Monitro biotocsinau a ffytoplancton
Risgiau biotocsinau a ffytoplancton morol sy'n heintio pysgod cregyn, a'r camau y gall busnesau bwyd eu cymryd.
Mae biotocsinau morol yn sylweddau gwenwynig sy'n gallu cronni o fewn meinweoedd (tissues) molysgiaid dwygragennog byw. Gall hyn fod o ganlyniad i fwydo ar ffytoplancton sy'n cynhyrchu biotocsinau.
Ar hyn o bryd, mae tri grŵp o fiotocsinau sy'n cael eu rheoleiddio ar gyfer pysgod cregyn. Gall y rhain achosi:
- gwenwyn pysgod cregyn parlysol (PSP)
- gwenwyn pysgod cregyn amnesig (ASP)
- gwenwyn pysgod cregyn diaretig (DSP) a achosir gan docsinau lipofilig
Mae'r broses o fonitro biotocsinau morol yn nodi a oes risg gynyddol o bysgod cregyn yn cael eu halogi.
Mae'n caniatáu i fusnesau gymryd camau priodol i sicrhau bod y pysgod cregyn y maent yn eu rhoi ar y farchnad yn ddiogel i'w bwyta.
Pan ddarganfyddir biotocsinau mewn pysgod cregyn mewn lefelau uwch na'r terfyn cyfreithiol, rydym ni a'ch awdurdod lleol yn gweithredu i sicrhau bod yr ardaloedd dan sylw yn cael eu cau o ran cynaeafu.
Risgiau biotocsinau morol
Mae'r rhywogaethau hyn yn bwydo drwy hidlo (filter feeders) neu'n bwydo'n gyfan gwbl ar greaduriaid sy'n bwydo drwy hidlo. Mae hyn yn golygu eu bod yn fwy tebygol o godi a chronni biotocsinau neu halogion bacteriol.
Gall bwyta pysgod cregyn sydd wedi'u halogi â'r biotocsinau hyn arwain at salwch difrifol. O'r herwydd, o ardaloedd cynhyrchu cymeradwy yn unig y gellir cynaeafu'r rhywogaethau hyn yn fasnachol. Mae'r ardaloedd hyn yn cael eu monitro i sicrhau eu bod yn bodloni'r meini prawf biotocsinau a microbiolegol.
Lefelau biotocsinau
Dyma'r lefelau uchaf o fiotocsinau a ganiateir mewn pysgod cregyn:
- PSP ar 800 microgram/cilogram o saxitoxin (STX)
- ASP ar 20 miligram/cilogram o asid domoic (DA)
Mae DSP yn cael ei achosi gan grŵp o docsinau Lipoffilig, a dyma'r lefelau:
- OA/DTXs/ Pectenotoxins (PTXs) ar 160 microgram o gyfwerth asid Okadaic/cilogram
- Yessotoxinau (YTXs) yr 3.75 miligram o gyfwerth yessotoxin/cilogram
- Azaspirasidau (AZAs) ar 160 microgram o gyfwerth azaspiracid/cilogram
- DSP sy'n gymwys ar gyfer rhywogaethau na brofir gan LC-MS – ni ddylai tocsinau DSP fod yn bresennol
Pwysig
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn diweddaru holl gyfeiriadau'r UE, i adlewyrchu'n gywir y gyfraith sydd bellach mewn grym, ym mhob canllaw newydd neu ddiwygiedig a gyhoeddwyd ers i'r Cyfnod Pontio ddod i ben ar ddiwedd 2020. Mewn rhai amgylchiadau efallai na fydd bob amser yn ymarferol i ni ddiweddaru holl gyfeiriadau'r UE ar yr adeg yr ydym yn cyhoeddi canllawiau newydd neu ddiwygiedig.
Ac eithrio yng Ngogledd Iwerddon, dylid darllen bod unrhyw gyfeiriadau at Reoliadau’r UE yn y canllawiau hyn yn golygu cyfraith yr UE a ddargedwir (retained EU law). Gallwch weld cyfraith yr UE a ddargedwir trwy Archif Ar-lein Ymadael â’r UE Llywodraeth EM. Dylid darllen y gyfraith hon ochr yn ochr ag unrhyw ddeddfwriaeth Ymadael â'r UE a wnaed i sicrhau bod cyfraith yr UE a ddargedwir yn gweithredu'n gywir yng nghyd-destun y DU. Mae deddfwriaeth Ymadael â’r UE ar legislation.gov.uk. Yng Ngogledd Iwerddon, bydd cyfraith yr UE yn parhau i fod yn berthnasol mewn perthynas â’r rhan fwyaf o gyfraith hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid, fel a restrir ym Mhrotocol Gogledd Iwerddon, ac ni fydd cyfraith yr UE a ddargedwir yn berthnasol i Ogledd Iwerddon o dan yr amgylchiadau hyn.
