Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer y Traciwr Dadansoddi Risg

Gwybodaeth am y polisi preifatrwydd mewn perthynas â’r Traciwr Dadansoddi Risg, pam mae angen y data arnom, beth rydym ni’n ei wneud â’r data, a’ch hawliau

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd ‘Rheolydd’ y data personol a ddarperir i ni.

Pwrpas a sail gyfreithiol dros brosesu

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cael yr wybodaeth hon yn uniongyrchol gan staff yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) wrth roi mynediad i staff at y Traciwr, ac yn anuniongyrchol gan gydweithredwyr allanol fel rhan o’u cyfraniad tuag at ddadansoddi risg.

Rydym ni'n prosesu’r wybodaeth hon yn unol â'n dyletswyddau statudol ac wrth ymarfer yr awdurdodau swyddogol a roddwyd i ni, ac wrth gyflawni tasg a wneir er lles y cyhoedd. Yn benodol, fel rhan o’n dyletswyddau statudol i gynnal proses dadansoddi risg gan ddefnyddio gwyddoniaeth a thystiolaeth i roi cyngor i’r llywodraeth, busnesau a defnyddwyr ar risgiau diogelwch bwyd.

Beth sydd ei angen arnom a sut rydym ni'n ei ddefnyddio

Mae angen i ni gasglu a dal gwybodaeth bersonol am staff allweddol yr ASB a’r FSS a chydweithredwyr allanol sydd ynghlwm wrth geisio, cynhyrchu, cydlynu, adolygu a derbyn Dadansoddiadau Risg a’u cydrannau, sy’n cael eu huwchlwytho i’r Traciwr. Mae hyn yn cynnwys enwau, teitlau/rolau swyddi, ac mewn rhai achosion, gall gynnwys manylion cyswllt gwaith. Mae angen i ni gasglu a phrosesu eich gwybodaeth bersonol er mwyn:

  • Caniatáu a gweinyddu mynediad at y Traciwr.
  • Cyfathrebu â defnyddwyr i gael diweddariadau, ateb cwestiynau, cydweithredu neu ddosbarthu gwybodaeth.
  • Cynnal llwybr archwilio mewnol.

Sut a ble rydym ni’n storio’ch data a gyda phwy y gallwn ni ei rannu

Rydym ni’n storio’r wybodaeth a geir ar wefan yr ASB ac yn ei defnyddio i rannu gwybodaeth dadansoddi risg yn ddiogel rhwng staff yr ASB a’r FSS a chydweithredwyr allanol.

I gael rhagor o wybodaeth gyffredinol am Sut a ble rydym ni’n storio’ch data a gyda phwy y gallwn ei rannu, darllenwch ein Siarter Gwybodaeth Bersonol. 


Dim ond cyhyd ag y bo hynny’n angenrheidiol i gyflawni’r dibenion hyn y byddwn ni’n cadw eich gwybodaeth bersonol, ac yn unol â’n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y bydd y wybodaeth hon yn cael ei chadw ar y Traciwr Dadansoddi Risg am 10 mlynedd.

Trosglwyddiadau rhyngwladol 

I gael rhagor o wybodaeth am drosglwyddiadau rhyngwladol, ewch i adran Trosglwyddiadau Rhyngwladol ein Siarter Gwybodaeth Bersonol. 

Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE)  

I gael rhagor o wybodaeth am Hysbysiad Preifatrwydd Dinasyddion yr UE, ewch i adran dinasyddion yr UE ein Siarter Gwybodaeth Bersonol. 

Eich hawliau 

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, ewch i adran Eich hawliau ein Siarter Gwybodaeth Bersonol. 

Cysylltu â ni 

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, eich gwybodaeth bersonol neu unrhyw gwestiynau am ein defnydd o’r wybodaeth, anfonwch e-bost at ein Swyddog Diogelu Data yn yr ASB, sef Arweinydd y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch, gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost isod.