Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Adroddiad Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru i Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) – Chwefror 2023

Penodol i Gymru

Adroddiad gan Nathan Barnhouse, Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru.

1. Crynodeb

1.1 Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb byr o’r pynciau a gyflwynwyd gan y Prif Weithredwr yng nghyfarfod diwethaf y Bwrdd, a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2022, yn ogystal â gweithgareddau eraill sy’n berthnasol i gylch gwaith yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru.    

1.2 Gwahoddir aelodau’r Pwyllgor i wneud y canlynol: 

  • nodi’r diweddariad
  • gwahodd y Cyfarwyddwr i ymhelaethu ar unrhyw faterion i’w trafod ymhellach

2. Adroddiad y Prif Weithredwr i’r Bwrdd

2.1 Daeth Adroddiad y Prif Weithredwr i law’r Bwrdd.

3. Ymgysylltu Allanol gan Uwch-reolwyr yr ASB yng Nghymru

3.1 Ers cyfarfod diwethaf WFAC â thema benodol a gynhaliwyd ar 20 Hydref, mae uwch-reolwyr wedi cymryd rhan yn y cyfleoedd ymgysylltu allanol canlynol: 

  • 1 Tachwedd – Cyfarfod Grŵp Cynghori ar Ddiogelu Iechyd y Prif Swyddog Meddygol.
  • 9 Tachwedd – Seremoni Wobrwyo Bwyd a Ffermio BBC 4.
  • 16 Tachwedd – Y Dirwedd Fwyd sy’n Newid: Cynhadledd Flynyddol Cymdeithas Diogelu Bwyd y Deyrnas Unedig. Rhoddodd Robin May a Nathan gyflwyniad ar 'Rôl yr ASB mewn System Bwyd sy'n Newid'. Trefnwyd y digwyddiad gan Zero2Five, sef canolfan y diwydiant bwyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Gallwch ddarllen mwy am y gynhadledd yn erthygl newyddion Met Caerdydd.
  • 24 Tachwedd – Cyfarfod gweinidogol gyda Gweinidog yr Economi, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a Chadeirydd y Bwrdd i drafod Model Gweithredu Targed y Ffin.
  • 29 Tachwedd – Cyfarfod Cyswllt Chwarterol yr ASB yng Nghymru a Llywodraeth Cymru i drafod materion allweddol.
  • 17 Ionawr – Aeth Nathan a Jonathan Davies i ddigwyddiad Ymgynghori ar Gynllun Blynyddol yr Awdurdod Cystadlaethau a Marchnata (CMA) ar gyfer Rhanddeiliaid yng Nghymru i ddysgu mwy am gynllun y CMA a rhwydweithio gyda rheoleiddwyr eraill yng Nghymru. 
  • 23 Ionawr – Cyfarfod Cyswllt Chwarterol yr ASB yng Nghymru a Llywodraeth Cymru i drafod materion allweddol.
  • 26 Ionawr – Cyfarfod grŵp Bwyd Diogel, Cynaliadwy a Dilys Cymru (SSAFW), yn cynnwys diweddariad ar faterion parhaus o fewn diwydiant gan UK Hospitality a’r Nationwide Caterers Association (NCASS).

3.2  Rhagolwg o’r gwaith ymgysylltu allanol sydd ar y gorwel: 

  • 14 Chwefror – Ymweliad i gyd-fynd ag Arolygiad Hylendid Bwyd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
  • 7 Mawrth – Cyfarfod Grŵp Cynghori ar Ddiogelu Iechyd y Prif Swyddog Meddygol.
  • 25 Ebrill – Cyfarfod cyswllt chwarterol yr ASB yng Nghymru a Llywodraeth Cymru

4. Materion o ddiddordeb i WFAC sy’n ymwneud â’r ASB yng Nghymru

4.1    Bridio manwl 

Cynhaliodd yr ASB yng Nghymru weithdy llwyddiannus gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ar 22 Tachwedd i drafod safbwynt polisi'r ASB a'i gwaith ar fridio manwl. Bu’r gweithdy yn gymorth i’r ASB ddeall barn Llywodraeth Cymru ar feysydd allweddol o ran datblygu polisi, gan gynnwys olrheiniadwyedd, y gofrestr a buddiannau defnyddwyr. Bu hefyd yn gyfle i drafod blaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru ar fridio manwl a’r camau nesaf ar gyfer ymgysylltu â’i swyddogion. Roedd yn gam cyntaf da i gael dealltwriaeth well o safbwynt Llywodraeth Cymru. Rydym wedi cadw mewn cysylltiad rheolaidd ac wedi meithrin perthynas waith adeiladol gyda swyddogion polisi Llywodraeth Cymru.

