Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Yr Athro Robin May, Prif Gynghorydd Gwyddonol

Prif Gynghorydd Gwyddonol yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ac Athro Clefydau Heintus ym Mhrifysgol Birmingham.

Diweddarwyd ddiwethaf: 22 May 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 22 May 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau
Professor Robin May

Dechreuodd yr Athro Robin May ei rôl fel Prif Gynghorydd Gwyddonol yr ASB ym mis Gorffennaf 2020.
 
Roedd hyfforddiant cynnar yr Athro May mewn Gwyddorau Planhigion ym Mhrifysgol Rhydychen, ac yna cwblhaodd PhD mewn bioleg celloedd mamaliaid yng Ngholeg Prifysgol Llundain a Phrifysgol Birmingham. Ar ôl ymchwil ôl-ddoethurol i dawelu genynnau yn Labordy Hubrecht yn yr Iseldiroedd, dychwelodd i’r Deyrnas Unedig (DU) yn 2005 i sefydlu rhaglen ymchwil ar glefydau heintus mewn pobl. Roedd yn Gyfarwyddwr y Sefydliad Microbioleg a Haint ym Mhrifysgol Birmingham o 2017–2020. 

Mae’r Athro May yn parhau â’i waith ar Glefydau Heintus ym Mhrifysgol Birmingham. Yn Gymrawd yr Academi Gwyddorau Meddygol ac Academi Microbioleg America, mae’r Athro May yn arbenigo mewn ymchwil i glefydau heintus sy’n effeithio ar bobl, gan ganolbwyntio’n benodol ar sut mae pathogenau’n goroesi ac yn dyblygu o fewn organebau letyol (host organism). Fe’i penodwyd yn Athro Ffiseg yng Ngholeg Gresham ym mis Mai 2022, lle mae’n traddodi darlithoedd am ddim i’r cyhoedd ar feddygaeth, iechyd a gwyddorau cysylltiedig. 

Fel Prif Gynghorydd Gwyddonol yr ASB, mae’r Athro May yn darparu cyngor gwyddonol arbenigol i lywodraeth y DU ac yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu i ddeall sut y dylai datblygiadau gwyddonol siapio gwaith yr ASB, yn ogystal â goblygiadau strategol unrhyw newidiadau posib. Mae hefyd yn gweithio’n agos gyda Phrif Gynghorwyr Gwyddonol mewn adrannau eraill a Phrif Gynghorydd Gwyddonol y Llywodraeth, y Fonesig Angela McLean, i gynghori ar faterion gwyddonol ehangach sy’n berthnasol i bolisi cenedlaethol y DU.