Rheoliadau allweddol
Mae ein gwaith yn seiliedig ar nifer o ddarnau allweddol o ddeddfwriaeth.
Deddf Safonau Bwyd 1999
Prif bwrpas Deddf Safonau Bwyd 1999 yw ein sefydlu fel yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).
Mae'r Ddeddf yn bodoli i roi swyddogaethau a phwerau i ni, ac i drosglwyddo rhai swyddogaethau mewn perthynas â diogelwch a safonau bwyd.
Cyflwynwyd y Ddeddf yn Nhŷ'r Cyffredin ym 1999.
Mae'n nodi ein prif nod i ddiogelu iechyd y cyhoedd mewn perthynas â bwyd. Mae'n rhoi'r pŵer i ni weithredu er budd y defnyddiwr ar unrhyw adeg yn y gadwyn cyflenwi a chynhyrchu bwyd.
Deddfwriaeth Deddf Safonau Bwyd 1999
Pwysig
Cyfeiriadau at yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn nogfennau canllaw'r ASB
Mae'r ASB wrthi’n diweddaru’r holl gyfeiriadau at yr UE, er mwyn adlewyrchu'r gyfraith sydd bellach mewn grym yn gywir, ym mhob dogfen ganllaw newydd neu ddiwygiedig a gyhoeddir ar ôl i’r Cyfnod Pontio ddod i ben ddiwedd 2020. Mewn rhai amgylchiadau, efallai na fydd yn ymarferol i ni ddiweddaru’r holl gyfeiriadau at yr UE ar yr adeg yr ydym ni’n cyhoeddi canllawiau newydd neu ddiwygiedig.
Ac eithrio yng Ngogledd Iwerddon, dylid darllen unrhyw gyfeiriadau at Reoliadau'r UE yn y canllawiau hyn i olygu cyfraith yr UE a ddargedwir (retained EU law). Gallwch weld cyfraith yr UE a ddargedwir trwy Archif Ymadael â’r UE Llywodraeth EM. Dylid darllen y gyfraith hon ochr yn ochr ag unrhyw ddeddfwriaeth Ymadael â'r UE a wnaed i sicrhau bod cyfraith yr UE a ddargedwir yn gweithredu'n gywir yng nghyd-destun y Deyrnas Unedig (DU). Mae deddfwriaeth Ymadael â’r UE i’w gweld ar legislation.gov.uk. Yng Ngogledd Iwerddon, bydd cyfraith yr UE yn parhau i fod yn berthnasol mewn perthynas â’r rhan fwyaf o gyfraith hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid, fel a restrir ym Mhrotocol Gogledd Iwerddon, ac ni fydd cyfraith yr UE a ddargedwir yn berthnasol i Ogledd Iwerddon o dan yr amgylchiadau hyn.
England and Wales
Northern Ireland
Cyfraith Bwyd Cyffredinol
P'un a ydych chi'n fusnes bwyd neu'n ddefnyddiwr sydd â diddordeb mewn cyfraith bwyd, mae gofynion cyffredinol y dylech chi fod yn ymwybodol ohonynt.
Mae'r trosolwg hwn yn trafod y brif ddeddfwriaeth yn y meysydd canlynol:
- mewnforion ac allforion bwyd
- diogelwch
- olrhain
- labelu
- galw a thynnu cynhyrchion yn ôl
Codau Ymarfer
Cymryd cip ar Godau Ymarfer Cyfraith Bwyd a Bwyd Anifeiliaid
Rheoliad Gwybodaeth am Fwyd
Daeth Rheoliadau domestig Gwybodaeth am Fwyd 2014 i rym ar 14 Gorffennaf 2014 ac mae'n galluogi awdurdodau lleol i orfodi Rheoliad (UE) 1169/2011 a ddargedwir ar wybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr (Rheoliadau FIC).
Mae angen i fusnesau ddarparu gwybodaeth am alergenau os yw'r bwyd yn cynnwys unrhyw un o'r 14 alergen fel y'u rhestrir yn y 'rheoliadau FIC'. Canllawiau i fusnesau bwyd ar ddarparu gwybodaeth am alergenau ac arfer gorau ar gyfer trin alergenau.
Bydd modd defnyddio trosedd wrth gefn os nad yw busnesau yn cydymffurfio â Hysbysiad Gwella, lle bydd gofyn i droseddwr, ar gollfarn ddiannod (summary conviction), dalu dirwy nad yw'n fwy na lefel 5. Bydd troseddau yn parhau i fodoli os yw busnesau yn mynd yn groes i ddarpariaethau penodol. Mae'r rhain yn cynnwys, yn bennaf, cam-labelu bwyd sy'n cynnwys alergenau gan fod peidio â chydymffurfio â'r darpariaethau alergenau yn gallu arwain at risg i iechyd a diogelwch defnyddwyr.
Mae'r rheoliadau yn mabwysiadu rhai rhanddirymiadau a hyblygrwydd cenedlaethol a ganiateir gan y Rheoliad Gwybodaeth am Fwyd sef:
- rhanddirymiad (derogation) o'r angen i roi gwybodaeth orfodol am laeth a chynhyrchion llaeth mewn poteli gwydr y bwriedir eu hailddefnyddio. Mae mabwysiadu'r rhanddirymiad hwn yn cynnal yr eithriad presennol.
- rhanddirymiad o safonau cyfansoddiad briwgig (minced meat) ar fraster a cholagen i gymarebau protein cig yn y Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd. Mae mabwysiadu'r rhanddirymiad hwn yn caniatáu i fusnesau barhau i gyflenwi marchnadoedd y DU â briwgig traddodiadol, ar yr amod ei fod yn cael ei werthu o dan farc cenedlaethol.
- i gadw'r gofyniad i nodi enw'r bwyd ar fwyd sy'n cael ei werthu heb ei becynnu.
- i gadw'r gofyniad am arwydd meintiol o'r cynnwys cig ar gyfer cynhyrchion cig sy'n cael eu gwerthu heb eu pecynnu ymlaen llaw.
- i gyflwyno'r dulliau penodol y mae'n rhaid eu defnyddio i ddarparu gwybodaeth orfodol am alergenau ar gyfer bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw.
- diweddaru deddfwriaeth labelu a safonau bwyd arall i adlewyrchu'r Rheoliad Gwybodaeth am Fwyd a chyflwyno Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd 2014.
Mae rheoliadau tebyg, ond ar wahân, wedi'u llunio yn Lloegr, yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr Alban.
Northern Ireland
Hanes diwygio
Published: 10 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Awst 2022