Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Samplu pysgod cregyn atodol

Gwybodaeth am y cynllun samplu atodol ar gyfer gweithredwyr busnesau bwyd a chynaeafwyr pysgod cregyn

Gall cynaeafwyr pysgod cregyn gyflwyno samplau ychwanegol i'w cynnwys o fewn ein rhaglen monitro rheolaethau microbiolegol swyddogol ar gyfer dosbarthu pysgod cregyn. Gelwir y rhain yn samplau 'atodol'.

Mae parhau i ddosbarthu ardal gynaeafu (boed dosbarth A, B neu C) yn dibynnu ar ddadansoddiad ystadegol o ganlyniadau samplu. Po fwyaf o ddata sydd gennym, y lleiaf yw'r siawns i un canlyniad unigol effeithio ar y dosbarthu. Mae rhagor o ddata hefyd yn rhoi gwybodaeth inni am amrywiadau tymhorol ansawdd dŵr.

Mae data samplu pysgod cregyn yn cael ei asesu dro ar ôl tro a'r mwyaf o ddata sydd gennym ni, y mwyaf sefydlog y gall y dosbarthu fod. Mae hyn hefyd yn rhoi gwell syniad o unrhyw amrywiadau mewn ansawdd dŵr trwy gydol y flwyddyn.

Bydd canlyniadau'r samplu ychwanegol yn cael eu hasesu yn yr un modd â chanlyniadau'r samplu rheolaeth swyddogol. Bydd y rhain yn helpu i benderfynu ar ddosbarthu, agor a chau ardaloedd cynhyrchu.

Pwysig

Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE yng nghanllawiau’r ASB

Nid yw deddfwriaeth sy'n uniongyrchol gymwys i'r UE bellach yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Daeth deddfwriaeth yr UE a ddargadwyd pan ymadawodd y DU â’r UE yn gyfraith a gymathwyd ar 1 Ionawr 2024, yn unol â’r hyn a gyhoeddwyd ar legislation.gov.uk. Dylai cyfeiriadau at unrhyw ddeddfwriaeth yng nghanllawiau’r ASB sydd ag ‘UE’ neu ‘CE’ yn y teitl (er enghraifft, Rheoliad (CE) 178/2002) gael eu hystyried yn gyfraith a gymathwyd lle bo hynny’n gymwys i Brydain Fawr. Bellach, dylid ystyried cyfeiriadau at ‘Gyfraith yr UE a Ddargedwir’ neu ‘REUL’ fel cyfeiriadau at gyfraith a gymathwyd.  
 
Yn achos busnesau sy’n symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, mae gwybodaeth am Fframwaith Windsor ar gael ar GOV.UK.  
 
Mabwysiadwyd Fframwaith Windsor gan y DU a’r UE ar 24 Mawrth 2023. Mae’r Fframwaith yn darparu set unigryw o drefniadau i gefnogi llif cynhyrchion manwerthu bwyd-amaeth o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, gan ganiatáu i safonau Prydain Fawr o ran iechyd y cyhoedd mewn perthynas â bwyd, marchnata a deunyddiau organig fod yn gymwys i nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw a gaiff eu symud drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS).

England and Wales

Northern Ireland