Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Canllawiau ar gig wedi’i wahanu’n fecanyddol (MSM)

Canllawiau ar gig wedi’i wahanu’n fecanyddol (MSM): Atodiadau

Pob atodiad ar gyfer y canllawiau ar gig wedi’i wahanu’n fecanyddol (MSM), gan gynnwys cwestiynau cyffredin a’r ddeddfwriaeth berthnasol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Gorffennaf 2025

Atodiad A: Cwestiynau cyffredin ynghylch MSM

Ymholiadau cyffredinol

Beth yw cig wedi’i wahanu’n fecanyddol (MSM)?

Ceir MSM trwy dynnu cig o esgyrn sy’n dwyn cnawd ar ôl tynnu’r esgyrn (ar gyfer rhywogaethau cig coch, mae hyn fel arfer yn cynnwys porc, gan fod MSM sy’n deillio o wartheg, defaid a geifr wedi’i wahardd); neu o garcasau dofednod. MSM yw’r cynnyrch os caiff ei dynnu gan ddefnyddio dulliau mecanyddol sy’n arwain at golli neu addasu strwythur ffeibrau’r cyhyrau.

Mae MSM yn ddiogel i ddefnyddwyr, gan dybio ei fod yn cael ei gynhyrchu yn unol â’r gofynion deddfwriaethol, a’i fod yn cael ei ddefnyddio fel cynhwysyn mewn amrywiaeth eang o gynhyrchion terfynol. Fodd bynnag, ni all gyfrif tuag at y ganran o gynnwys cig a nodir ar labelu’r cynhyrchion hynny o dan Reoliad a gymathwyd (CE) Rhif 1169/2011 ym Mhrydain Fawr / Rheoliad (CE) Rhif 1169/2011 yng Ngogledd Iwerddon.

Beth yw’r gwahanol fathau o MSM?

Mae dau isdeip o MSM, ac mae’r rhain yn dibynnu ar y technegau a ddefnyddir yn ystod y broses gwahanu mecanyddol. Yr isdeip a gynhyrchir sy’n pennu pa ddefnydd y caniateir ei wneud ohono. Yr isdeipiau yw: 

MSM a gynhyrchir gan ddefnyddio technegau nad ydynt yn newid strwythur yr esgyrn, ac nad yw ei gynnwys calsiwm yn sylweddol uwch na chynnwys briwgig (nid yw’n uwch na 0.1% (=100 mg/100 g neu 1000 ppm)). Weithiau cyfeirir at yr isdeip hwn gan y diwydiant fel MSM ‘pwysedd isel’; fodd bynnag, nid yw hwn yn derm sydd wedi’i ddiffinio yn y rheoliadau.

Mae dulliau cynhyrchu a defnyddio yn ddarostyngedig i ofynion hylendid a nodir yn Atodiad III i’r Rheoliadau, Adran V, Pennod III, paragraff 3; a gofynion labelu ym Mhennod IV.

Gellir defnyddio’r isdeip hwn mewn paratoadau cig y mae bwriad clir i’w coginio, ac mewn cynhyrchion cig. Mae enghreifftiau nodweddiadol yn cynnwys cynhyrchion nad ydynt yn barod i’w bwyta, fel byrgyrs a nygets cyw iâr.

MSM a gynhyrchir gan ddefnyddio technegau heblaw’r rhai a grybwyllir yn y pwynt uchod. Weithiau cyfeirir at yr isdeip hwn gan y diwydiant fel MSM ‘pwysedd uchel’; fodd bynnag, nid yw hwn yn derm sydd wedi’i ddiffinio yn y rheoliadau.

Mae dulliau cynhyrchu a defnyddio yn ddarostyngedig i ofynion hylendid a nodir yn Atodiad III i’r Rheoliadau, Adran V, Pennod III, paragraff 4; a gofynion labelu ym Mhennod IV. 

Dim ond wrth weithgynhyrchu cynhyrchion parod i’w bwyta sydd wedi’u trin â gwres gan sefydliadau cymeradwy y gellir defnyddio’r isdeip hwn. Mae enghreifftiau nodweddiadol yn cynnwys selsig wedi’u coginio fel frankfurters, a chig tun.

Pa dermau eraill a ddefnyddir gan y diwydiant ar gyfer MSM?

