiant Alergedd ac Anoddefiad Bwyd ar-lein

Gwybodaeth am ein polisi preifatrwydd ar gyfer eich cofrestriad gyda’r Hyfforddiant Alergedd Bwyd drwy www.allergytraining.food.gov.uk, pam mae angen data arnom ni, yr hyn a wnawn gyda'r data a'ch hawliau.

Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Medi 2020

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni.

Pam fod angen yr wybodaeth hon?

Rydym ni’n casglu, yn defnyddio ac yn storio eich data personol er mwyn gallu eich cofrestru ar gyfer cyfrif hyfforddi, gweinyddu'ch cyfrif a darparu tystysgrif i chi.

Rydym ni’n gwneud hyn yn unol â'n hymrwymiad i addysgu ystod o randdeiliaid am Alergeddau Bwyd ac yn unol â'n dyletswyddau statudol o dan Ddeddf Safonau Bwyd 1999. O dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) rydym ni’n casglu'r wybodaeth hon i gyflawni ein Tasg Gyhoeddus.

Ni fyddwn ni'n casglu unrhyw ddata personol gennych chi nad ydym ni ei angen. Ni fyddwn ni'n datgelu eich gwybodaeth bersonol i unrhyw un heblaw'r rhai a soniwyd amdanynt uchod.

Beth fyddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth?

Dim ond cyhyd ag y bo hynny’n angenrheidiol i gyflawni’r swyddogaethau hyn y byddwn ni’n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â’n polisi cadw.

Mae'r holl ddata personol rydym ni'n ei brosesu yn byw ar weinyddion o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein gwasanaethau cwmwl wedi’u caffael drwy gytundebau fframwaith y Llywodraeth a’u hasesu yn erbyn egwyddorion cwmwl y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

Nid oes gan unrhyw drydydd partïon fynediad at eich data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu iddynt gael hynny. 

Bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd weithiau'n rhannu data gydag adrannau eraill y llywodraeth, cyrff cyhoeddus a sefydliadau sy'n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus i'w cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau statudol, neu pan fydd er budd y cyhoedd.

Eich hawliau

Mae gennych chi'r hawl i weld yr wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi drwy wneud cais ysgrifenedig i'r cyfeiriad e-bost isod. Os ydych chi ar unrhyw adeg o'r farn bod yr wybodaeth rydym ni'n ei phrosesu amdanoch chi yn anghywir, gallwch chi wneud cais i'w chywiro. Os hoffech chi wneud cwyn am y ffordd rydym ni wedi trin eich data personol, gallwch chi gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i'r mater.

Os nad ydych chi'n fodlon â'n hymateb neu os ydych chi o'r farn nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â'r gyfraith, fe allwch chi gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).