Neidio i’r prif gynnwys
Cymraeg

Ymunwch â'n Cyngor Gwyddoniaeth

Rydym ni’n gwahodd ceisiadau gan arbenigwyr gwyddoniaeth i ymuno â'n Cyngor Gwyddoniaeth annibynnol.

Mae gwaith y pwyllgorau annibynnol sy’n cynghori yn helpu i sicrhau bod ein cyngor i ddefnyddwyr yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol orau a mwyaf diweddar. I ddysgu rhagor am waith y Cyngor Gwyddoniaeth, gwyliwch y fideo gan ein Prif Gynghorydd Gwyddonol, yr Athro Robin May.

Y rôl

Rydym ni’n chwilio am arbenigwyr ymroddedig, galluog a llawn cymhelliant ym maes gwyddoniaeth a’r diwydiant i ddarparu cyngor annibynnol. Bydd aelodau'n helpu i sicrhau bod bwyd sy'n cael ei gynhyrchu neu ei werthu yn y Deyrnas Unedig yn ddiogel ac yn cael ei reoleiddio'n effeithiol.

Fel arbenigwr ar y Cyngor Gwyddoniaeth, byddwch chi’n darparu mewnwelediad a her strategol lefel uchel, arbenigol. Byddwch chi hefyd yn cynghori ein Prif Gynghorydd Gwyddonol, yn ogystal â'r Bwrdd a thîm gweithredol yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), ar ddefnyddio gwyddoniaeth i gyflawni amcanion yr Asiantaeth. Yn flaenorol, mae'r Cyngor Gwyddoniaeth wedi gweithio ar brosiectau sy'n edrych ar ddefnyddio data a thechnoleg ddigidol yn ogystal â risgiau yn y system fwyd a sganio'r gorwel. Byddwch chi’n gweithio gyda chydweithwyr o ystod o ddisgyblaethau gwyddonol yn ogystal ag arbenigwyr anwyddonol ac aelodau lleyg.  

Rydym ni’n chwilio am 3 aelod newydd i ymuno â'r Cyngor Gwyddoniaeth, pob un ag arbenigedd mewn un o'r meysydd a ganlyn:

Asesu/Modelu Risg

Unigolyn â mewnwelediad strategol a lefel uchel, arbenigol i feysydd gan gynnwys epidemioleg, ystadegau a dadansoddi risg gyda dealltwriaeth dda o ddulliau ansoddol a meintiol o asesu risg a phwysigrwydd cyfraniad dadansoddeg data a data i asesu, monitro a meintioli bygythiadau. 

Technoleg Gweithgynhyrchu Bwyd

Yn cwmpasu rhai neu bob un o'r canlynol: bioweithgynhyrchu (fel dewis arall yn lle ffynonellau cynhwysion traddodiadol; ac wrth weithgynhyrchu bwydydd newydd); technolegau bwyd newydd; digideiddio; cymwysiadau roboteg wrth gynaeafu, cynhyrchu a gweini bwyd; systemau seiber-gorfforol 4.0 y diwydiant yn y meysydd gweithgynhyrchu bwyd; amaethyddiaeth gellol, ffermio pryfed a dyframaeth, gan gynnwys systemau aml-droffig; garddwriaeth fertigol.

Haint, Epidemioleg a Milheintiau

Gan gwmpasu rhai neu bob un o’r canlynol: iechyd y cyhoedd, epidemioleg, microbioleg, clefyd a gludir gan fwyd, milheintiau, diogelwch bwyd, dulliau gwyliadwriaeth, systemau gwyliadwriaeth, clefydau heintus, priodoli ffynhonnell

Amodau Penodiadau

Caiff penodiadau i'r Cyngor Gwyddoniaeth eu gwneud ar sail teilyngdod a thrwy ddilyn proses deg ac agored, yn unol â Chod Ymarfer y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus, gan ystyried cydraddoldeb ac amrywiaeth. 