Mae ‘cig Baader’ a ‘chig 3mm’ ymhlith termau amgen a ddefnyddir gan y diwydiant i ddisgrifio cynhyrchion a gynhyrchir drwy wahanu cig yn fecanyddol, gan gyfeirio’n aml at frand y peiriannau a ddefnyddir, neu agorfa rhidyllu’r offer. Yn aml nid yw termau o’r fath yn ymwneud â’r math o gynnyrch a gynhyrchir ac nid ydynt wedi’u diffinio yn y gyfraith. Rhaid dosbarthu cynhyrchion a gynhyrchir yn unol â’r tri maen prawf cronnus sy’n pennu ai MSM yw cynnyrch fel ‘cig wedi’i wahanu’n fecanyddol’ neu ‘MSM’ a’u labelu’n briodol bob amser.

A oes unrhyw bryderon diogelwch bwyd yn gysylltiedig â chynhyrchu MSM?

Lle cynhyrchir MSM yn unol â gofynion hylendid bwyd, mae’r risgiau’n cael eu lleihau i lefel dderbyniol gan leihau pryderon diogelwch bwyd.

Mae gan MSM risg gynhenid y mae’r ffordd o’i baratoi a’i strwythur yn dylanwadu arni ac, o ganlyniad, rhaid bod mesurau lliniaru risg llymach ar waith ar gyfer y cynnyrch hwn. Mae’r gofynion cynhyrchu llymach ar gyfer MSM (er enghraifft,. deunyddiau crai a ganiateir, defnyddiau a ganiateir fesul isdeip a rheolaethau hylendid, gofynion microbiolegol ac ati), o gymharu â pharatoadau cig a briwgig, oherwydd natur fân neu ddarniog y cynnyrch.

A yw MSM sy’n deillio o wartheg, defaid neu eifr yn risg i iechyd y cyhoedd?

Mae defnyddio esgyrn gwartheg, defaid a geifr, neu ddarnau ag asgwrn, fel deunydd crai ar gyfer MSM wedi’i wahardd ers 2001 oherwydd pryderon iechyd y cyhoedd, yn benodol, y risg bosib o Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (TSE) gan gynnwys Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (BSE). 

A yw tynnu’r dogfennau canllaw blaenorol* yn ymwneud ag MSM yn ôl a chyhoeddi canllawiau newydd yn golygu bod newidiadau i’r gyfraith ar MSM

Nid oes unrhyw newidiadau i’r Rheoliadau o ganlyniad i’r Dyfarniadau; nid oes unrhyw ofynion deddfwriaethol ynghylch MSM wedi’u hychwanegu, eu diwygio, na’u dileu. Mae’r Llysoedd wedi cyhoeddi Dyfarniadau sy’n egluro sut y dylid dehongli a chymhwyso’r diffiniad o MSM yn Atodiad I i’r Rheoliadau.

 *Tynnwyd y canllawiau i’r moratoriwm ar ‘gig heb y gewynnau’ yn ôl (yn yr un modd â’r moratoriwm ei hun) ar 14 Tachwedd 2022.

Goblygiadau i weithredwyr busnesau bwyd

Beth mae’n rhaid i weithredwyr busnesau bwyd ei wneud?

Rhaid i weithredwyr busnesau bwyd sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol ynghylch MSM.

O ystyried yr eglurhad o’r diffiniad o MSM, efallai y bydd cynhyrchion nad oeddent wedi’u dosbarthu fel MSM yn flaenorol (hynny yw, cyn tynnu’r moratoriwm yn ôl ym mis Tachwedd 2022) y mae’n rhaid eu dosbarthu’n gywir bellach fel MSM. Mae hyn yn effeithio ar gategoreiddio’r cig fel MSM a’r defnydd o MSM fel cynhwysyn mewn cynhyrchion eraill. Bydd achosion lle efallai y bydd angen cymeradwyaeth i gynhyrchu MSM, a chyfrifoldeb y gweithredwr busnes bwyd yw sicrhau hyn drwy wneud cais i’w awdurdod cymwys (sef yr ASB neu awdurdod lleol).

Bwriad y canllawiau yw cynorthwyo gweithredwyr busnesau bwyd i gyflawni cydymffurfiaeth reoleiddiol. Bydd mesurau penodol i’w cymryd gan weithredwyr busnesau bwyd (er enghraifft, newidiadau labelu neu ailfformiwleiddio cynnyrch) yn amrywio fesul achos. Os oes angen cymorth ychwanegol ar weithredwr busnes bwyd, dylai gysylltu â’r ASB neu ei awdurdod lleol i gael cyngor.

Beth yw’r gofynion ar gyfer cynhyrchu MSM a’i roi ar y farchnad?

Mae gofynion hylendid bwyd wedi’u nodi yn y Rheoliadau ynghylch cynhyrchu MSM o borc a dofednod. Mae gofynion gwahanol yn gymwys i bob un o’r ddau isdeip o MSM (gweler y cwestiwn, Beth yw’r gwahanol fathau o MSM?). 