Northern Ireland
Pecynnau profi am fiotocsinau ar gyfer y diwydiant
Mae'r canllaw hwn yn cynnwys gwybodaeth am becynnau profi sydd ar gael i weithredwyr busnesau bwyd a chyngor ar sut i gynnal Profion Cynnyrch Terfynol (Saesneg yn unig).
Monitro ffytoplancton
Mae rhai mathau o ffytoplancton yn algâu sy'n cynhyrchu tocsinau.
Cesglir samplau dŵr o safleoedd dethol o fewn ardaloedd tyfu pysgod cregyn dosbarthedig, a chânt eu dadansoddi ar gyfer gwahanol rywogaethau o ffytoplancton gan gynnwys:
- Alexandriwm
- Dinoffysis
- Pseudo-nitzchia
Mae monitro am ffytoplancton yn rhoi rhybudd cynnar o ddigwyddiadau tocsig. Gall hefyd eich helpu i wneud penderfyniadau ar weithgareddau monitro ychwanegol.
Northern Ireland
Cynaeafu mewn crynodiadau uchel o Ffytoplancton
Mae angen i chi gymryd y rhagofalon angenrheidiol os ydych chi am gynaeafu ardaloedd â chyflyrau lefel rhybudd.
Dyma'r lefelau rhybudd am grynodiad ffytoplancton ar gyfer pob rhywogaeth:
- Alexandriwm (Saxitocsin) – mwy na neu cyfartal â 40 cell/litr o Alexandriwm (cyfrifol am PSP)
- Dinoffysis (Asid Okadaic) – mwy na neu cyfartal â 100 cell/litr o Dinoffysis, a data hanesyddol (cyfrifol am DSP)
- Pseudo-nitzschia (Asid Domoic) – mwy na neu cyfartal â 150,000 cell/litr o Pseudo-nitzschia, a data hanesyddol (cyfrifol am ASP)
Canlyniadau biotocsinau a ffytoplancton
Mae canlyniadau biotocsinau a ffytoplancton ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cael eu cadw ar ein gwefan ddata bwrpasol, yn ogystal â chan CEFAS.
- Canlyniadau biotocsinau ar gyfer Cymru a Lloegr (Saesneg yn unig)
- Canlyniadau biotocsinau ar gyfer Gogledd Iwerddon
- Canlyniadau ffytoplanctonau at gyfer Gogledd Iwerddon
- Amserlenni samplu biotocsin ar gyfer Gogledd Iwerddon
- Amserlenni samplu ffytoplancton ar gyfer Gogledd Iwerddon
- Adroddiad blynyddol AFBI ffytoplancton 2021
- Adroddiad blynyddol AFBI biotocsinau 2021
Ffurflen gyflwyno sampl pysgod cregyn a dŵr ar gyfer Gogledd Iwerddon
Northern Ireland
Monitro cregyn bylchog (Pectinidae)
O dan Reoliad (EC) 853/2004 sy’n rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir, gellir cynaeafu cregyn bylchog o ardaloedd sydd heb eu ddosbarthu. Gellir caniatáu cynaeafu cregyn bylchog gwyllt os dilynir y rheolaethau yn y rheoliad hwn a sicrhau bod y cynnyrch terfynol yn ddiogel i'w fwyta.
Cau
I gael manylion unrhyw Hysbysiadau Cau Dros Dro a Hysbysiadau Rhybudd, dylech gysylltu â Swyddog Iechyd yr Amgylchedd eich awdurdod lleol i gael cyngor.
Nid yw'r ffaith nad oes unrhyw wybodaeth ar gael yn golygu bod yr ardal yn rhydd o unrhyw fiotocsinau. Cyfrifoldeb gweithredwr y busnes bwyd yw sicrhau bod eu cynhyrchion yn cydymffurfio â'r holl ofynion perthnasol. Mae hyn yn cynnwys gwirio bod biotocsinau yn is na'r lefelau rheoledig.
Diweddariadau byw
Diweddarwyd ddiwethaf 7 Mehefin 2022.
Canlyniadau pysgod cregyn – Ffrainc
Mae'n bwysig eich bod chi'n ymwybodol o'r canlyniadau biotocsinau ar gyfer pob ardal rydych chi'n ei chynaeafu i sicrhau bod y cynnyrch yn ddiogel. Mae hyn yn cynnwys dyfroedd Ffrainc.
Mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r canlyniadau ffytoplancton a chnawd a rhybuddion o ardaloedd cynhyrchu Ffrainc.
Ar ôl agor y wefan, mae'r marciau coch yn dangos ardaloedd lle mae'r canlyniadau wedi torri lefelau sbarduno ffytoplancton neu derfynau gweithredu cnawd.
Rydym yn argymell eich bod chi'n agor y wefan gan ddefnyddio Google Chrome i fanteisio ar y teclyn cyfieithu sydd ar gael.