Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Canllawiau ar alergenau ar gyfer arlwywyr sefydliadol

Canllawiau ar alergenau ar gyfer arlwywyr mewn ysgolion, ysbytai a chartrefi gofal.

Pan ddarperir bwyd gan sefydliadau, eu cyfrifoldeb nhw yw diogelu'r unigolion dan eu gofal. Er mwyn i'r bobl hyn fod yn ddiogel, dylent roi gwybod am alergeddau neu anoddefiadau bwyd sydd ganddynt, a dylai bod prosesau ar waith i sicrhau bod dewis bwyd diogel ar eu cyfer. Mae hyn yn arbennig o bwysig os nad yw'r unigolion yn gallu gwneud penderfyniadau diogel am fwyd eu hunain, neu os oes angen cymorth arnyn nhw i wneud hynny.

Rhaid i staff sy'n trin bwyd hefyd fod yn ymwybodol:

Cartrefi gofal 

Mewn cartrefi gofal, bydd 'cofnod gofal' sy'n amlinellu anghenion deietegol y preswylydd. Mae'n rhaid cael proses ar waith i sicrhau bod y rheiny sy'n gweini'r bwyd yn cael gwybod am yr anghenion dietegol ar y cofnod gofal.

Ysgolion

Mewn ysgolion, mae angen i staff cegin allu adnabod y rheiny sydd ag anghenion deietegol penodol yn hawdd.

Gallai arferion i nodi plant sydd ag anghenion deietegol fod mor syml â:

  • bandiau lliw ar arddwrn
  • llun o'r plentyn ynghyd â manylion eu halergedd yn y gegin neu'r ardal weini

Mae rhagor o wybodaeth a chyngor manwl i arlwywyr mewn ysgolion ar gael ar gwrs AllergyWise Ymgyrch Anaffylacsis. 

Posteri a deunyddiau i ysgolion

Ysgolion cynradd:

Poster Antur Alergedd – lliw

Poster Antur Alergedd – hawdd ei argraffu

Ysgolion uwchradd:

Poster gwybodaeth am alergenau i ysgolion