Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Monitro halogion cemegol

Sut i ganfod a monitro halogion cemegol a chanllawiau ar y terfynau perthnasol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Mehefin 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Mehefin 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau

Y broses fonitro

Mae molysgiaid dwygragennog byw yn bwyta plancton o'r dŵr o'u cwmpas sy'n golchi trwy eu cynefin. Gall y broses fwydo hon arwain at lygryddion amgylcheddol yn cronni yn y pysgod cregyn.

Mae deddfwriaeth yn gofyn am fonitro ardaloedd cynhyrchu pysgod cregyn dosbarthedig am halogion cemegol.

Caiff ein hardaloedd cynhyrchu pysgod cregyn dosbarthedig eu monitro gan ein rhaglenni monitro rheolaeth swyddogol. Mae hyn yn sicrhau nad yw lefelau halogi cemegol mewn molysgiaid dwygragennog byw yn uwch na'r terfynau rheoleiddio.

Mae swyddogion samplu yn casglu samplau pysgod cregyn a'u cyflwyno i labordai rheoli swyddogol. Yn y labordy, cynhelir profion cemegol yn unol â meini prawf a nodir mewn deddfwriaeth i ganfod lefelau o:

  • fetelau trwm
  • hydrocarbonau aromatig amlgylchredol
  • diocsinau os oes angen biffenylau polyclorinedig (PCB) os oes angen

Terfynau ar gyfer halogion cemegol

Metalau trwm:

  • Plwm – 1.5mg/kg
  • Cadmiwm – 1.0mg/kg
  • Mercwri – 0.5mg/kg

Hydrocarbonau aromatig amlgylchredol:

  • Benzo(a)pyrene – 5.0μg/kg
  • Swm benzo(a)pyrene, benz(a)anthracen, benzo(b)fflworanthen a chrysene – 30.0μg/kg

Diocsinau a biffenylau polyclorinedig sy'n debyg i ddiocsinau:

  • Swm y deuocsinau – 3.5pg/g o bwysau gwlyb
  • Swm y diocsinau a biffenylau polyclorinedig sy'n debyg i ddiocsinau – 6.5pg/g o bwysau gwlyb
  • Swm PCB28, PCB52, PCB101, PCB138, PCB153 a PCB180 – 75ng/g o bwysau gwlyb

Rhaglen fonitro

Bob blwyddyn rydym ni'n adolygu'r ardaloedd cynaeafu dosbarthedig presennol a dewis safleoedd i'w samplu yn ôl yr angen. Mae'r adroddiadau yn cael eu cyhoeddi a'u mapio i ddangos cydymffurfiaeth, dyddiadau samplu a math o ddadansoddi.

Northern Ireland

Canlyniadau halogi cemegol

Canlyniadau halogi cemegol ar gyfer Cymru a Lloegr