Nid yw MSM yn cyfrannu at gynnwys cig cynhyrchion terfynol, a rhaid ei labelu yn unol â gofynion deddfwriaethol (gweler y cwestiwn, Pan ddefnyddir MSM fel cynhwysyn, sut y dylid ei labelu?).

A fydd tynnu gewynnau a/neu dendonau o gig di-asgwrn trwy ddulliau mecanyddol yn arwain at MSM?

Mae’r canllawiau hyn yn tynnu sylw at y tri maen prawf cronnus y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn i gynnyrch gael ei ddosbarthu fel MSM, fel y nodir gan y Llysoedd.

Nid yw tynnu gewynnau a/neu dendonau o ddarnau cig di-asgwrn yn bodloni’r maen prawf cyntaf. Gan nad yw’r deunydd crai yn cynnwys asgwrn, nid yw’r meini prawf cronnus yn cael eu bodloni, felly, yn yr achos hwn, nid MSM yw’r cynnyrch terfynol.

Mae rhai gweithredwyr busnesau bwyd yn defnyddio dulliau mecanyddol i wahanu cig oddi wrth feinweoedd diangen (er enghraifft,  tendonau, gewynnau, cartilag, graean ac ati), fel rhan o broses gwirio ansawdd. Os nad dognau ag asgwrn neu gig heb esgyrn yw’r deunyddiau crai a ddefnyddir, nid yw hyn yn arwain at gynhyrchu MSM. Dylai fod gan weithredwyr busnesau bwyd weithdrefnau ar waith sy’n manylu ar ddibenion eu prosesau i egluro beth yw bwriad eu gweithgareddau.

Sut y caiff cig asgwrn tynnu dofednod ei ddosbarthu?

Mae’r diffiniad o MSM yn y Rheoliadau yn nodi: “mae cig wedi’i wahanu’n fecanyddol neu MSM yn golygu’r cynnyrch a geir trwy dynnu cig o esgyrn sy’n dwyn cnawd ar ôl tynnu’r esgyrn neu o garcasau dofednod, gan ddefnyddio dulliau mecanyddol sy’n arwain at golli neu addasu strwythur ffeibr y cyhyrau.”

O ran y defnydd o “tynnu cig o garcasau dofednod” yn y diffiniad: gall adfer cig yn fecanyddol o garcasau cyfan, unrhyw esgyrn, a darnau cig ag esgyrn, arwain at gynhyrchu MSM.

O ran defnyddio’r term “diesgyrnu” yn y diffiniad: mae hyn yn cyfeirio at gael gwared ar y cig sydd ar ôl ar esgyrn anifeiliaid ar ôl cwblhau cam cychwynnol y cigydda. Mae hyn yn golygu unrhyw beth ar ôl y toriad cyntaf neu’r weithred gyntaf o dynnu neu wahanu esgyrn neu ddarnau o gig o’r carcas.

Mae trimiau’r asgwrn tynnu yn cynnwys yr asgwrn tynnu gyda rhywfaint o gyhyr ynghlwm ar ôl iddo gael ei dynnu neu ei wahanu oddi wrth fron carcasau dofednod i ddechrau. Os defnyddir gwahanu mecanyddol wedyn i dynnu’r cig o’r asgwrn tynnu, mae hyn yn arwain at MSM, os caiff strwythur ffeibr y cyhyrau ei golli neu ai addasu.

Beth yw’r goblygiadau ar gyfer darnau o gig ag asgwrn sydd â chyhyrau cyfan ynghlwm?

Mae darnau o gig ag asgwrn gyda chyhyrau cyfan ynghlwm yn arwain at gynhyrchu MSM os ydynt yn mynd trwy broses wahanu mecanyddol a bod strwythur ffeibr y cyhyrau wedi’i golli neu ei addasu.

Mae gan rai darnau o gig ag asgwrn a ddefnyddir fel deunyddiau crai ar gyfer gwahanu mecanyddol rai cyhyrau cyfan ynghlwm (er enghraifft, asennau porc). Yn flaenorol (hynny yw, o dan y moratoriwm), efallai na fyddai cynhyrchion sy’n deillio o ‘doriadau’ o’r fath wedi’u dosbarthu fel MSM gan yr ystyriwyd nad oedd y maen prawf cyntaf (hynny yw, defnyddio esgyrn y mae’r cyhyrau cyfan eisoes wedi’u datgysylltu ohonynt) wedi’i fodloni. Mae’r defnydd hwnnw o’r maen prawf cyntaf yn anghywir, lle mae’r darn neu’r ‘toriad’ â’r asgwrn wedi cael ei ddiesgyrnu ac mae’r cyhyrau wedi’u tynnu i ryw raddau ymlaen llaw, hyd yn oed os nad oedd y diesgyrnu hwnnw’n cynnwys tynnu’r rhan fwyaf o’r cig a oedd ynghlwm wrth yr asgwrn yn wreiddiol.
 

