Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Rheolaethau Swyddogol a Gynhelir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (FSADOC)

Penodol i Gymru a Lloegr

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn rheoleiddio’r system fwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae’r broses aildendro hon ar gyfer cynnal rheolaethau mewn cysylltiad â gwaith cynhyrchu cig yng Nghymru a Lloegr yn unig. Ein prif amcanion yn ôl y gyfraith yw diogelu iechyd y cyhoedd rhag risgiau sy’n deillio o fwyta bwyd, ac i ddiogelu buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd yn gyffredinol.

Diweddariad mis Ebrill 2024

Rydym wedi cyhoeddi’r ail-dendr ar gyfer y contractau ar gyfer cynnal rheolaethau swyddogol mewn sefydliadau cymeradwy yng Nghymru a Lloegr.

Gellir cael at y tendr ar System eFasnachol Sengl Teulu Iechyd.

Mae’r amserlen amcangyfrifedig fel a ganlyn:

  • 10 Ebrill 2024 – Gwahoddiad i Dendro yn cael ei gyhoeddi gan yr ASB
  • 10 Ebrill 2024 – Cyfnod egluro’r Gwahoddiad i Dendro yn cychwyn
  • 8 Mai 2024 am hanner dydd – Cyfnod egluro’r Gwahoddiad i Dendro yn dod i ben
  • 11 Mehefin 2024 am hanner dydd – Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymatebion i’r Gwahoddiad i Dendro
  • 12 Mehefin 2024 i 23 Awst 2024 – Cyfnod Gwerthuso. Mae hyn yn cynnwys yr ymatebion Cymhwysol, Technegol, Gwerthoedd Cymdeithasol a Masnachol
  • 24 Awst 2024 i 23 Hydref 2024 – Proses Cymeradwyo Dyfarniadau Contract
  • 23 Hydref 2024 – Y Tendrwyr yn cael gwybod am ganlyniad yr arfarniad a’r Tendrwr (neu’r Tendrwyr) ffafriedig yn cael eu henwi
  • 24 Hydref 2024 i 4 Tachwedd 2024 – Cyfnod Segur
  • 5 Tachwedd 2024 – Contract (neu Gontractau) yn cael eu dyfarnu a’u llofnodi
  • 31 Mawrth 2025 – Cyfarfod cychwyn contract yn cael ei gynnal a’r contract yn dechrau

Gall gwahanol ffactorau, gan gynnwys y cyfnod cyn etholiad, effeithio ar yr amserlen. Pan fydd yr ASB yn gwneud unrhyw newidiadau, bydd yn hysbysu Tendrwyr drwy’r porth e-gyrchu.

Dylid anfon unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â chyflwyno cynnig drwy’r cyfleuster negeseua yn Atamis. Rhaid anfon unrhyw ymholiadau eraill i FSA.commercial@food.gov.uk.

Gweler y PDF canlynol ar gyfer allbynnau y penderfynwyd arnynt yn sgil y sesiynau adborth â rhanddeiliaid.

Diweddariad mis Ionawr 2024

I gael yr holl wybodaeth am y broses aildendro, gweler y dogfennau isod. Mae’r dogfennau hyn wedi’u rhannu â rhanddeiliaid allweddol mewn digwyddiadau ymgysylltu, a cheir crynodeb o’r adborth a ddarparwyd ganddynt.

Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru’n barhaus wrth i ni symud ymlaen gyda’r broses aildendro. Edrychwch yma i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, anfonwch e-bost i FSA.Retender@food.gov.uk

Diweddariad mis Medi 2023

Bydd y contractau presennol ar gyfer darparu Milfeddygon Swyddogol a Chynorthwywyr Swyddogol (y cyfeirir atynt hefyd fel Arolygwyr Hylendid Cig) i ddilysu cydymffurfiaeth â deddfwriaeth drwy arolygu a darparu nodau iechyd mewn sefydliadau cig wedi’u cymeradwyo gan yr ASB yng Nghymru a Lloegr, yn dod i ben ar 30 Mawrth 2025.

Dyma’r gwasanaethau sydd eu hangen ar hyn o bryd:

  • Milfeddygon Swyddogol ac Arolygwyr Hylendid Cig cymwys i gynnal rheolaethau swyddogol yn unol â chyfraith y CE a’r DU mewn sefydliadau cig a gymeradwywyd gan yr ASB (lladd-dai, ffatrïoedd torri a sefydliadau trin anifeiliaid hela cymeradwy)
  • ceir manylion am gyflenwi gwasanaethau ar ran yr ASB yn ogystal ag adrannau eraill o’r llywodraeth yn y Llawlyfr Rheolaethau Swyddogol
  • gwaith arolygu ac archwilio cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid (POAO) y bwriedir iddynt gael eu hallforio, a darparu tystysgrifau iechyd allforio
  • Bydd angen rhywfaint o hyblygrwydd yng nghontractau’r dyfodol, a gallai hyn gynnwys cyflwyno cynlluniau peilot, nwyddau eraill, ac arloesi wrth gyflenwi.

Mae’r contractau presennol wedi’u rhannu’n ddaearyddol ar draws y tri rhanbarth a ganlyn, gyda dau gontract ym mhob rhanbarth:

  • Cymru a Gorllewin Lloegr
  • Dwyrain Lloegr
  • Gogledd Lloegr
  • Mae’r lotiau Tendr terfynol i’w cadarnhau.

Bydd y Gwahoddiad i Dendro yn nodi uchafswm y contractau y gellir eu dyfarnu i dendrwr unigol.

Dyma wahodd pawb sydd â diddordeb mewn tendro a rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys y rhai a allai ddarparu’r gwasanaeth fel rhan o gonsortiwm neu is-gontractwr, i ddiwrnodau ymgysylltu â rhanddeiliaid lle bydd cyfle i drafod a rhoi mewnbwn ar ofynion y dyfodol.

Cynhelir y diwrnodau ymgysylltu â rhanddeiliaid yng Nghaerefrog, ddydd Mercher 15 Tachwedd ac yn Llundain, ddydd Mercher 22 Tachwedd. Bydd manylion pellach yn cael eu hanfon at yr holl bartïon sydd â buddiant maes o law. Gofynnir i chi gofrestru eich diddordeb mewn mynychu gan ddefnyddio porth Atamis erbyn hanner dydd, ddydd Mercher 18 Hydref 2023, gan nodi pa ddyddiad a lleoliad fyddai orau gennych.

Add to smarter communications search Off