Neidio i’r prif gynnwys
Cymraeg

Rosie Glazebrook - Aelod Bwrdd

Yn amlinellu hanes proffesiynol aelodau ein bwrdd ac yn rhoi manylion unrhyw ddiddordebau busnes sydd ganddynt er mwyn sicrhau tryloywder.

Mae gan Rosie ddiddordeb arbennig mewn hyrwyddo gwybodaeth a diogelwch defnyddwyr mewn perthynas â bwyd a iechyd, ynghyd â chefnogi ymchwil o safon uchel a rheoleiddio effeithiol.

Ar hyn o bryd mae'n Aelod Anweithredol o Fwrdd Iechyd Cyhoeddus Lloegr a'r Cyngor Optegol Cyffredinol, ac yn Gadeirydd Pwyllgor Ymchwil Moeseg (Awdurdod Ymchwil Iechyd).

Mae ganddi brofiad anweithredol pellach gan gynnwys rolau fel Cyfarwyddwr Anweithredol yr Awdurdod Meinweoedd Dynol (2010-16) ac mewn Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol y GIG (2004-2012).Roedd yn Adolygydd Allanol ar gyfer Adolygiad Clwyd-Hart o Drin Cwynion y GIG (2013) a bu iddi hefyd weithio â GIG Llundain er mwyn datblygu'r wefan myhealthlondon, a enillodd wobr.

Rhwng 2003-2016 roedd ganddi rolau yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd fel Aelod ar ran Defnyddwyr ar y Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch Microbiolegol Bwyd a'r Panel Cynghori Defnyddwyr, yn ogystal â bod ar Weithgorau Ymwrthedd Gwrthficrobaidd, Campylobacter ac Wyau. Roedd hi hefyd yn Aelod ar ran Defnyddwyr ar y Pwyllgor ar Garsinogenrwydd Cemegion mewn Bwyd a Chynhyrchion Defnyddwyr.

Yn flaenorol, bu iddi weithio yn y sector cyhoeddi/cyfryngau mewn rolau gwerthu a marchnata yn y Deyrnas Unedig ac Affrica/De Asia (Macmillan, Gwasg Prifysgol Rhydychen, News International). Roedd hi hefyd yn Gyfarwyddwr Masnachol i Dr Foster Ltd ac mae ganddi radd mewn Cemeg.

Cyflogaeth

  • Aelod Bwrdd Anweithredol, Iechyd Cyhoeddus Lloegr
  • Aelod ar ran Defnyddwyr, bwrdd ariannu Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (themâu gwahanol)
  • Cadeirydd, Pwyllgor Ymchwil Moeseg, Camden a Kings Cross (Awdurdod Ymchwil Iechyd)

Swyddi Cyfarwyddwr

Swyddi Cyfarwyddwr, gyda thâl neu’n ddi-dâl

  • Dim

Incwm, cydnabyddiaeth neu fuddion eraill

Unrhyw fusnes, gweithgareddau proffesiynol neu gyhoeddus neu fuddiannau sy’n ffynhonnell incwm, cydnabyddiaeth neu sydd o fudd arall

  • Mae fy rhieni yn rhedeg fferm âr a chig eidion yn Swydd Hertford. Mae gan fy mrawd rôl reoli ar y fferm.

Sefydliadau, clybiau neu gyrff

Aelodaeth o gyrff cyhoeddus, elusen neu ymddiriedolaeth gyhoeddus neu breifat arall, neu rôl, ymlyniad neu aelodaeth o glybiau neu sefydliadau

  • Ymddiriedolwr, Brook Aid International
  • Ymddiriedolwr ac Aelod y Cyngor, Cyngor Optegol Cyffredinol