Lindsay Horth – Aelod o Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru
Yn amlinellu hanes proffesiynol a chymwysterau aelodau ein Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru.
Mae gan Lindsay dros 40 mlynedd o brofiad o weithio yn y sector bwyd a’r sector amaethyddol, gan gynnwys 32 mlynedd mewn llywodraeth leol a’r sector cyhoeddus ehangach fel Swyddog Safonau Bwyd. Dechreuodd ei gyrfa ym maes datblygu cynhyrchion bwyd o fewn y diwydiant bwyd cyn symud i rolau gorfodi gyda Chyngor Sir Gwent ac yn ddiweddarach yr Asiantaeth Safonau Bwyd, lle bu hefyd yn gweithio fel archwilydd bwyd a bwyd anifeiliaid. Ar ôl hyn, dychwelodd Lindsay i lywodraeth leol, gan arwain ar wasanaethau gorfodi bwyd, bwyd anifeiliaid ac iechyd anifeiliaid i Gyngor Dinas Casnewydd.
Mae cefndir proffesiynol Lindsay yn ymwneud â rheoleiddio bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae hi’n Swyddog Safonau Masnach cymwys sy’n arbenigo mewn deddfwriaeth bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae ganddi MSc mewn Gwyddor a Thechnoleg Bwyd, ac mae’n Gymrawd o’r Sefydliad Gwyddor a Thechnoleg Bwyd. Yn ystod ei gyrfa, mae hi wedi gweithio’n agos gyda’r Asiantaeth Safonau Bwyd, Llywodraeth Cymru a DEFRA ar ystod o faterion safonau bwyd, diogelwch bwyd anifeiliaid ac iechyd anifeiliaid. Mae hi hefyd wedi cydweithio â sefydliadau archwilio, gan gynnwys y RSPCA ac FAWL.
Yn flaenorol, roedd Lindsay yn Gadeirydd Grŵp Swyddogion Bwyd Anifeiliaid Cymru, lle chwaraeodd ran allweddol wrth ddatblygu model rhanbarthol cyntaf Cymru ar gyfer gorfodi bwyd anifeiliaid. Mae hi wedi cynrychioli Cymru ar Banel Amaethyddol Cenedlaethol y DU a Phanel Porthladdoedd Amaethyddol Cenedlaethol y DU ac mae hi wedi gweithio’n helaeth gyda sector bwyd a diod Cymru, gan gefnogi cydymffurfiaeth a safonau uchel ar draws busnesau – yn amrywio o gynhyrchwyr bach i gwmnïau rhyngwladol.