Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
page

Yr Athro Susan Jebb OBE, PhD, FRCP (Hon), FMedSci – Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Yma ceir amlinelliad o hanes proffesiynol Aelodau ein Bwrdd a manylion am unrhyw fuddiannau busnes a allai fod ganddynt er mwyn sicrhau tryloywder.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Mai 2026
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Mai 2026
Gweld yr holl ddiweddariadau

Professor Susan Jebb

Proffil

Mae’r Athro Susan Jebb yn un o brif wyddonwyr y wlad, yn Gymrawd Academi’r Gwyddorau Meddygol ac yn Gymrawd Anrhydeddus Coleg Brenhinol y Meddygon. Mae ei hymchwil ddiweddar wedi canolbwyntio ar drin gordewdra ac ymyriadau i annog deiet iach a chynaliadwy. 

Mae gan Susan ddiddordeb hirsefydlog mewn trosi tystiolaeth wyddonol yn bolisi, a hi oedd y Cynghorydd Gwyddoniaeth i adroddiad Foresight Swyddfa Gwyddoniaeth y Llywodraeth ar ordewdra yn 2007. Yn y gorffennol mae wedi cadeirio grŵp cynghori arbenigol traws-lywodraethol ar ordewdra (2007–2011), rhwydwaith bwyd bargen cyfrifoldeb yr Adran Iechyd (2011–2015) a phwyllgorau cynghori iechyd y cyhoedd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (2013-2018). Dyfarnwyd OBE iddi yn 2008 am ei gwasanaethau i iechyd y cyhoedd.

Mae Susan wedi’i chyflogi’n rhan-amser gan Brifysgol Rhydychen ochr yn ochr â’r rôl fel Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).

Cofrestr

Gofynnir i Aelodau Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ddatgan unrhyw fuddiannau neu fuddiannau partïon cysylltiedig sy’n berthnasol i waith yr ASB yn ogystal â phob cyflogaeth, gwaith a phenodiad allanol y ceir tâl amdanynt (p’un a ydynt yn berthnasol ai peidio).

Gall unigolyn fod â buddiannau eraill ac, er bod yr ASB yn ymwybodol o’r rhain, bernir nad ydynt yn berthnasol i rôl yr Aelodau ac felly nid ydynt o fewn y cwmpas ar gyfer cyhoeddi.

Mae’r adran yn rheoli’r holl fuddiannau perthnasol i atal y risg o wrthdaro buddiannau canfyddedig, posib neu wirioneddol.

  • Athro ym Mhrifysgol Rhydychen
  • Partner yn J&L Farms
  • Aelod, Grŵp Cynghori ar Strategaeth Fwyd
  • Aelod, Byrddau Cynghori GIG Lloegr ar reoli pwysau