Nid yw aelodau'r pwyllgor yn cael eu cyflogi gan yr ASB ac nid yw’r penodiadau yn rhai â thâl. Bydd aelodau'n cael ffioedd am baratoi a bod yn bresennol mewn cyfarfodydd, yn ogystal â threuliau rhesymol.

Mae’n bosibl y bydd ymgeiswyr, p'un a chânt eu dewis ai peidio, yn cael gwahoddiad ar wahân i ymuno â Chofrestr Arbenigwyr yr ASB, lle gellir eu gwahodd i ddarparu cyngor neu ymchwil ar sail cytundeb untro.

Manyleb y Person 


Rhaid i ymgeiswyr i’r Cyngor Gwyddoniaeth ddarparu enghreifftiau a thystiolaeth eu bod yn bodloni’r meini prawf dethol isod.

Dylai fod gan aelodau ystod eang o arbenigedd a rhwydweithiau a phrofiad o weithio amlddisgyblaethol i fynd i'r afael â heriau strategol. Dylai arbenigedd a phrofiad fod yn berthnasol i rôl a blaenoriaethau strategol yr ASB ac adlewyrchu diffiniad eang yr ASB o wyddoniaeth.   

Meini Prawf Dethol

Meini prawf profiad, gwybodaeth a sgiliau hanfodol i aelodau

  • Deall sut y gellir defnyddio gwyddoniaeth i ddylanwadu ar bolisi a'i brofi ac i gyflawni effeithiau pendant er budd pobl  
  • Tystiolaeth o gyfraniad effeithiol i grwpiau amlddisgyblaethol sy'n cynghori ar gwestiynau gwyddonol neu dechnegol cymhleth a/neu strategol
  • Sgiliau dadansoddi a barnu cryf, y gallu i feddwl yn annibynnol a bod yn agored i heriau.
  • Sgiliau cyfathrebu cryf a sgiliau rhyngbersonol datblygedig, y gallu i weithio ar y cyd a chyfathrebu â chynulleidfaoedd anarbenigol

Ac o leiaf dau o'r meini prawf canlynol

  • Lefel uchel o arbenigedd mewn gwyddoniaeth (a ddiffinnir uchod) gyda thystiolaeth o effaith genedlaethol neu ryngwladol
  • Ehangder o arbenigedd a rhwydweithiau sydd â phrofiad yn rhychwantu disgyblaethau sy'n berthnasol i'r ASB
  • Persbectif gwybodus ar fuddiannau defnyddwyr a dinasyddion a phrofiad o sut y gellir adlewyrchu'r buddiannau hyn yng ngwaith y Cyngor

Ein ffyrdd o weithio

Mae'r Cyngor Gwyddoniaeth yn defnyddio Microsoft Teams fel platfform i rannu dogfennau a gwybodaeth ac i gynnal rhai cyfarfodydd rhithwir. Bydd gofyn i aelodau ddefnyddio Microsoft Teams yn effeithiol fel rhan o'u rolau, felly bydd angen mynediad at gyfrifiadur arnoch gyda chysylltiad rhyngrwyd sefydlog a chamera. 

Ymrwymiad amser

Mae'r Cyngor Gwyddoniaeth yn cynnal tua phedwar cyfarfod undydd y flwyddyn, fel arfer yn Llundain, ac yn ffurfio gweithgorau rhwng cyfarfodydd. Gallai'r ASB hefyd geisio cyngor gan bwyllgorau ar sail ad hoc neu mewn argyfwng.
 

Gwerthoedd Gwasanaeth Cyhoeddus

Disgwylir i ymgeiswyr llwyddiannus gynnal gwerthoedd gwasanaeth cyhoeddus wrth gyflawni rôl cynghorydd annibynnol i'r ASB. Bydd ymgeiswyr a wahoddir am gyfweliad yn cael eu holi am unrhyw faterion yn eu hanes personol neu broffesiynol a allai fwrw amheuaeth ar eu gallu i gyflawni'r rôl hon, ac mae'n bwysig bod ymgeiswyr yn dwyn materion o'r fath i sylw'r panel. 

