Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Hysbysiad galw yn ôl ar gyfer nifer bach o gynhyrchion llaeth y fron

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn gweithio gyda Safonau Masnach i ymchwilio i sut roedd cynhyrchion llaeth y fron a gynhyrchwyd gan NeoKare Nutrition Limited yn cynnwys lefelau uwch o blwm. Mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, GIG Lloegr, Iechyd Cyhoeddus Cymru, GIG Cymru, Llywodraeth Cymru a Safonau Bwyd yr Alban hefyd yn cefnogi’r ASB yn ei hymateb.

Diweddarwyd ddiwethaf: 6 January 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 6 January 2023

Gwerthodd y cwmni nifer bach o gynhyrchion llaeth y fron i bobl ar-lein. Roedd y cwmni hefyd yn cyflenwi tri ar ddeg o ysbytai. O’r rhai a gyflenwyd, defnyddiodd 7 ysbyty’r cynnyrch – 6 yn Lloegr ac 1 yng Nghymru. Rhoddwyd un o’r cynhyrchion gan rai ysbytai i nifer bach o fabanod cynamserol fel rhan o dreial clinigol neu fel ffynhonnell arall o faethiad.

Ar gyngor Safonau Masnach a’r ASB, mae’r holl gynhyrchion a werthwyd gan y cwmni wedi’u tynnu a’u galw’n ôl gan y busnes fel mesur rhagofalus. Mae’r cwmni wedi cysylltu â’r nifer bach o gwsmeriaid a brynodd y cynhyrchion yr effeithiwyd arnynt ar-lein. 

Mae’r GIG wedi cysylltu â’r nifer bach o deuluoedd yr oedd eu plant wedi cael rhai o’r cynhyrchion dan sylw. Mae'r risg i iechyd y rhai y rhoddwyd y cynhyrchion hyn iddynt yn debygol o fod yn isel.

Mae’r hysbysiad galw yn ôl yn effeithio ar gynhyrchion masnachol a gynhyrchir gan NeoKare Nutrition Limited yn unig.  Nid oes unrhyw laeth y fron na chynhyrchion fformiwla babanod eraill sydd ar werth i’r cyhoedd wedi’u cynnwys yn yr hysbysiad galw yn ôl, ac nid yw’n effeithio ar laeth y fron gan roddwyr o fanciau llaeth nid er elw.  

Meddai Junior Johnson, Cyfarwyddwr Gweithrediadau’r Asiantaeth Safonau Bwyd: 

‘Yn ddealladwy, mae’r sefyllfa hon yn peri pryder i’r rhieni a’r gwarcheidwaid yr effeithir arnynt. Rydym wedi gweithio’n agos gyda’r awdurdodau iechyd cyhoeddus a’r GIG i asesu’r risg i iechyd, sy’n debygol o fod yn isel. 

‘Yn dilyn cyngor gan yr ASB a Safonau Masnach, mae’r busnes wedi galw’r cynhyrchion yn ôl ac rydym wedi sicrhau bod cwsmeriaid a chleifion yn cael gwybod. Mae cymorth ychwanegol wedi’i gynnig i gwsmeriaid manwerthu ac i deuluoedd y rhoddwyd y cynhyrchion i’w plant.

‘Rydym yn parhau i weithio gyda Safonau Masnach i sicrhau nad oes unrhyw risg diogelwch bwyd bellach i’r cyhoedd.’

Dyma fanylion y cynhyrchion sy’n gysylltiedig â’r hysbysiad galw’n ôl: 

  • MOTHER’S MILK FORTIFIER (MMF) POWDER 10 x 1g, bwyd at ddibenion meddygol arbennig, a gyflenwir i Ysbytai’r GIG yn unig i’w ddefnyddio’n bennaf mewn treialon clinigol sy’n cynnwys babanod cynamserol, nad yw ar gael i’w fanwerthu.
  • PASTEURISED HUMAN BREAST MILK (PHBM) POWDER 6g (wedi’i gyflenwi’n uniongyrchol i gwsmeriaid ar-lein)
  • 70CAL LIQUID FROZEN 15ml and 50ml, (wedi’i gyflenwi i Ysbytai’r GIG a’i gyflenwi’n uniongyrchol i gwsmeriaid ar-lein)
  • PASTEURISED HUMAN BREAST MILK (PHBM) LIQUID FROZEN 50ml (wedi’i gyflenwi’n uniongyrchol i gwsmeriaid ar-lein), (pob cod swp a phob dyddiad ‘defnyddio erbyn’)

Mae plwm yn fetel sy’n digwydd yn naturiol yn yr amgylchedd. Mae’n bresennol ar lefelau isel mewn llawer o fwydydd oherwydd ei fod mewn pridd a dŵr. Mae pawb yn profi amlygiad cefndirol i blwm o ffynonellau deietegol oherwydd bod plwm yn bresennol mewn bwyd. Mae ymchwiliadau’n mynd rhagddynt i bennu sut y digwyddodd y lefelau uwch o blwm. 

Nid oes unrhyw lefelau uchaf ar gyfer plwm wedi’u pennu mewn deddfwriaeth ar gyfer llaeth y fron. Fodd bynnag , mae’r cynnyrch ‘Mother’s Milk Fortifier’ gan NeoKare Nutrition Limited hefyd yn cael ei ddosbarthu fel ‘bwyd at ddibenion meddygol arbennig’ y mae’n rhaid ei roi o dan oruchwyliaeth feddygol, ac mae gan y cynnyrch hwn derfyn cyfreithiol uchaf ar gyfer plwm.