Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Margaret Gilmore - Aelod o Fwrdd yr ASB

Yn amlinellu hanes proffesiynol aelodau ein bwrdd ac yn rhoi manylion unrhyw ddiddordebau busnes sydd ganddynt er mwyn sicrhau tryloywder.

Margaret Gilmore

Mae Margaret Gilmore yn ailymuno â Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd, a hynny ar ôl gwasanaethu arno rhwng 2008 a 2014, pan gadeiriodd Bwyllgor Risg y Bwrdd ar y pryd a gweithredu fel Dirprwy Gadeirydd y Gwasanaeth Hylendid Cig (fel ag yr oedd ar y pryd).

Daw â phrofiad helaeth fel Cyfarwyddwr Anweithredol a Rheoleiddiwr Gwasanaethau Cyhoeddus gyda phrofiad arbennig mewn buddiannau defnyddwyr, rheoli risg ac alergenau. Ym mis Mai 2022, cwblhaodd ei thymor saith blynedd ar Fwrdd yr Awdurdod Ffrwythloni ac Embryoleg Dynol, a threuliodd chwech o'r rheiny fel Dirprwy Gadeirydd. Roedd hi'n Gomisiynydd Cynorthwyol Arweiniol gyda Chomisiwn Ffiniau Lloegr yn gyfrifol am ail-bennu ffiniau etholaethau seneddol yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr.

Am 10 mlynedd bu’n gweithio i’r felin drafod diogelwch annibynnol RUSI, ac yn fwyaf diweddar fel Uwch Gymrawd Cysylltiol sy’n arbenigo mewn Diogelwch Cenedlaethol a gwytnwch gan gynnwys rheoli risg. Mae ei gyrfa hir ym maes teledu, radio a phapurau newydd yn cynnwys saith mlynedd fel Uwch Ohebydd Materion Cartref a Chyfreithiol ar gyfer Newyddion y BBC yn ymdrin â gwytnwch a risg cenedlaethol, terfysgaeth a Gogledd Iwerddon.

Hi oedd Gohebydd Amgylchedd ac Amaeth y BBC pan oedd yr argyfwng BSE, newid yn yr hinsawdd, ffermio a chnydau GM yn dominyddu’r penawdau. Mae ganddi ddiddordeb mawr mewn alergenau a labelu, ac mae ganddi fab sydd ag alergedd difrifol i gnau. Mae hi'n parhau i ysgrifennu a darlithio ar ddiogelwch cenedlaethol a gwrthderfysgaeth.

Buddiannau Personol  

  • Dim

Ymgyngoriaethau a /neu gyflogaeth uniongyrchol

  • Darlithydd, Awdur, Darlledydd a Dadansoddwr Hunangyflogedig yn arbenigo mewn risg, diogelwch gwladol a’r cyfryngau. 

Rolau heb dâl

  • Gwaith cyfryngau gyda disgyblion mewn ysgolion lleol 

Gwaith â thâl 

  • Honoraria achlysurol ar gyfer Darlithoedd a Chyfweliadau Darlledu 

Cyfranddaliadau

  • Cyfranddaliwr, Quicksilver Media

Clybiau a sefydliadau eraill

  • Dim

Buddiannau personol eraill

  • Dim

Buddiannau nad ydynt yn rhai personol

  • Priod – Rheolwr-gyfarwyddwr, Cyfryngau Quicksilver
  • Brawd yng Nghyfraith – Gyrrwr contract dim oriau ar gyfer Uber Eats a Deliveroo
  • Mab – Gohebydd dan hyfforddiant gyda Mail Online

Cymrodoriaethau

  • Dim

Cefnogaeth anuniongyrchol

  • Dim

Ymddiriedolaethau

  • Dim

Tir ac eiddo

  • Dim

Penodiadau cyhoeddus eraill

  • Dim

Buddiannau eraill nad ydynt yn rhai personol

  • Dim