A oes unrhyw wahaniaeth rhwng cynhyrchion gwahanu mecanyddol gan ddibynnu ar faint o gig sy’n weddill ar y deunydd crai a ddefnyddir?

Nac oes. Nid yw’r ddeddfwriaeth yn gwahaniaethu rhwng faint o gig gweddilliol sydd ar ôl ar y deunydd crai. Mae unrhyw esgyrn neu ddarnau o gig ag esgyrn sy’n mynd trwy wahanu mecanyddol yn arwain at MSM, os caiff strwythur ffeibr y cyhyrau ei golli neu ei addasu, waeth beth fo cyfrannau’r cig a’r asgwrn sy’n bresennol.

Sut y dylid asesu a yw strwythur ffeibr y cyhyrau wedi’i golli neu ei addasu?

Nid oes angen asesu strwythur ffeibr y cyhyrau trwy ddulliau microsgopig i benderfynu ai MSM yw cynnyrch. 

Pan ddefnyddir MSM fel cynhwysyn, sut y dylid ei labelu?

O ran labelu MSM yn ystod y broses gynhyrchu a chyn ei weithgynhyrchu i greu’r cynhyrchion terfynol, mae Erthygl 18 o Reoliad a gymathwyd (CE) Rhif 178/2002 ym Mhrydain Fawr / Rheoliad (CE) Rhif 178/2002 yng Ngogledd Iwerddon yn nodi bod yn rhaid sefydlu olrheiniadwyedd cynhyrchion ym mhob cam o’r prosesau cynhyrchu, prosesu a dosbarthu. Mae Erthygl 3 o Reoliad a gymathwyd (CE) Rhif 931/2011 ym Mhrydain Fawr / Rheoliad (CE) Rhif 931/2011 yng Ngogledd Iwerddon hefyd yn darparu gofynion olrheiniadwyedd ynghylch gwybodaeth sydd i’w darparu i gyflenwyr ac awdurdodau cymwys.

Rhaid labelu cig wedi’i wahanu’n fecanyddol fel y’i diffinnir yn Atodiad I i’r Rheoliadau yn y rhestr gynhwysion fel ‘cig wedi’i wahanu’n fecanyddol’ gydag enw(au) rhywogaethau’r anifeiliaid y mae’n deillio ohonynt.

Mae’r Rheoliadau’n nodi bod rhaid i becynnau a fwriadwyd ar gyfer y defnyddiwr terfynol sy’n cynnwys paratoadau cig sy’n cynnwys MSM gynnwys hysbysiad sy’n nodi y dylid coginio cynhyrchion o’r fath cyn eu bwyta.

Yr ASB sy’n arwain ar ddeddfwriaeth labelu yng Nghymru a Gogledd Iwerddon; Defra sy’n arwain ar ddeddfwriaeth yn Lloegr a Safonau Bwyd yr Alban sy’n arwain ar ddeddfwriaeth yn yr Alban.

Mae cyfraith labelu bwyd yn y DU wedi’i nodi mewn cyfuniad o gyfraith a gymathwyd (Prydain Fawr), cyfraith yr UE sy’n gymwys yn uniongyrchol (Gogledd Iwerddon), a deddfwriaeth ddomestig. Mae Rheoliad a gymathwyd (UE) Rhif 1169/2011, ar ddarparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr (FIC) ym Mhrydain Fawr / Rheoliad (CE) Rhif 1169/2011 yng Ngogledd Iwerddon yn un o’r prif ddarnau o ddeddfwriaeth sy’n pennu gofynion labelu bwyd. 

Yn ôl gofynion Erthygl 7.1 o’r FIC, ni chaniateir darparu gwybodaeth sy’n gamarweiniol ynghylch nodweddion bwyd, yn enwedig ei natur, ei hunaniaeth, ei briodweddau, ei gyfansoddiad, ei faint, pa mor hir y bydd yn para, ei wlad tarddiad neu ei fan tarddiad a’i ddull gweithgynhyrchu neu gynhyrchu. Mae Erthygl 17 yn ei gwneud yn ofynnol mai enw’r bwyd fydd ei enw cyfreithiol neu, yn absenoldeb enw o’r fath, ei enw arferol neu, os nad oes enw arferol neu os nad yw’n cael ei ddefnyddio, enw disgrifiadol. 

