Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Mewnforio sawsiau sy'n cynnwys cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid

Penodol i Gymru a Lloegr

Canllawiau ar hylendid bwyd a halogion wrth fewnforio sawsiau sy'n cynnwys cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid.

Gwybodaeth gyffredinol

Mae rheolau llym ar gyfer mewnforio sawsiau o drydydd gwledydd sy'n cynnwys cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid. Mae’r rheolau hyn yn cynnwys sawsiau sy'n cynnwys unrhyw:

  • gig
  • dofednod (poultry)
  • pysgod
  • wyau a chynhyrchion wyau
  • mêl

Rhaid i'r mathau hyn o sawsiau fodloni'r un gofynion hylendid bwyd a gweithdrefnol â’r rhai ar gyfer Prydain Fawr.

Rhaid iddynt hefyd gael tystysgrif iechyd a ddyfarnwyd gan awdurdod cymwys y wlad tarddiad.
Mae enghreifftiau o gynhyrchion o'r fath yn cynnwys:

  • saws carbonara
  • saws caws
  • mayonnaise
  • saws béchamel
  • saws hollandaise
  • saws persli
  • grefi neu stoc cig penodol

Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) sy'n ymdrin â'r rheolau ar gyfer mewnforio sawsiau sy'n cynnwys cig neu gynhyrchion llaeth (gan gynnwys powdr llaeth), gelatin, dofednod, wyau neu ratidau (emiw, estrys, rhea). Mae hyn hefyd yn cynnwys sawsiau sy'n cynnwys anifeiliaid hela gwyllt, pryfaid, cynrhon, cig anarferol (ymlusgiaid, aligator) neu fêl.

Gwybodaeth am fewnforio sawsiau sy'n cynnwys pysgod cregyn neu bysgod, neu eu cynhyrchion.

Hylendid bwyd

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau cyffredinol am hylendid bwyd, cysylltwch â'r Tîm Polisi Hylendid Bwyd.

Halogion

Mae Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2013 yn darparu ar gyfer deddfu a gorfodi cyfraith y DU a ddargedwir sy'n gosod terfynau rheoleiddio ar gyfer halogion mewn bwyd, fel nitrad, mycotocsinau, metelau, 3-MCPD, deuocsinau a hydrocarbonau aromatig polysyclig neu PAHs.

Darllenwch ein canllawiau i fusnesau ar ddiogelwch cemegol