Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Ymgynghoriad ar ddiweddariad arfaethedig i fframwaith cydymffurfio’r Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer cynnal rheolaethau swyddogol mewn sefydliadau llaeth cofrestredig yng Nghymru a Lloegr

Penodol i Gymru a Lloegr

Ymgynghoriad ar ddiweddariad i fframwaith cydymffurfio ar arolygiadau rheolaethau swyddogol cynhyrchu cynradd mewn sefydliadau llaeth cofrestredig yng Nghymru a Lloegr.

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 December 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 12 December 2022

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn ceisio sylwadau rhanddeiliaid ar gynnig i gymhwyso fframwaith cydymffurfio wedi’i ddiweddaru i arolygiadau rheolaethau swyddogol cynhyrchu cynradd a gynhelir gan yr ASB mewn sefydliadau llaeth cofrestredig yng Nghymru a Lloegr a defnydd dilynol o’r fframwaith hwn i bennu amlder yr arolygiad nesaf. 

Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb i’r canlynol yn bennaf:

  • Sefydliadau llaeth cofrestredig yng Nghymru a Lloegr
  • Proseswyr llaeth amrwd
  • Sefydliadau masnach llaeth/cynnyrch llaeth
  • Defnyddwyr cynhyrchion llaeth
  • Awdurdodau gorfodi

Pwnc yr ymgynghoriad

Mae’r ASB yn ceisio sylwadau rhanddeiliaid ar gynnig i gymhwyso fframwaith cydymffurfio wedi’i ddiweddaru i arolygiadau rheolaethau swyddogol cynhyrchu cynradd a gynhelir gan yr ASB mewn sefydliadau llaeth cofrestredig yng Nghymru a Lloegr a defnydd dilynol o’r fframwaith hwn i bennu amlder yr arolygiad nesaf. 

Diben yr ymgynghoriad

Rhoi cyfle i grwpiau sydd â buddiant wneud sylwadau am y materion a ganlyn:

  1. Newidiadau arfaethedig i’r ffordd y caiff sgoriau cydymffurfio terfynol eu cymhwyso ar ôl i’r ASB gynnal arolygiadau ar sail rheolaethau swyddogol o ran cynhyrchu cynradd mewn sefydliadau llaeth cofrestredig yng Nghymru a Lloegr
  2.  Y modd y caiff y fframwaith sgorio risg newydd, a fydd yn cynnwys arolygiadau ychwanegol ar gyfer sefydliadau lle ceir risg uwch, ei ddefnyddio yn sgil y newidiadau uchod.

Pecyn ymgynghori

Ymgynghoriad ar ddiweddariad arfaethedig i fframwaith cydymffurfio’r Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer cynnal rheolaethau swyddogol mewn sefydliadau llaeth cofrestredig yng Nghymru a Lloegr (fersiwn hygyrch)

Sut i ymateb

Mae angen i ymatebion ddod i law erbyn 10 Mawrth 2023. Yn eich ymateb, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli).

Dylid anfon ymatebion i’r ymgynghoriad hwn i dairyops@food.gov.uk

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

O fewn tri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a chynnwys dolen iddo ar y dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU.. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.