Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
page

Steve Ruddy – Aelod o Fwrdd yr ASB

Yn amlinellu hanes proffesiynol Aelodau ein Bwrdd ac yn rhoi manylion am unrhyw fuddiannau busnes a allai fod ganddynt er mwyn sicrhau tryloywder.

Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Gorffennaf 2025
Steve Ruddy - Aelod Bwrdd yr ASB

Steve Ruddy - Aelod Bwrdd yr ASB

Mae Steve yn arweinydd profiadol iawn ym maes llywodraeth leol, gyda chefndir cryf mewn gwasanaethau rheoleiddio a diogelu defnyddwyr. Mae Steve, sy’n swyddog Safonau Masnach cymwys, wedi arwain timau amlddisgyblaethol ym meysydd Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach yn Swydd Gaerlŷr, Llundain, Swydd Buckingham, a Surrey.

Rhwng 2020 a 2022, Steve oedd Cadeirydd y Gymdeithas Prif Swyddogion Safonau Masnach, ac roedd hefyd yn Gyfarwyddwr Trading Standards South East Ltd rhwng 2015 a 2024. Ar hyn o bryd, mae’n cadeirio Bwrdd y Sefydliad Safonau Masnach Siartredig (CTSI).

Yn ystod ei gyfnod gyda Safonau Masnach Swydd Buckingham a Surrey, chwaraeodd Steve ran allweddol yn y gwaith o sefydlu a chynnal tîm gorfodi cyntaf y rhanbarth, o’r enw Scambusters. Gweithiodd yn agos gyda Safonau Masnach Cenedlaethol, a hynny i gynnal Tîm Sgamiau Safonau Masnach Cenedlaethol a chyflawni rolau gorfodi cenedlaethol allweddol ar ran yr Awdurdod Safonau Hysbysebu a’r Swyddfa Fyfyrwyr.

Yn 2024, sefydlodd Steve Consumer Compass Ltd, sef cwmni ymgynghori sy’n arbenigo mewn cefnogi gwasanaethau rheoleiddio llywodraeth leol. Ef hefyd yw arweinydd rhanbarthol De-ddwyrain Lloegr ar gyfer Ymgyrch Jigsaw (a ariennir gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau), gan helpu i feithrin gallu ac arbenigedd o fewn timau Tai Sector Preifat awdurdodau lleol er mwyn codi safonau yn y sector rhentu preifat.

Buddiannau personol

Ymgynghoriaethau a/neu gyflogaeth uniongyrchol 

  • Perchennog a Chyfarwyddwr Consumer Compass UK Ltd
  • Cadeirydd y Bwrdd – Sefydliad Safonau Masnach Siartredig 
  • Arweinydd Rhanbarthol (De-ddwyrain) – Jigsaw / Cyngor Sir Powys (wedi'i ariannu gan MHCLG) -

Rolau di-dâl

  • Dim

Gwaith â thâl

  • Consumer Compass UK Ltd

Clybiau a sefydliadau eraill

  • Dim

Cymrodoriaethau

  • Dim

Cymorth anuniongyrchol

  • Dim

Ymddiriedolaethau

  • Dim

Tir ac eiddo

  • Dim

Penodiadau cyhoeddus eraill

  • Dim

Buddiannau eraill nad ydynt yn bersonol

  • Dim