Syr Frank Atherton – Aelod o Fwrdd yr ASB
Yn amlinellu hanes proffesiynol Aelodau ein Bwrdd ac yn rhoi manylion am unrhyw fuddiannau busnes a allai fod ganddynt er mwyn sicrhau tryloywder.
Frank Atherton - Aelod o Fwrdd yr ASB
Proffil
Graddiodd yr Athro Syr Frank Atherton mewn meddygaeth o Brifysgol Leeds a gweithiodd mewn ysbytai a swyddi gofal sylfaenol ledled Gogledd Lloegr am sawl blwyddyn cyn ymgymryd â gwaith gwirfoddol fel Swyddog Meddygol Ardal ym Malawi.
Ar ôl dychwelyd i’r DU, cwblhaodd hyfforddiant arbenigol mewn Meddygaeth Iechyd Cyhoeddus yn ardal Swydd Efrog, ac yna gweithiodd ar raglenni iechyd a datblygu rhyngwladol i Sefydliad Iechyd y Byd ac Adran Datblygu Rhyngwladol y DU mewn amrywiol leoliadau, gan gynnwys yr Hen Iwgoslafia, Tanzania, a Bangladesh.
Rhwng 2002 a 2012, bu Frank yn gweithio fel Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus yn Swydd Gaerhirfryn, a rhwng 2008 a 2012, ef oedd Llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Iechyd Cyhoeddus y DU (ADPH). Yn 2012, symudodd Frank i Ganada i fod yn Ddirprwy Brif Swyddog Meddygol Iechyd yn Adran Iechyd a Llesiant Nova Scotia. Rhwng 2016 a 2025, Frank oedd Prif Swyddog Meddygol a Chyfarwyddwr Meddygol Cenedlaethol Cymru. Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu’n cynghori Gweinidogion Cymru ac yn arwain y system iechyd mewn ymateb i bandemig COVID-19.
Cafodd Frank ei urddo’n farchog yn rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2022 am ei wasanaethau i iechyd y cyhoedd, a chafodd ei benodi’n Athro gwadd ym Mhrifysgol Leeds yn 2023.
Cofrestr
Gofynnir i Aelodau Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ddatgan unrhyw fuddiannau neu fuddiannau partïon cysylltiedig sy’n berthnasol i waith yr ASB yn ogystal â phob cyflogaeth, gwaith a phenodiad allanol y ceir tâl amdanynt (p’un a ydynt yn berthnasol ai peidio).
Gall unigolyn fod â buddiannau eraill ac, er bod yr ASB yn ymwybodol o’r rhain, bernir nad ydynt yn berthnasol i rôl yr Aelodau ac felly nid ydynt o fewn y cwmpas ar gyfer cyhoeddi.
Mae’r adran yn rheoli’r holl fuddiannau perthnasol i atal y risg o wrthdaro buddiannau canfyddedig, posib neu wirioneddol.
- Dim buddiannau perthnasol