Mae Rhan B o Atodiad VII (i’r FIC) yn egluro na chaniateir labelu cynhyrchion sy’n cael eu dosbarthu fel MSM fel ‘cig’. Wrth ddatgan cynnwys cig bwyd, ni ddylid ystyried MSM yn gynnwys cig.

A fydd Dyfarniadau’r Llys neu weithredu’r Canllawiau hyn yn arwain at waredu cig, gan gynyddu gwastraff bwyd?

Nid yw’r Dyfarniadau’n atal unrhyw gynhyrchion a gynhyrchir yn unol â’r Rheoliadau rhag mynd i mewn i’r gadwyn fwyd. Mae MSM yn ddiogel i’w fwyta a’i ddefnyddio fel cynhwysyn. Rhaid dosbarthu, trin a defnyddio rhai cynhyrchion nad oeddent yn cael eu hystyried yn MSM o’r blaen (o dan ganllawiau’r moratoriwm) fel MSM yn unig nawr, lle bodlonir y tri maen prawf a nodir yn y canllawiau hyn. 

A ellir allforio MSM i’r Undeb Ewropeaidd/Gogledd Iwerddon?

Os yw busnes bwyd wedi’i gymeradwyo i gynhyrchu MSM ac mae wedi’i restru gan yr UE fel un sydd wedi’i awdurdodi i allforio MSM i’r UE, yna gellir allforio’r cynhyrchion i’r UE a Gogledd Iwerddon, os ydynt yn cydymffurfio â gofynion yr UE. Rhaid i’r holl allforion i’r UE/Gogledd Iwerddon, gan gynnwys MSM, fodloni gofynion yr UE, a rhaid iddynt gynnwys dystysgrif iechyd allforio (EHC) briodol. Mae Prydain Fawr wedi mabwysiadu EHC ar gyfer MSM porc. Felly gellir ei allforio i’r UE a Gogledd Iwerddon (gyda’r EHC) o sefydliad ym Mhrydain Fawr sydd wedi’i restru gan yr UE fel un sydd wedi’i awdurdodi ar gyfer allforio MSM porc. 

Nid oes EHC ar gyfer allforio MSM dofednod o Brydain Fawr i’r UE a Gogledd Iwerddon wedi’i sefydlu. Felly, ni ellir allforio MSM dofednod i’r UE a Gogledd Iwerddon ar hyn o bryd. Fodd bynnag, gellir allforio MSM dofednod a ddefnyddir wrth weithgynhyrchu paratoadau cig neu gynhyrchion cig ym Mhrydain Fawr fel rhan o’r paratoadau cig neu’r cynhyrchion cig hynny. Gellir symud nwyddau wedi’u pecynnu ymlaen llaw ar gyfer manwerthu sy’n cynnwys MSM i Ogledd Iwerddon trwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon o dan un dystysgrif gyffredinol (bydd angen allforio MSM mewn swmp ar gyfer prosesu pellach i Ogledd Iwerddon drwy EHC).

I ddod o hyd i EHCs a dogfennaeth gysylltiedig ar gyfer anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid, defnyddiwch y ddolen hon: Dod o hyd i dystysgrif iechyd allforio.

Atodiad B: Rhestr o’r ddeddfwriaeth berthnasol

Rheoliad a gymathwyd (CE) Rhif 853/2004 ym Mhrydain Fawr / Rheoliad (CE) Rhif 853/2004 yng Ngogledd Iwerddon

Rheoliad a gymathwyd (UE) Rhif 1169/2011 ym Mhrydain Fawr / Rheoliad (UE) Rhif 1169/2011 yng Ngogledd Iwerddon

Rheoliad a gymathwyd (CE) Rhif 999/2001 ym Mhrydain Fawr / Rheoliad (CE) Rhif 999/2001 yng Ngogledd Iwerddon

Rheoliad a gymathwyd (CE) Rhif 2073/2005 ym Mhrydain Fawr / Rheoliad (CE) Rhif 2073/2005 yng Ngogledd Iwerddon

Mae’r ASB yn cynnal adolygiadau rheolaidd i sicrhau bod canllawiau’n parhau i fod yn berthnasol. Fodd bynnag, ni all yr ASB warantu bod y dolenni a ddarperir yn gyfredol yn barhaus. Gweithredwyr busnesau bwyd sy’n gyfrifol am sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chyfraith bwyd, a dylent gymryd y camau angenrheidiol i sicrhau bod ganddynt fynediad at fersiynau cyfredol o’r gofynion deddfwriaethol.