Tâl a threuliau

Nid yw'r swyddi hyn yn gyflogedig, ond gall aelodau hawlio ffioedd a threuliau teithio rhesymol a threuliau eraill, am waith ar y Cyngor Gwyddoniaeth ac ar ei gyfer, yn unol â'r Canllawiau ar Ffioedd a Threuliau Pwyllgorau

Dyma’r ffioedd cyfredol ar gyfer aelodau:  

  • Cadeiryddion: £400 fesul diwrnod o waith ar fusnes pwyllgor neu grŵp arbenigol
  • Aelodau: £300 fesul diwrnod o waith ar fusnes pwyllgor neu grŵp arbenigol

Gall aelodau wneud cais cronnus am waith rhwng cyfarfodydd os treulir cryn dipyn o amser ar un darn o waith neu ar gyfres o ddarnau byrion o waith. 

Cymhwyster

Ni all aelodau ddal unrhyw swyddi â thâl na swyddi proffil uchel di-dâl mewn plaid wleidyddol, ac ni chânt gymryd rhan mewn gweithgareddau gwleidyddol penodol ar faterion sy'n effeithio'n uniongyrchol ar waith y corff hwn.

Rydym ni’n croesawu ceisiadau gan aelodau presennol Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol y llywodraeth; fodd bynnag, rhaid i ymgeiswyr restru penodiadau cyfredol perthnasol ar eu cais er mwyn nodi unrhyw draws-aelodaeth ac asesu unrhyw wrthdaro posibl mewn buddiannau.

Ni all aelodau’r Cyngor Gwyddoniaeth fod yn aelodau o un o Bwyllgorau Cynghori Gwyddonol eraill yr ASB ar yr un pryd gan y byddai hyn yn gwrthdaro â rôl y Cyngor wrth herio defnydd yr ASB o wyddoniaeth, sy’n cynnwys gwaith pwyllgorau eraill yr ASB. 

Gwneud cais i fod yn aelod o'r Cyngor Gwyddoniaeth

Darllenwch manyleb y person cyn llenwi'ch ffurflen gais.

Rhaid i bob ymgeisydd lenwi a darparu:

  • Ffurflen gais, gan gynnwys Holiadur Gweithgarwch Gwleidyddol ac adrannau datgan buddiannau.
  • CV a/neu restr o gyhoeddiadau 
  • Holiadur monitro (dewisol) 

Y dyddiad cau yw 30 Ionawr 2022 am 23.59pm.

Ewch ati i lenwi ac anfon eich ffurflen gais dros e-bost at dîm recriwtio SAC.

Cyfle Cyfartal

Rydym ni’n croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymuned ac yn arbennig o awyddus i fynd i'r afael â than-gynrychiolaeth o fenywod, pobl o leiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau ar bwyllgorau cynghori. Mae pob penodiad yn seiliedig ar deilyngdod ac egwyddorion asesu annibynnol, didwylledd a thryloywder proses. 

Fe’ch anogir i lenwi’r holiadur monitro. Bydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio at ddibenion ystadegol yn unig a bydd yn cael ei chyflwyno ar ffurf cyfansymiau, ac ni fydd modd adnabod unigolion unigol o’r wybodaeth hon.

Y pwrpas yw sicrhau nad ydym ni’n creu unrhyw rwystrau yn ein proses ddethol ac i'n helpu i weithredu ein polisi cyfle cyfartal yn effeithiol. 

Amserlen ar gyfer penodiadau

Cynhelir cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ar y rhestr fer ym mis Chwefror 2022.

Cadarnheir penodiadau ym mis Mai 2022

Bydd y cyfnod cynefino (induction) yn digwydd ym mis Mai 2022
 

Resources