Yr Athro Susan Jebb – Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Yn amlinellu hanes proffesiynol Aelodau ein Bwrdd ac yn rhoi manylion unrhyw fuddiannau busnes sydd ganddynt er mwyn sicrhau tryloywder.

Tanysgrifiwch gael negeseuon gan ein Cadeirydd a'r Prif Weithredwr
Mae’r Athro Susan Jebb yn un o brif wyddonwyr y wlad, yn Gymrawd Academi’r Gwyddorau Meddygol ac yn Gymrawd Anrhydeddus Coleg Brenhinol y Meddygon. Mae ei hymchwil ddiweddar wedi canolbwyntio ar drin gordewdra ac ymyriadau i annog deiet iach a chynaliadwy.
Mae gan Susan ddiddordeb hirsefydlog mewn trosi tystiolaeth wyddonol yn bolisi, a hi oedd y Cynghorydd Gwyddoniaeth i adroddiad Foresight Swyddfa Gwyddoniaeth y Llywodraeth ar ordewdra yn 2007. Mae hi’n gynghorydd i’r Strategaeth Fwyd Genedlaethol ar hyn o bryd. Yn y gorffennol mae wedi cadeirio grŵp cynghori arbenigol traws-lywodraethol ar ordewdra (2007–2011), rhwydwaith bwyd bargen cyfrifoldeb yr Adran Iechyd (2011–2015) a phwyllgorau cynghori iechyd y cyhoedd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (2013-2018). Dyfarnwyd OBE iddi yn 2008 am ei gwasanaethau i iechyd y cyhoedd.
Mae Susan wedi’i chyflogi’n rhan-amser gan Brifysgol Rhydychen ochr yn ochr â’r rôl fel Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).
Cyflogaeth
Cyflogaeth, swydd neu broffesiwn gyda thâl.
- Cyflog: Prifysgol Rhydychen
- Partner yn J&L Farms
- Priod: Uwch Bartner J&L Farms
Swyddi Cyfarwyddwr
Swyddi Cyfarwyddwr, gyda thâl neu’n ddi-dâl.
- Dim
Incwm, cydnabyddiaeth neu fuddion
Unrhyw fusnes, gweithgarwch proffesiynol neu gyhoeddus neu fuddiannau sy’n ffynhonnell incwm, cydnabyddiaeth, neu sydd o fudd arall.
- Dim
Sefydliadau, clybiau neu gyrff
Aelodaeth o gyrff cyhoeddus, ymddiriedolaeth elusen neu ymddiriedolaeth gyhoeddus neu breifat arall, neu aelodaeth, rôl neu gysylltiad â chlwb neu sefydliad.
- Cymrawd, Academi’r Gwyddorau Meddygol
- Cymrawd Anrhydeddus, Coleg Brenhinol y Meddygon
- Aelod, Cymdeithas Astudiaethau Gordewdra
- Aelod, Grŵp Cyfeirio Arbenigol Rhaglen Atal Diabetes Genedlaethol GIG Lloegr
Aelod, Grŵp Cyfeirio Rhaglen Llwybr i Leddfu Diabetes Math 2 GIG Lloegr
Aelod, Grŵp Cyfeirio Arbenigol Gordewdra GIG Lloegr
Cyfranddaliadau a buddsoddiadau
Unrhyw gyfranddaliadau, ac eithrio’r rheiny sy’n cael eu cadw gan ymddiriedolaeth unedau neu drefniadau tebyg lle nad oes gan aelodau’r Bwrdd ddylanwad ar y ffordd y caiff y cyfranddaliadau eu rheoli.
- Dim
Hanes diwygio
Published: 2 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Mawrth 2023