Mae’r Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl) yn tynnu planhigion ac anifeiliaid a gynhyrchir gan ddefnyddio biotechnolegau modern, a’r bwyd a’r bwyd anifeiliaid sy’n deillio ohonynt, o’r rheoliadau Organebau a

Addaswyd yn Enetig (GMO) yn Lloegr pe gallai’r organebau hynny fod wedi digwydd yn naturiol neu gael eu cynhyrchu drwy ddulliau traddodiadol. Cynhaliwyd trafodaeth yn y Senedd ar 17 Ionawr 2023 ac ni chymeradwywyd cynnig y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a osodwyd gan Weinidogion Cymru, sy’n golygu bod aelodau wedi pleidleisio i wrthod rhoi cydsyniad i’r Bil. Anfonodd y Senedd ganlyniad y bleidlais i Lywodraeth y DU, ac mae hwn wedi’i gyhoeddi ar wefan y Bil. Mae Llywodraeth y DU o’r farn nad oedd angen Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil hwn, ac o ganlyniad nid oes unrhyw gamau pellach iddynt eu cymryd. Mae’r Bil ar hyn o bryd yn y cyfnod adrodd yn Nhŷ’r Arglwyddi a byddwn yn parhau i fonitro ei gynnydd.      

4.2 Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 

Gosodwyd Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2021-2022 yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru yn ddwyieithog yn y Senedd ar 19 Ionawr 2023. Mae copi o’r adroddiad i’w weld ar wefan y Senedd.

4.3 Cyfarfod Llawn y Senedd i drafod Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022 (“sesiwn ddilynol 4”) 

Yn dilyn cyfarfod ymlaen llaw llwyddiannus gyda’r Dirprwy Weinidog i drafod yr Offeryn Statudol Dilynol, trafododd y Senedd ei gynnwys ar 13 Rhagfyr. Cefnogodd tîm yr ASB yng Nghymru a swyddogion Llywodraeth Cymru y Gweinidog yn ystod y cyfarfod ymlaen llaw a chafwyd llawer o fewnbwn gan swyddogion yr ASB yng Nghymru. Cafodd yr Offeryn Statudol ei basio’n llwyddiannus trwy bleidlais o 34 i 15 a bydd y tîm Polisi Hylendid bellach yn gweithio gyda swyddogion y Llywodraeth i gywiro rhai gwallau drafftio yn yr Offeryn Statudol.

4.4 Digwyddiad lle bu’n rhaid galw yn ôl nifer bach o gynhyrchion llaeth y fron dynol 

Bu’r Tîm Digwyddiadau yng Nghymru yn gweithio ar ddigwyddiad yn ymwneud â lefelau uwch o blwm mewn llaeth y fron dynol (cynhyrchion NeoKare). Roedd un o’r 7 ysbyty a gafodd y cynnyrch hwn yng Nghymru. Bu’r ymateb i’r digwyddiad hwn yn ymdrech ar y cyd rhwng yr ASB, Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, GIG Cymru, yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, GIG Lloegr, a Safonau Bwyd yr Alban. Cyhoeddwyd cyfathrebiadau rhagweithiol ar 6 Ionawr. 

4.5 Cydnabod Gwasanaethau Cymraeg yr ASB 

Yn ddiweddar, nododd Comisiynydd y Gymraeg yr Asiantaeth Safonau Bwyd fel esiampl ar gyfer ymgyrchoedd cyfathrebu dwyieithog yng Nghymru. Fel y cyfryw, estynnodd y Comisiynydd wahoddiad i Lisa Pugh, Rheolwr y Gymraeg a Lowri Williams, yr Uwch-reolwr Cyfathrebu, i wneud cyflwyniad yng ngweminar 'Defnyddio Gwasanaethau Cymraeg' y Comisiynydd. Mae’r astudiaeth achos arferion gorau hon hefyd wedi’i chynnwys ar wefan y Comisiynydd ar ffurf pecyn cymorth a fideo arferion gorau ar gyfer sefydliadau eraill.   

4.6 Symud swyddfa’r ASB yng Nghymru 

Fel y diweddarwyd yn flaenorol mewn cyfarfodydd WFAC, bydd swyddfa’r ASB yng Nghaerdydd yn symud i adeilad Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays ym mis Gorffennaf 2023. Mae ein timau cyfreithiol wrthi’n cwblhau’r trefniadau prydlesu ac rydym yn dylunio ein swyddfa newydd yn seiliedig ar ofynion staff. Mae staff hefyd yn cael diweddariadau rheolaidd am ddatblygiadau gyda’r swyddfa.

4.7 Adolygiad blynyddol o gynllun Gwarant Fferm Da Byw Cymru 

Archwilio a Sicrwydd Cymru wedi cwblhau’r asesiad blynyddol o gynllun cydnabyddiaeth ar sail perfformiad Gwarant Fferm Daw Byd Cymru yn ddiweddar(footnote). Mae’r ASB yng Nghymru wedi cymeradwyo cynllun sicrwydd Gwarant Fferm Da Byw Cymru at ddibenion cydnabyddiaeth ar sail perfformiad ar gyfer cynnal rheolaethau swyddogol ar fwyd anifeiliaid ac, fel rhan o’r trefniadau llywodraethu, cytunwyd ar Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Chynhyrchwyr Cig Oen a Chig Eidion Cymru (WLBP). Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r ASB adolygu'r cynllun yn flynyddol i sicrhau ei fod yn parhau i gyrraedd y safon ofynnol ar gyfer cydnabyddiaeth ar sail perfformiad. Yn sgil y gwaith hwn, bydd WLBP yn parhau i weithredu'r cynllun am 12 mis arall.

