Neidio i’r prif gynnwys

Canllawiau ar awdurdodi cyflasynnau mwg

Gofynion o ran awdurdodi cyflasynnau (flavourings) mwg a'r hyn sydd angen i chi ei gyflwyno fel rhan o'ch cais.
Diweddarwyd ddiwethaf
Mae'r dudalen hon yn rhan o'r Canllawiau ar wneud cais am gynhyrchion wedi'u rheoleiddio

Mae cyflasynnau mwg yn cael eu hychwanegu at fwydydd, fel cig neu gaws, i roi blas 'mwg' iddyn nhw, fel dewis arall yn lle mygu traddodiadol. Gellir eu hychwanegu hefyd at fwydydd nad ydyn nhw'n cael eu mygu'n draddodiadol, fel cawliau, sawsiau neu ddanteithion (confectionery). Mewn rhai achosion, defnyddir cyflasynnau mwg ar lefelau isel iawn i ychwanegu mymryn o flas penodol yn unig ac nid y blas myglyd llawn.

Mae angen awdurdodi cyflasynnau mwg cyn y gellir eu rhoi ar y farchnad ym Mhrydain Fawr. Mae cyfraith yr Undeb Ewropeaidd (UE) a ddargedwir (retained EU law) ar gyflasynnau mwg yn amlinellu'r weithdrefn awdurdodi ar gyfer y mathau hyn o gyflasynnau. Mae yna broses awdurdodi ar wahân ar gyfer cyflasynnau fel sylweddau cyflasyn. 

Mae awdurdodiadau cynnyrch sylfaenol â blas mwg yn benodol i ymgeiswyr ac fe'u rhoddir am 10 mlynedd. Gellir eu hadnewyddu ar ôl y cyfnod hwn. Mae cyflasynnau mwg yn cael eu rheoli o dan ddeddfwriaeth wahanol i gyflasynnau eraill ac felly mae ganddynt amseriadau gwahanol ar gyfer y broses dadansoddi risg a gofynion data gwahanol ar gyfer y cymwysiadau.

Gallwch chi ddod o hyd i restr o gyflasynnau mwg awdurdodedig yn Rheoliad 1321/2013 yr UE a ddargedwir.

Awdurdodiadau newydd

I wneud cais i awdurdodi cyflasyn mwg ym Mhrydain Fawr, defnyddiwch ein gwasanaeth gwneud cais am gynnyrch wedi’i reoleiddio. Ar ôl llenwi ffurflen gais, anfonir dolen atoch lle gallwch lanlwytho dogfennau cais a fydd yn ffurfio'ch coflen (dossier). Nid oes unrhyw ffi am y cais.

Dylai eich cais gynnwys:

  • crynodeb cyffredinol o'r cais
  • data gweinyddol (rhan 1)
  • data technegol (rhan 2)
  • data gwenwynegol (rhan 3)
  • cyfeiriadau ac adroddiadau (rhan 4)

Canllawiau manwl

Mae canllawiau manwl wedi’u datblygu’n flaenorol gan Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) ac maent yn parhau i fod yn berthnasol gan fod ein dull yn seiliedig ar brosesau'r UE. Dylech chi ddilyn y rhannau sy'n ymwneud â datblygu coflenni yn unig ac nid y broses ymgeisio:

Ail-awdurdodiadau

Bydd yr awdurdodiadau cyfredol yn dod i ben ar 1 Ionawr 2024. Rhaid cyflwyno ceisiadau ail-awdurdodi 18 mis cyn i'r awdurdodiad ddod i ben. Mae hyn yn golygu bod angen i chi gyflwyno eich coflen erbyn diwedd Mehefin 2022. Gallwch chi anfon eich cais cyn y dyddiad hwn, ond ni fyddwn yn ei ystyried ymlaen llaw.

Dylid cynnwys data profi llawn ar gyfer unrhyw astudiaethau a gynhaliwyd ers yr awdurdodiad gwreiddiol yn y goflen. Hoffem hefyd i'r ffeil wreiddiol ac unrhyw wybodaeth ychwanegol arall gael ei chyflwyno fel rhan o'r gymeradwyaeth wreiddiol.  Efallai y byddwn ni hefyd yn gofyn am wybodaeth bellach os bydd ei hangen arnom ni i gwblhau ein hasesiad.

Ceisiadau parhaus

Os gwnaethoch gyflwyno cais am gyflasyn mwg i'r UE cyn 1 Ionawr 2021 ac nad yw'r broses asesu ar gyfer y cais hwn wedi'i chwblhau, bydd angen i chi gyflwyno'ch cais i ni gan ddefnyddio ein gwasanaeth gwneud cais am gynhyrchion wedi’u rheoleiddio. Wrth lenwi'r ffurflen gais, gofynnir i chi ddarparu'ch rhif cwestiwn EFSA.

Awdurdodiadau presennol

Os awdurdodwyd eich cyflasyn mwg gan y Comisiwn Ewropeaidd cyn 1 Ionawr 2021 a bod y ddeddfwriaeth angenrheidiol yn berthnasol, bydd yr awdurdodiad hwnnw'n parhau'n ddilys ym Mhrydain Fawr tan ei ddyddiad dod i ben (expiry date).

Faint o amser fydd fy nghais yn ei gymryd? 

Mae'r gyfraith yn cynnwys dyddiadau ar gyfer camau allweddol yn y broses:

•    6 mis ar gyfer yr asesiad risg
•    3 mis ar gyfer datblygu penderfyniadau rheoli risg

Gallai hyn fod yn hirach os yw’r cloc yn cael ei stopio wrth ofyn am wybodaeth newydd.

Bydd ansawdd y goflen, a'r wybodaeth a ddarperir, yn effeithio'n sylweddol ar yr amser sydd ei angen ar gyfer asesu ac awdurdodi. Rydym ni’n annog ymgeiswyr i ddilyn y canllawiau a darparu cymaint o wybodaeth â phosibl i sicrhau y gallwn ni brosesu'ch cais mor effeithlon â phosibl.  

Cymorth

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y weithdrefn awdurdodi neu'r gofynion ymgeisio, gallwch chi gysylltu â ni drwy regulatedproducts@food.gov.uk

Gwneud cais am awdurdodiad

Gwnewch gais i awdurdodi cyflasyn mwg gan ddefnyddio ein gwasanaeth gwneud cais am gynnyrch wedi’i reoleiddio.