4.8 Negeseuon i ddefnyddwyr am bysgod mwg 

Yn y cyfnod cyn y Nadolig, bu ein tîm cyfathrebu yng Nghymru yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y 3 gwlad i gyhoeddi negeseuon wedi’u targedu at grwpiau penodol, yn eu hatgoffa i gynhesu pysgod mwg parod i’w bwyta nes eu bod yn chwilboeth cyn eu bwyta, oherwydd risg o Listeria. Mae'r defnyddwyr hyn yn cynnwys pobl feichiog, pobl dros 65 oed a phobl â chyflyrau sylfaenol penodol, neu bobl sy’n cymryd meddyginiaethau a all wanhau'r system imiwnedd. 

4.9 Ymgyrch gyfathrebu fforddiadwyedd bwyd dros y gaeaf 

Fel rhan o ymgyrch hirdymor i gefnogi gweithgarwch ehangach mewn perthynas â’r heriau costau byw, mae’r tîm Cyfathrebu yng Nghymru wedi rhoi cyngor i ddefnyddwyr ar bynciau sy’n canolbwyntio ar yr hanfodion diogelwch bwyd (oeri, coginio, croeshalogi, glanhau) fel coginio sympiau, rhewi bwyd a dyddiadau ‘ar ei orau cyn’, gyda ffocws ar weithgareddau sy'n galluogi'r defnyddiwr i leihau costau a gwastraff yn ystod yr hydref a'r gaeaf. Rydym yn rhannu’r negeseuon hyn trwy’r cyfryngau cymdeithasol, gan ddefnyddio hyrwyddiad y telir amdano a rhoi hwb i hysbysebion i dargedu'r grwpiau mwyaf agored i niwed.

5. Ymgynghoriadau

5.1  Ymgynghoriadau sydd ar agor:

Ymgynghoriad ar ddiweddariad arfaethedig i Fframwaith Cydymffurfio’r ASB ar gyfer cynnal Rheolaethau Swyddogol mewn Sefydliadau Llaeth Cofrestredig yng Nghymru a Lloegr

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio sylwadau rhanddeiliaid ar gynnig i gymhwyso fframwaith cydymffurfio wedi’i ddiweddaru wrth i’r ASB gynnal rheolaethau swyddogol cynhyrchu cynradd mewn sefydliadau llaeth cofrestredig yng Nghymru a Lloegr a'r defnydd dilynol o'r fframwaith hwn i bennu amlder yr arolygiad nesaf.

Dyddiad lansio: 12 Rhagfyr 2022
Dyddiad cau: 10 Mawrth 2023

Ceisiadau i awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig amrywiol: un bwyd newydd ac un ychwanegyn bwyd

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid mewn perthynas â cheisiadau cynnyrch rheoleiddiedig ar gyfer awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig amrywiol: un bwyd newydd ac un ychwanegyn bwyd.

Dyddiad lansio: 23 Ionawr 2023
Dyddiad cau: 6 Chwefror 2023


 

5.2  Edrych tua’r dyfodol:  

Ymgyrch gyfathrebu Yma i Helpu 2.0 (Mawrth 2023)

Mae hyn yn dilyn ymgyrch Yma i Helpu flaenorol i gefnogi busnesau yn ystod cyfnod o ansicrwydd economaidd. Gyda phwyslais y llywodraeth ar hybu twf busnes a’n pwyslais strategol ein hunain ar helpu busnesau i wneud y peth iawn, byddwn yn parhau i amlygu a hyrwyddo’r cymorth sydd ar gael gan yr ASB i fusnesau, gan gynnwys yng Nghymru. Y nod yw dangos sut rydym yn gweithio i'w gwneud yn haws i fusnesau gyflawni eu rhwymedigaethau a gwneud y peth iawn i ddefnyddwyr trwy gael gwared ar rwystrau a allai effeithio arnynt wrth gyflawni safonau uchel.   

Ymgyrch gyfathrebu Rhybuddion a Hysbysiadau Galw yn ôl (Mawrth 2023)

Nod yr ymgyrch hon yw codi ymwybyddiaeth o’r llwyfan rhybuddion a hysbysiadau galw yn ôl, addysgu defnyddwyr am y rôl y mae’r ASB yn ei chwarae mewn perthynas â diogelwch bwyd a dangos ein bod yn sefydliad y gellir ymddiried ynddo ac annog pobl i gofrestru. Bydd yr ymgyrch hon wedi'i hanelu at ddefnyddwyr yn gyffredinol ond bydd hefyd ymdrech benodol i gyrraedd y gymuned alergeddau.